Sut i Ymdopi Gyda’r Pwysau i Yfed Alcohol yn Ystod y Nadolig
Mae’r Nadolig yn amser partis, dal i fyny a dathlu. Gall hefyd fod yn gyfnod o bwysau cymdeithasol anferthol, yn enwedig ynghylch alcohol. Os wyt ti eisiau yfed llai, neu ddim o gwbl yn ystod y Nadolig yma, dyma rai syniadau i helpu ti ymdopi gyda phwysau gan bobl eraill a mwynhau digwyddiadau cymdeithasol.
Dod o hyd i bobl sy’n dy gefnogi di
Dewis ffrind – rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw ac sy’n deall dy benderfyniad i beidio yfed. Mae cael ffrindiau cefnogol yn lleihau pwysau cymdeithasol a sgyrsiau lletchwith am alcohol ac yn dy alluogi i fwynhau digwyddiadau cymdeithasol.
Dewis di-alcohol
Gallet ti drio cwrw heb alcohol, moctêls neu ddiod meddwl ti’n ei fwynhau. Mae nifer o leoliadau yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd di-alcohol, sy’n golygu galli di fynd i’r un llefydd a phawb arall heb deimlo’n lletchwith wrth y bar neu deimlo pwysau i yfed.
Dewis a dethol ble ti’n mynd
Nid oes rhaid i ti fynychu bob digwyddiad ti’n cael dy wahodd i. Os mae’r syniad o fod mewn digwyddiad ble mae’n debygol iawn bydd pobl yn yfed yn dy boeni, mae’n iawn i ddweud na. Mae digon o ddigwyddiadau Nadoligaidd sydd ddim yn cynnwys yfed. Gallet ti fynd i ffair Nadolig, helpu allan yn dy fanc bwyd neu gegin gymunedol leol neu fwynhau cyngerdd Nadolig.
Cynnig gyrru (ond paid â bod yn dacsi)
Mae gyrru yn rheswm gwych i beidio yfed, ond gwna’n siŵr fod dy ffrindiau yn gwybod mai dim tacsi wyt ti! Gad iddyn nhw wybod o flaen llaw pryd ti’n bwriadu gadael fel eu bod yn gallu trefnu ffordd arall o fynd adref os ydyn nhw eisiau aros yn hwyrach.
Arbed arian
Mae’r Nadolig yn gallu bod yn gostus iawn ac mae alcohol yn ddrud. Gweithia allan faint wyt ti wedi’i arbed wrth beidio yfed, a rho’r arian tuag at anrheg Nadolig i ti dy hun.
Pam aros tan y flwyddyn newydd?
Mae llawer o bobl yn torri lawr ar alcohol fel adduned Blwyddyn Newydd neu yn rhoi cynnig ar beidio yfed drwy fis Ionawr. Drwy gychwyn yn gynt, ti’n rhoi’r siawns gorau i ti dy gyflawni dy darged yn y tymor hir. Efallai byddi di’n ysbrydoli ffrindiau neu aelodau o’r teulu yn ymuno â thi. Gallech chi gymryd agwedd mwy meddylgar tuag at alcohol gyda’ch gilydd.
Cyngor ymarferol
Nid oes rhaid i ti egluro i neb pam nad wyt ti’n yfed. Os wyt ti eisiau gwneud, dyma rai awgrymiadau:
- “Dwi’n fwy o hwyl yn sobor”
- “Dwi’n oce, diolch”
- “Deffro’n fuan fory”
- “Dwi’n gyrru”
Cefnogaeth ar gael
Os wyt ti eisiau siarad, mae Meic yma i wrando bob dydd o 8yb tan hanner nos. Galli di gysylltu â Meic dros y ffôn, neges testun, neges Whatsapp neu sgwrs ar-lein. Rydym yn cynnig cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth am ddim a chyfrinachol am beth bynnag sydd ar dy feddwl.