Rheol 50/30/20: Canllaw ar gyfer Cyllido

Wyt ti eisiau ffordd haws o reoli dy arian a chyllido’n ddoeth? Efallai bod y rheol 50/30/20 yn berffaith i ti!
Meddylia am dy arian yn mynd i dri bocs ar ôl i ti dalu treth.
50% ar gyfer pethau mae rhaid i ti gael
Mae’r pot yma ar gyfer pethau angenrheidiol. Gall hyn gynnwys:
- Lle ti’n byw: Dy rent neu dy ran o’r morgais, ac unrhyw filiau
- Bwyd: Siopa bwyd ac unrhyw hanfodion i’r tŷ
- Trafnidiaeth: Tocynnau bws neu drên, petrol i dy gar neu daliad car
- Biliau: Trydan, nwy, dŵr a’r we
- Taliadau benthyciadau: Yr isafswm mae’n rhaid i ti dalu yn ôl ar gyfer unrhyw fenthyciadau
- Eitemau gwaith neu ysgol: Unrhyw beth ti angen yn benodol ar gyfer gwaith neu’r ysgol
30% ar gyfer pethau hwyl
Dyma’r arian ar gyfer pethau ti’n eu mwynhau ac sy’n gwneud bywyd ychydig yn well, fel gweithgareddau. Pethau fel:
- Mynd allan: Prydau o fwyd gyda ffrindiau, tocynnau i’r sinema, gigs neu weithgareddau
- Eitemau: Dillad a nwyddau technoleg newydd, ac unrhyw beth sy’n dy wneud yn hapusach
- Edrych ar ôl dy hun: Torri dy wallt neu driniaethau harddwch
- Adloniant: Gwefannau ffrydio fel Netflix neu Spotify
- Gwyliau: Cynilo ar gyfer y trip nesaf
20% i’r dyfodol a thalu unrhyw ddyledion
Mae’r pot yma’n bwysig ar gyfer cyllido i dy ddyfodol a thalu unrhyw ddyledion. Gall yr arian yma fynd tuag at:
- Cyllido: Rhoi arian i un ochor ar gyfer rhywbeth argyfwng, blaendal ar gyfer tŷ, neu i roi ychydig o dawelwch meddwl i ti
- Ymddeoliad: Dechrau cyllido i pan fyddi di’n hŷn
- Talu dyledion yn gynt: Rhoi arian ychwanegol tuag at fenthyciadau neu gardiau credyd i arbed ar log a thalu nhw’n gyflymach
Sut i reoli’r rheol 50/30/20
Yn gyntaf, mae’n rhaid i ti wybod faint o arian ti’n derbyn bob mis. Gweithia allan faint o gyflog ti’n cael ar ôl talu treth ac unrhyw daliadau eraill fel Benthyciad Myfyrwyr, er enghraifft.
Lluosa’r swm sydd ar ôl gyda 50%, 30% a 20% i weld faint o arian fydd yn mynd i bob pot.
Cadwa lygad ar faint ti’n gwario bob mis. Galli di ddefnyddio ap, papur a phensil neu daenlen i wneud hyn.
Edrycha ar dy gyllideb bob hyn a hyn i weld os ydy o dal yn realistig i ti. Efallai bydd rhaid i ti wneud ychydig o newidiadau.
Camau nesaf
Mae’r rheol 50/30/20 yn ffordd wych o gael mwy o reolaeth dros dy arian heb orfod poeni gormod am greu cyllideb. Mae’n sicrhau dy fod yn talu am hanfodion, cae ychydig o hwyl a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Beth am roi cynnig arni a gweld os wyt ti’n teimlo mwy o reolaeth dros dy arian?
Weithiau, mae meddwl am bethau ariannol yn creu straen. Os wyt ti’n byw yng Nghymru ac o dan 25 oed, cofia am linell gymorth Meic. Rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth am bob math o faterion yn cynnwys problemau ariannol. Galli di gysylltu gyda ni dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein.
