x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Pobl 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf

Dau berson yn rhoi eu pledileisiau i fewn i'r bocs pleidleisio

Yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf bydd tua 1.5 miliwn o bobl 16 a 17 oed yn gymwys i bleidleisio. Dyma’r newid mwyaf i hawliau pleidleisio ers i’r oed pleidleisio gael ei leihau o 21 i 18 oed yn 1969.


Pam cafodd y newid yma ei gyflwyno?

Mae nifer o gefnogwyr y newid yma yn dweud ei fod yn fater o degwch. Yn 16, gall pobl weithio, talu trethi ac ymuno â’r fyddin, ond nid ydynt yn cael pleidleisio. Mae nifer o bobl ifanc yn ymgysylltu gyda materion cyfoes drwy’r ysgol, cyfryngau cymdeithasol neu ymgyrchu cymunedol. Mae nifer o bobl ifanc yn dweud y dylent gael dylanwadu ar sut mae’r wlad yn cael ei lywodraethu a chynnwys eu lleisiau yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

An illustration showing a person exchanging money for a home

Gwella ymgysylltiad gwleidyddol

Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, y grŵp oedran 18 i 24 oedd gan y niferoedd pleidleisio isaf sef tua 37% ond gall rhoi’r bleidlais i bobl 16 a 17 oed wella ymgysylltiad gwleidyddol yn y tymor hir. Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n cychwyn pleidleisio yn ifanc yn fwy tebygol i barhau i bleidleisio am weddill eu hoes.


Yng Nghymru a’r Alban, gall pobl 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol ac etholiadau Senedd cenedlaethol. Mae tystiolaeth o refferendwm annibyniaeth yr Alban yn dangos bod pobl ifanc wedi cymryd diddordeb yn y refferendwm ac wedi cymryd eu pleidlais yn ddifrifol, gyda niferoedd pleidleisio yn y grŵp yma yn cymharu’n ffafriol gyda grwpiau hŷn.


Gall y newid yma i oed pleidleisio olygu bod pleidiau gwleidyddol yn ceisio apelio i’r grŵp newydd yma o bleidleiswyr. Gall hyn olygu fod mwy o bolisïau yn canolbwyntio ar flaenoriaethau pobl ifanc fel gweithredu dros yr hinsawdd, iechyd meddwl, diogelwch ar-lein a phrisiau tai.

Illustration of an ID card

Sut i bleidleisio

Cofrestru i bleidleisio: Mae’r llywodraeth yn cynllunio i gyflwyno system cofrestru awtomatig yn y blynyddoedd nesaf. Bydd pobl yn cael gwybod os ydynt wedi cofrestru a gallent ddewis i optio allan. Ond am rŵan, mae angen i bawb gofrestru.


Galli di gofrestru i bleidleisio pan ti’n 16 oed, hyd yn oed cyn i’r cyfreithiau newydd gael eu cyflwyno. Y ffordd hawsaf yw ar wefan y llywodraeth. Byddi di angen dy rif Yswiriant Cenedlaethol a chod post. Dim ond 5 munud mae’n cymryd.


Be fyddi di angen:

  • Dy rif Yswiriant Cenedlaethol
  • Dy gyfeiriad
  • Cerdyn adnabod gyda llun pan ti’n mynd i bleidleisio (fel pasbort neu drwydded yrru). Fel rhan o’r cynlluniau newydd i wneud siŵr bod pob person sydd eisiau pleidleisio yn gallu gwneud, bydd cardiau banc yn cael eu derbyn fel ffurf o ID yn yr orsaf pleidleisio

Dyddiadau pwysig: Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi’r newidiadau yma yng Ngorffennaf 2025. Mae Senedd San Steffan dal angen cymeradwyo’r newidiadau, ond dylai fod yn barod erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf (sydd yn gorfod digwydd erbyn Awst 2029 ar yr hwyraf)