Pam dylwn i bleidleisio?

Beth mae’r llywodraeth yn ei wneud i bobl ifanc beth bynnag?
Mae gwleidyddion yn gwybod nad yw’r mwyafrif o bobl ifanc yn pleidleisio mewn etholiadau cyffredinol. Mae’n debygol eu bod yn llai awyddus i wneud pethau ar ein rhan oherwydd hynny. Cymhara hyn gyda’r ffigwr o 78% o bobl dros 65 yn pleidleisio, ac mae’n gwneud synnwyr pam bod gwleidyddion, pa unai yw hynny’n iawn neu beidio, yn gwneud mwy ar ran y grŵp oedran yma (e.e. trwyddedau bws a theledu am ddim a chodiad pensiwn pendant bob blwyddyn).
Dim ond 43% o bobl ifanc 18-24 oed bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2015.
Dychmyga os bydda 78% o bobl ifanc 18-24 yn pleidleisio mewn etholiadau. Byddai hyn yn gorfodi’r pleidiau gwleidyddol i wneud mwy a dechrau dod i’r afael mwy ar y materion sydd yn cael effaith ar bobl ifanc. Materion fel:
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg a ffioedd dysgu
- Cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth
- Prentisiaethau o ansawdd dda
- Tai a buddiannau eraill i rai dan 25
- Darpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl
- Mynediad i dai gweddus
- Troseddu a dieithrio cymdeithasol
- Diogelwch personol
- Newid hinsawdd
Pleidleisio ydy’r ffordd fwyaf effeithiol i hysbysu’r llywodraeth a phleidiau gwleidyddol eraill o’r pethau rwyt ti’n ei ddisgwyl yn gyfnewid am dy bleidlais.
Ydy’r pleidiau gwleidyddol i gyd yr un fath?
Y prif bleidiau gwleidyddol sy’n sefyll yng Nghymru ydy:
Clicia ar y dolenni i weld beth sydd gan y pleidiau yma i’w gynnig.
Darganfydda fanylion pellach am sut i gofrestru i bleidleisio a mwy:
https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Prif lun © Aniwhite / Shutterstock