x
Cuddio'r dudalen

Straen arholiadau yn achosi niwed

Gyda’r cyfnod arholiadau yn cyrraedd, mae ffigyrau newydd rhyddhawyd gan Meic – y llinell gymorth i bobl ifanc yng Nghymru – yn dangos bod y rhai sydd yn astudio, yn eistedd neu’n disgwyl canlyniadau arholiadau yn gyfrifol am 10% o holl gysylltiadau yn ystod 2014-2015.

Gydag Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hefyd yn digwydd o 11-17 Mai, mae Meic wedi rhyddhau ffigyrau yn dangos bod 19% o holl gysylltiadau arholiadau yn ystod 2014-2015 yn ymwneud ag iechyd meddwl.

Dywedai Alice, myfyriwr o Gaerdydd, “Yn aml mae’n ymddangos fel bod mwy o wybodaeth am symptomau straen nag y sydd o ffyrdd i’w oroesi. Mae’n fy ngwylltio i weld y holl dudalennau cyngor yma yn rhestru ‘symptomau straen’… dwi eisiau goroesi’r pla.”

Gallwch ddarllen erthygl nodwedd Alice, Casáu Bodolaeth Arholiadau, ar wefan ieuenctid Caerdydd, theSprout, ble mae Meic yn cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc.

Dywedai Pennaeth Meic, Stephanie Hoffman, “Gall arholiadau fod yn amser o newid, cyffro, pryder a disgwyliad, ble mae pobl ifanc yn gallu teimlo pwysau mawr ac ansicrwydd am y dyfodol.

“Mae Meic yma i helpu ac i gefnogi pobl ifanc mewn cyfnodau anodd fel straen arholiadau. Gallem wrando, siarad gyda chi a helpu chi i ddod o hyd i ffordd i symud ymlaen.”

Gall plant a phobl ifanc yng Nghymru, hyd at 25 oed, gysylltu â Meic 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn gyda negeseuo sydyn, neges testun, galwad ffôn neu e-bost.

Am wybodaeth bellach ymwelwch â www.meiccymru.org neu am gyngor gyrfaoedd cysylltwch â Gyrfa Cymru ar www.gyrfacymru.com