x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Stephen Lawrence a Hiliaeth ym Mhrydain

Llun o ddwylo yn yr awyr

Roedd Stephen Lawrence yn fyfyriwr Du Prydeinig 18 oed a gafodd ei lofruddio mewn ymosodiad hiliol yn Llundain yn 1993. Mae’n teimlo fel amser hir yn ôl, ond mae ei hanes dal yn bwysig iawn heddiw!

Er bod hyn wedi digwydd blynyddoedd yn ôl, mae’r materion a amlygwyd yn achos Stephen dal yn berthnasol heddiw. Rydym eisiau rhannu ei stori er mwyn helpu ti ddeall heriau hiliaeth a dod o hyd i dy lais mewn byd sy’n annheg weithiau.

Pwy oedd Stephen Lawrence?

Roedd Stephen yn ei arddegau ac yn byw yn Ne-ddwyrain Llundain gyda’i rieni, Neville a Doreen a’i frawd Stuart a’i chwaer Georgina.

Roedd yn fyfyriwr gyda swydd ran-amser, ac roedd yn rhannu ei amser rhwng ei waith ysgol a threulio amser gyda’i deulu a’i ffrindiau.

Roedd Stephen Lawrence yn debyg iawn i lawer ohonoch chi: ifanc, uchelgeisiol a llawn potensial ac roedd o eisiau bod yn bensaer. Fe gollodd ei fywyd yn llawer rhy ifanc oherwydd trais hurt yn Llundain yn 1993. Cafodd ei lofruddio gyda chyllell gan grŵp o bobl ifanc gwyn tra roedd o’n aros am fws.

Beth ddigwyddodd nesaf?

Ar ôl llofruddiaeth Stephen, fe arestiwyd pump o bobl o dan amheuaeth, ond ni ddedfrydwyd dim un ohonynt. Roedd nifer o wallau gyda’r ffordd roedd yn achos wedi’i thrin.

Yn 1998, fe arweiniodd ymchwiliad cyhoeddus at gyhoeddi Adroddiad Macpherson. Fe nododd yr adroddiad bod yr heddlu wedi methu (“anallu proffesiynol”), wedi gadael i agweddau hiliol effeithio ar sut oeddent yn trin pobl (“hiliaeth sefydliadol”) ac nid oedd rheolwyr wedi gwneud dim i atal hyn (“methiannau arweinyddiaeth”). Golygai hyn fod yr heddlu cyfan, nid dim ond ychydig o swyddogion drwg, yn ddiffygiol iawn yn y ffordd gwnaethant drin achos Stephen, a hynny yn bennaf oherwydd hiliaeth.

Ysgogodd yr adroddiad hwn newidiadau diwylliannol sylweddol yn y ffordd yr oedd hiliaeth yn cael ei deall a’i thrin ym Mhrydain.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2012, cafwyd Gary Dobson a David Norris yn euog o lofruddiaeth Stephen, diolch i dystiolaeth newydd.

Adnabod ac ymateb i hiliaeth

Mae stori Stephen yn ein hatgoffa bod hiliaeth dal i fodoli ac mae’n gallu achosi canlyniadau dinistriol. Mae’n bodoli mewn llawer o ffyrdd gwahanol, o iaith casineb amlwg i bethau microymosodol mwy cynnil.

Mae’n bwysig adnabod y gwahanol ffyrdd o hiliaeth yn dy fywyd dy hun, boed hynny yn yr ysgol, ar-lein, neu yn dy gymuned. Galli di:

  • Addysgu dy hun: Mae dysgu am wahanol ddiwylliannau a hanes yn bwysig. Chwilia am adnoddau sy’n darparu safbwyntiau cywir ac amrywiol fel llyfrau, podlediadau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  • Codi llais: Os wyt ti’n dyst i hiliaeth neu’n profi hiliaeth, paid ag aros yn dawel. Gall dy lais wneud gwahaniaeth.
  • Bydd yn gefnogol: Cefnoga dy ffrindiau a chyfoedion a all brofi hiliaeth. Bydd yn gefn iddyn nhw.
  • Defnyddia dy blatfform: Defnyddia gyfryngau cymdeithasol, celf, neu brotestio i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo newid cadarnhaol.
Merch ifanc du yn protestio gyda'i llaw yn yr awyr

Cefnogaeth

Mwy o wybodaeth am hiliaeth a gwahaniaethu.

Yn 2021, fe wnaeth ITV rhyddhau cyfres o’r enw Stephen am yr achos.

Fe sefydlwyd elusen Stephen Lawrence er cof amdano ac i barhau â’r gwaith i greu cymdeithas decach. Mae’r sefydliad yn ysbrydoli pobl ifanc i greu newid cadarnhaol yn eu cymunedau. Maent yn darparu adnoddau, cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc er mwyn herio rhagdybiaethau, datblygu sgiliau a defnyddio eu lleisiau.

Os ydy cynnwys y blog yma wedi cael effaith arnat ti, ac os hoffet ti siarad am hyn, galli di siarad efo ni yma yn Meic.