Tocynnau Bws £1 i Bobl Ifanc yng Nghymru

O’r 1af o Fedi 2025, bydd pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed yng Nghymru yn gallu teithio ar fysiau am £1 fesul siwrne sengl a £3 am docyn diwrnod. O’r 3ydd o Dachwedd 2025 bydd y cynllun yn ymestyn i gynnwys plant rhwng 5 a 15 oed hefyd.
Sut ydw i’n cael y tocyn £1?
Mae pobl ifanc 16-21 oed angen FyNgherdynTeithio, a galli di wneud cais am gerdyn rŵan ar wefan FyNgherdynTeithio. Mae’n ffurflen ar-lein rhwydd sydd yn gofyn am ychydig o fanylion a llun ohonot ti.
Gall ceisiadau gymryd ychydig o wythnosau i’w prosesu ond gallent gymryd hirach ar adegau prysur fel cychwyn y tymor. Felly, mae’n syniad da i wneud cais cyn gynted â phosib.
Unwaith ti’n derbyn dy gerdyn, cyflwyna’r cerdyn i’r gyrrwr ac fe wnei di dderbyn y tocyn rhatach. Mae’r cerdyn yn dy alluogi i gael y prisiau newydd gostyngedig yn ogystal â 30% oddi ar docynnau wythnosol, misol a blynyddol.
Pam cafodd y cynllun ei gyflwyno?
Prif nod y cynllun yw gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a fforddiadwy i bobl ifanc. Siaradodd Llywodraeth Cymru gyda nifer o bobl ifanc oedd yn dweud eu bod yn gwario llawer o arian ar deithio. Roedd hyn yn ei wneud yn anoddach iddynt gyrraedd llefydd fel ysgol neu goleg, gwaith, a digwyddiadau cymdeithasol gyda ffrindiau.
Drwy leihau costau teithio, mae’r cynllun yn helpu i gael gwared ar rwystrau a all gyfyngu ar gyfleoedd. Mae hyn yn bwysig yn enwedig i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig neu incwm isel. Gall pawb, ni waeth ble maen nhw’n byw neu faint o arian sydd ganddyn nhw, gyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd.
Gobeithio y bydd y cynllun hwn yn annog pobl ifanc i ddefnyddio bysiau’n amlach, sy’n wych i’r amgylchedd hefyd! Os bydd mwy o bobl yn teithio ar fws, mae’n lleihau traffig, allyriadau carbon, ac yn helpu i feithrin arferion o ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy.
Mae hefyd yn cefnogi dyfodol rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Mae gwasanaethau bysiau wedi cael trafferth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda llai o deithwyr. Drwy gael mwy o bobl ifanc yn defnyddio bysiau, gall y fenter hon helpu i hybu gwasanaethau lleol, cadw llwybrau pwysig yn rhedeg, a dangos bod bysiau yn ffordd ddibynadwy o deithio.
