Bod yn Gyfaill: Canllaw Gwrth-hiliaeth

Beth yw gwrth-hiliaeth, a sut ydw i’n bod yn wrth-hiliol?
Beth yw hiliaeth?
Hiliaeth yw pan fydd rhywun yn gas at berson arall, neu’n annheg iddynt, oherwydd ei hil neu ei ethnigrwydd. Gall hyn fod ar lefel bersonol, fel bwli yn galw enw ar rywun. Ond gall hefyd fod yn broblem fwy mewn cymdeithas. Enghraifft o hyn yw pan fydd pobl o rai grwpiau ethnig yn cael eu trin yn annheg gan yr heddlu. Mae hiliaeth yn ymwneud â mwy na bod yn angharedig. Mae’n ymwneud â systemau pŵer lle mae un grŵp yn cael ei ffafrio dros un arall.
Weithiau, mae pobl sydd ddim yn hiliol yn dal i elwa o hiliaeth. Efallai y bydd ganddynt fwy o fanteision mewn bywyd oherwydd lliw eu croen yn unig. Gelwir hyn yn fraint.

Beth yw gwrth-hiliaeth?
Mae bod yn wrth-hiliol yn ymwneud â gweithredu. Mae’n golygu nad yw dweud, “Dydw i ddim yn hiliol” yn ddigon. Rwyt ti’n gwneud pethau i atal hiliaeth. Mae’n ymwneud â sylwi ar hiliaeth yn digwydd a gwneud rhywbeth am y peth, fel bod yn barod i dynnu sylw ato pan fyddi di’n gweld hiliaeth yn digwydd. Mae gwrth-hiliaeth yn syniad pwerus sy’n ymwneud â gwneud pethau’n deg i bawb.
Sut mae gwrth-hiliaeth yn wahanol i fod yn “ddim yn hiliol”?
Mae bod “ddim yn hiliol” yn ddechrau da, ond nid yw’n ddigon. Mae fel dweud nad wyt ti’n berson drwg, ond nid yw hyn yn golygu dy fod di’n berson da ar ben ei hun. Mae bod “ddim y hiliol” yn golygu nad wyt ti’n gwneud pethau cas i bobl eraill. Mae bod yn “wrth-hiliol” yn golygu dy fod di’n weithredol yn helpu eraill ac yn gweithio i wneud pethau’n well.
Os wyt ti’n gweld rhywun yn cael ei fwlio, mae bod “ddim yn hiliol” yn golygu nad wyt ti’n ymuno yn y bwlio, ond mae bod yn “wrth-hiliol” yn golygu dy fod di’n sefyll i fyny drostynt. Rwyt ti’n dweud wrth y bwli am stopio, neu rwyt ti’n dweud wrth athro. Rwyt ti’n bod yn gyfaill.

Beth allwn ni ei wneud?
- Gwrando – Gwrando ar yr hyn sydd gan bobl o wahanol gefndiroedd i’w ddweud am eu profiadau, a’u credu. Peidio dweud wrthynt nad yw eu profiadau yn wir.
- Dysgu – Deall pam fod hiliaeth yn bwysig. Darllen llyfrau ac erthyglau gan wahanol awduron. Gwylio rhaglenni dogfen a ffilmiau. Bydd hyn yn helpu ti i ddeall pam ei fod yn dal i effeithio ar bobl heddiw.
- Dweud rhywbeth – Os wyt ti’n gweld rhywbeth hiliol yn digwydd, dyweda rywbeth. Mae hyn yn gallu teimlo braidd yn frawychus weithiau, ond mae’n bwysig. Os na fedri di ddweud rhywbeth ar y foment honno, riportia’r peth wedyn.
- Addysgu – Addysga eraill trwy ddweud wrth ffrindiau a theulu beth rwyt ti wedi’i ddysgu. Helpa nhw i ddeall.
- Meddwl – Adlewyrcha ar y pethau ti’n ei wneud ac yn meddwl. Oes gen ti unrhyw ragfarnau cudd? Rhagfarn yw tueddu tuag at, neu yn erbyn, rhywbeth. Er enghraifft, efallai credu bod grŵp penodol o bobl bob amser yn dda mewn chwaraeon – mae hyn yn rhagfarn. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o’n rhagfarnau er mwyn stopio’r rhain rhag effeithio ar sut rydym yn trin eraill. Drwy wneud y pethau hyn, rwyt ti’n helpu i greu byd tecach i bawb.
