x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Ydy AI yn Gallu Cymryd Lle Perthnasau Dynol?

Darlun o ferch yn siarad gyda robot yn y sgrin

Nid yw adnoddau AI fel ChatGPT a Gemini yn cael eu defnyddio ar gyfer help gyda gwaith cartref neu godio yn unig bellach. Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio adnoddau AI i lenwi bylchau emosiynol a chreu perthnasau, ac mae hyn yn tanio sgwrs am y posibilrwydd bod AI yn cymryd lle perthnasau dynol.

Beth mae AI yn gallu gwneud?

Ydy dy sgyrsiau ar-lein yn dechrau swnio’n fwy gwir na perthnasau yn dy fywyd go iawn? Mae systemau AI yn dysgu’n gyson gan bobl sy’n defnyddio’r meddalwedd felly maent yn dod yn fwy pwerus a chymhleth. Roedd pobl arfer defnyddio AI mewn ffordd eithaf syml, fel help gyda chwestiwn yn dy waith cartref neu ofyn am awgrymiadau am le i fwyta yn lleol, ond mae wedi datblygu yn llawer mwy na hyn erbyn rŵan.

Mae’n eithaf normal i ofyn i AI am gyngor bob hyn a hyn, ond rŵan mae sôn yn y newyddion ac ar gyfryngau cymdeithasol am bobl sy’n defnyddio AI i gymryd lle eu perthnasau go iawn.

Robot AI yn dal tablet o flaen dynes . Perthnasau AI

Pam bod pobl yn defnyddio AI yn lle pobl go iawn?

Os wyt ti’n stryglo gyda phryder cymdeithasol neu unigrwydd, gall AI gynnig teimlad o gwmnïaeth. Galli di ddweud cyfrinachau, rhannu dy deimladau a derbyn ateb yn syth. Gall hyn apelio, yn enwedig os wyt ti’n gweld cymdeithasu wyneb yn wyneb yn anodd.

Efallai dy fod wedi yn ystyried troi at AI yn rhamantaidd. Efallai ei fod yn gysur i ti nad yw AI yn dy feirniadu a’u bod ar gael trwy’r amser. Gall adnoddau AI greu cymeriadau manwl, sydd yn rhannu jôcs ac yn dangos agosatrwydd emosiynol. Galli di ofyn cwestiwn neu ofyn am jôc a gei di ateb sy’n teimlo’n bersonol.

Mae AI yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn ddienw felly mae hyn yn ei gwneud nhw’n adnodd poblogaidd i bobl sy’n chwilio am gefnogaeth iechyd meddwl. Efallai dy fod yn eu defnyddio i brosesu dy emosiynau, chwilio am gymorth neu reoli pryder. Mae AI yn gallu bod yn glust i wrando a dy gyfeirio at adnoddau defnyddio, ond mae’n bwysig cofio nid yw hyn yn gallu cymryd lle cyngor proffesiynol.

Bachgen yn siarad gyda robot

Beth mae pobl yn hoffi am berthnasoedd AI?

Mae AI ar gael drwy’r dydd, bob dydd. Gall roi cefnogaeth a sgwrsio yn syth.

Nid yw AI yn gwybod dim byd amdanat os nad wyt ti’n rhannu’r wybodaeth ac efallai bod hyn yn rhoi teimlad o ryddhad i ti, gan nad wyt ti’n gorfod rhannu profiadau o’r gorffennol.

Efallai bod rhannu dy deimladau yn ddienw gydag AI yn teimlo’n haws na siarad gyda pherson go iawn.

Gall AI addasu i dy anghenion a dy ddewisiadau, sy’n creu profiad personol iawn. Galli di greu dy berson ‘perffaith’ digidol yn hawdd, sydyn ac yn rhad.

Byd robotaidd yn cyffwrdd bys person. Perthnasau AI.

Ydy AI rhy dda i fod yn wir?

Mae gor-ddefnyddio AI yn gallu cael effaith negyddol ar dy sgiliau cymdeithasol a dy wytnwch emosiynol. Wedi’r cyfan, nid yw pawb yn dy fywyd go iawn am ymddwyn fel AI. Efallai dy fod am gael dy siomi gan berthnasoedd go iawn neu stryglo i ymdopi gyda sefyllfaoedd cymdeithasol. Os wyt ti wedi arfer gydag AI sy’n cytuno gyda thi bob tro, sut wyt ti am ymdopi gydag anghytuno gyda dy reolwr neu dy ffrindiau? Mae pobl go iawn yn gymhleth ac weithiau yn anodd ei deall. Maent yn cynnig gwir gysylltiadau sydd methu ei disodli gan AI.

Er bod AI yn gallu dynwared empathi, nid yw’n gallu deall emosiynau dynol. Mae’n ailadrodd beth mae’n meddwl ti eisiau clywed. Mae risg bod AI yn rhoi gwybodaeth anghywir i ti hefyd, yn enwedig am iechyd corfforol neu feddyliol.

Mae risg am rannu gormod gydag AI hefyd. Gallet roi dy hun mewn perygl i gael dy sgamio, manipiwleiddio neu dy ecsbloetio. Er enghraifft, gall AI gael ei ddefnyddi i greu proffiliau ffug neu e-byst ffug sy’n cymryd mantais o’r pethau mae’n gwybod amdanat ti.

Robot AI yn helpu bachgen i feddwl am syniadau

Pwysigrwydd cael balans

Mae’n bwysig cydnabod bod AI yn gallu bod yn adnodd gwerthfawr, ond ni ddylai gymryd lle perthnasau go iawn. Cymer amser i feddwl am faint o amser ti’n treulio yn sgwrsio gydag AI. Wyt ti’n esgeuluso dy berthnasau go iawn? Gwna ymdrech i ailgysylltu gyda’r bobl dy fywyd.

Os hoffet ti gael cyngor dienw gan wasanaeth dibynadwy, rhad ac am ddim gyda phobl go iawn, siarada â Meic. Gall Meic gynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim o 8yb tan hanner nos bob dydd. Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc 25 oed ac iau yng Nghymru. Galli di ffonio, anfon neges WhatsApp neu neges destun, neu ddefnyddio sgwrs ar-lein.