Senedd Yn Gwneud Penderfyniad ar Feddyginiaeth Atal y Glasoed
Yn ddiweddar, mae penderfyniadau wedi’u gwneud ar y pwnc o feddyginiaeth atal y glasoed yng Nghymru. Mae cyfraith newydd yn ei gwneud yn anoddach i bobl ifanc dan 18 oed i gael y cyffuriau yma.
Beth yw meddyginiaeth atal y glasoed?
Mae meddyginiaeth atal y glasoed (puberty blockers) yn gyffuriau sy’n gallu stopio’r corff rhag cynhyrchu hormonau naturiol. Gall hyn helpu i leihau newidiadau corfforol y glasoed, fel datblygu bronnau, tyfu gwallt ar y wyneb, neu’r llais yn dyfnhau.
Mae’r cyffuriau yma’n cael eu defnyddio weithiau gan bobl ifanc trawsryweddol ac sydd ddim yn cydymffurfio â chategorïau rhyw. Mae’n gallu helpu gyda dysfforia rhyw, sef rhywun yn dioddef am eu bod yn teimlo fel nad yw eu hunaniaeth rhyw yn cyfateb i’r rhyw a neilltuwyd iddynt pan ganwyd.
Mae pryderon nad ydym yn deall sgil-effaith hirdymor meddyginiaeth atal y glasoed yn iawn. Mae posib y gallant arafu datblygiad, effeithio ar allu i gael plant, a gwanhau esgyrn. Mae’r ansicrwydd yma, ynghyd â natur cymhleth hunaniaeth rhyw, yn golygu bod defnyddio’r feddyginiaeth yma yn bwnc dadleuol.
Y ddadl
Mae sawl barn wahanol am feddyginiaeth atal y glasoed.
Positif: Maent yn helpu pobl ifanc i deimlo’n well am eu hunain a gwella eu hiechyd meddwl.
Negyddol: Nid ydym yn deall y sgil-effaith yn llawn ac efallai y bydd pobl ifanc yn difaru eu cymryd wedyn.
Newidiadau diweddar yn y gyfraith
Yn 2020, gwnaeth Adolygiad Cass argymhellion am ofal pobl ifanc sydd â dysfforia rhyw, gan gynnwys defnyddio cyffuriau atal y glasoed. Ond, roedd pryderon am risgiau posibl y feddyginiaeth yma, yn enwedig yr effaith hirdymor.
Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon yma, cyflwynodd llywodraeth y DU ddeddfwriaeth frys ym mis Mai 2024 i gyfyngu mynediad i gyffuriau atal y glasoed i rai dan 18 oed yng Nghymru a Lloegr.
Ym mis Tachwedd 2024, pleidleisiodd y Senedd ar atalwyr y glasoed gan ei fod yn fater datganoledig. Golygai hyn fod gan Senedd Cymru’r grym i greu cyfreithiau ei hun ar faterion penodol, sy’n cynnwys gofal iechyd.
Penderfynwyd cadw at y rheolau newydd sydd yn cyfyngu mynediad i atalwyr glasoed, er bod rhai pobl yn anghytuno.
Effaith hyn
Mae’r rheolau newydd yn effeithio’n bennaf ar bobl ifanc sydd ddim wedi cychwyn cymryd cyffuriau atal y glasoed eto. Er nad ydynt yn gwahardd meddyginiaeth atal y glasoed yn gyfan gwbl, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn llawer anoddach eu cael.
I rai pobl ifanc trawsryweddol, gall oedi eu trawsnewidiad, gan achosi mwy o ofid a phryder. Gall eraill deimlo fel eu bod ar ben eu hunain a heb gefnogaeth, gan arwain at broblemau iechyd meddwl. Mae posib y gall rai pobl ifanc chwilio am driniaeth o lefydd sydd heb eu rheoleiddio. Gall hyn fod yn beryglus gan nad wyt ti’n gwybod yn union beth rwyt ti’n ei gael.
I eraill, gall gynnig amser a lle i feddwl os ydynt eisiau dechrau triniaeth feddygol a allai gael effaith hirdymor ar eu hiechyd.
Derbyn cymorth
Os yw’r newidiadau yma yn dy effeithio di fel person ifanc, mae’n bwysig cofio nad wyt ti ar ben dy hun!
Gall siarad â rhywun rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt, fel aelod o’r teulu, ffrind, neu weithiwr ieuenctid, fod yn ffordd wych o rannu dy deimladau a chael cymorth. Weithiau, mae dweud wrth rywun yn gallu tynnu pwysa mawr oddi arnat ti.
Ymuna â grwpiau cymorth lleol neu ar-lein, gallant roi ti mewn cysylltiad â phobl eraill sydd yn deall dy brofiadau a’th deimladau. Gall helpu gyda theimladau o dderbyniaeth, dealltwriaeth ac unigedd.
Mae ymarfer technegau hunanofal fel meddylgarwch, ioga, neu anadlu dwfn yn gallu helpu rheoli straen. Mae cymryd rhan mewn hobïau a diddordebau, yn ogystal â byw bywyd iach, yn gallu helpu gyda llesiant hefyd.
Os wyt ti angen cymorth proffesiynol, gallet ti gysylltu â chlinig hunaniaeth rhyw neu’r meddyg teulu.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae hwn yn fater cymhleth sy’n dal i newid. Mae posib gallai ymchwil pellach a thystiolaeth newydd newid y sefyllfa yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, gall Meic gefnogi plant a phobl ifanc gyda gwybodaeth, cyngor, ac eiriolaeth am y newidiadau yma yn y gyfraith, neu unrhyw beth arall sydd ar eu meddwl. Mae’r llinell gymorth ar agor i bob plentyn a pherson ifanc o dan 25 oed ledled Cymru o 8yb tan hanner nos bob dydd.
Mae gan Meic dudalennau Cael Help hefyd, sy’n llawn blogiau a dolenni i wasanaethau sy’n gallu helpu gyda bob math o faterion. Ewch draw i’r tudalennau Hunaniaeth Rhyw a Hunanofal a Dulliau Ymdopi.