x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Beth yw’r Broblem efo Goryfed Mewn Pyliau?

Bachgen yn eistedd ar y sofa gyda potel o alcohol wrth ei ochor. Mae'n pwyso ar fraich y soffa ac yn edrych yn sâl

Rydym wedi clywed y term “goryfed mewn pyliau” (binge drinking), ond beth yw ystyr hyn, a pham bod angen ei drafod?

Beth ydy goryfed mewn pyliau?

Nid cael ychydig i yfed gyda ffrindiau mae goryfed mewn pyliau’n olygu. Yfed llawer o alcohol mewn cyfnod byr o amser yw goryfed mewn pyliau. Mae’n cael ei ddiffinio fel yfed mwy na 6 uned o alcohol mewn un sesiwn i ferched, a mwy na 8 uned i ddynion. I roi hynny mewn persbectif, mae hynny tua thri pheint o lager cryf i ddyn, neu ddau wydryn mawr o win i ddynes.

Mae nifer o resymau pam bod pobl yn goryfed mewn pyliau. Mae rhai yn goryfed er mwyn delio gyda straen a phryder ac mae eraill yn gwneud er mwyn ffitio fewn gyda’i ffrindiau. Efallai bod rhai pobl yn mwynhau’r teimlad o fod wedi meddwi ac yn gweld yfed fel ffordd o ymlacio. Mae pwysau cymdeithasol yn cyfrannu hefyd, yn enwedig i bobl ifanc. Mae’r syniad bod rhaid i ti yfed er mwyn cael hwyl neu fod yn rhan o grŵp yn bwerus.

Mwy na theimlo’n sâl y bore wedyn

Y sgil effaith amlycaf o oryfed mewn pyliau ydi teimlo’n feddw ar y pryd ac yna’n sâl y diwrnod wedyn. Mae hyn yn cynnwys siarad yn aneglur, gwneud penderfyniadau gwael a chael trafferth canolbwyntio. Mae’n bosib colli dy gof o’r noson hefyd, mae hynny’n cael ei alw’n “blackout”.

Mae’r effeithiau yn mynd tu hwnt i deimlo’n sâl y diwrnod wedyn. Mae goryfed mewn pyliau yn gallu cynyddu dy risg o ddamweiniau ac anafiadau, fel disgyn, damweiniau car, a boddi hyd yn oed. Gall hefyd achosi i ti wneud pethau fel cael rhyw anniogel, sy’n cynyddu’r perygl o gael heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Mae gwenyn alcohol yn berygl difrifol arall, a gallet orfod mynd i’r ysbyty. Mae hyn yn digwydd pan ti’n yfed gymaint o alcohol a tydi dy gorff methu ei brosesu yn ddigon cyflym. Gall symptomau gynnwys, taflu fyny, anadlu’n araf, dryswch, a mynd yn anymwybodol. Mewn achosion difrifol gallu gwenwyn alcohol ladd.

Dau berson yn yfed wrth fwrdd, gyda golwg eithaf diflas ar ei gwyneb.

Effaith difrifol ar dy iechyd

Mae goryfed mewn pyliau yn gallu cael effaith sylweddol ar dy iechyd yn yr hir dymor.

O ran yr effaith corfforol, gall gynyddu’r perygl o ddatblygu cyflyrau iechyd difrifol fel clefyd y galon, clefyd yr iau, strôc a sawl math o gancr. Gall wanhau dy system imiwnedd hefyd, sy’n dy wneud yn fwy tebygol o gael heintiau.

Mae goryfed yn cael effaith negyddol ar dy iechyd meddwl hefyd. Mae’n gallu cyfrannu at iselder, pryder, a phroblemau iechyd meddwl arall. Gall darfu ar dy gwsg, sy’n achosi blinder a thrafferth canolbwyntio yn y dydd.

Effaith ar dy fywyd personol a chymdeithasol

Tu hwnt i’r peryglon iechyd, mae goryfed mewn pyliau yn gallu cael effaith sylweddol ar dy fywyd personol a chymdeithasol. Gall niweidio perthnasoedd gyda ffrindiau a theulu, creu problemau yn yr ysgol neu waith, a hyd yn oed achosi problemau cyfreithiol. Gall effeithio arnat yn ariannol hefyd gan fod prynu alcohol yn rheolaidd yn gallu bod yn gostus iawn.

Mae ffigyrau penodol yn newid flwyddyn i flwyddyn, ond mae ffeithiau a ffigyrau yn dangos effaith camddefnyddio alcohol ar gymunedau a gwasanaethau iechyd.

Dau berson yn gwylio rhywbeth ar y teledu gyda bwrdd yn llawn o wydrau. Blog goryfed

Gwneud penderfyniadau doeth

Darparu gwybodaeth yw nod y blog yma, nid dweud wrthyt ti beth i’w wneud. Yna gallet ti wneud penderfyniadau doeth ar sail gwybodaeth. Mae deall y peryglon sydd ynghlwm â goryfed mewn pyliau yn bwysig.

Mae newidiadau bach, fel gosod finiau i dy hun neu ddewis diod heb alcohol weithiau, yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Os wyt ti’n poeni am dy arferion yfed, neu arferion yfed rhywun arall, mae cymorth ar gael. Mae nifer o sefydliadau yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth am gamddefnyddio alcohol a goryfed mewn pyliau.

Ddim yn siŵr ble i gychwyn? Siarada â Meic! Mae llinell gymorth Meic yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth eiriolaeth am ddim gan gynghorydd llinell gymorth gyfeillgar i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Rydym ar agor o 8yb i hanner nos bob dydd, galli di ffonio, gyrru neges destun neu Whatsapp, neu sgwrsio ar-lein.