Deall ‘Shrinkflation’: Cynnyrch yn Mynd yn Llai, Pris yn Aros yr Un Peth

Wyt ti erioed wedi meddwl fod dy hoff fwydydd o’r siop yn mynd yn llai ac yn llai? Efallai dy fod yn iawn! Dyma flog sy’n esbonio ‘shrinkflation’ a beth mae hyn yn ei olygu i ti
Beth yw shrinkflation?
Dychmyga estyn am dy hoff far o siocled neu baced o greision, ac mae’n teimlo’n llai. Ond, mae’r pris yr un peth a ti’n cofio. Dyma beth yw shrinkflation.
Mae hyn yn ffordd glyfar a chyfrwys i gwmnïau leihau maint cynnyrch a chadw’n pris yr un peth, neu ei leihau ychydig bach. Yn y bôn, rwyt ti’n talu’r un faint o arian am lai o gynnyrch.
Pam bod nwyddau yn mynd yn llai?
Mae hyn yn digwydd oherwydd cost cynhyrchu’r nwyddau. Os mae pris cynhwysion fel coco, gwenith neu siwgr yn cynyddu, mae cwmnïau yn gorfod gwneud penderfyniad. Gallent:
- Cynyddu’r pris: Dyma’n ateb mwyaf amlwg, ond mae cwmnïau yn poeni byddai cwsmeriaid yn troi at gwmni arall er mwyn cael pris rhatach.
- Amsugno’r gost: Mae’r cwmni yn colli ychydig o’r elw, sydd ddim yn gynaliadwy yn y tymor hir.
- Lleihau’r maint: Dyma beth yw shrinkflation. Drwy wneud y cynnyrch ychydig yn llai, gallent gadw’r pris yr un fath wrth dal i wneud elw.
Mae’n ffordd i gwmnïau ymdopi a chostau cynyddol heb orfod newid y pris yn sylweddol i gwsmeriaid.
Talu sylw i’r deunydd pacio
Sut wyt ti’n sylwi ar shrinkflation? Mae’n rhaid i ti wneud ychydig o waith ditectif! Paid â dibynnu ar sut mae’r cynnyrch yn edrych, edrycha ar:
- Pwysau: Edrycha ar y pwysau net (fel arfer mewn gramau neu gilogramau)
- Cyfaint: Ar gyfer hylifau, edrycha ar y cyfaint (fel arfer mewn mililitrau neu litrau)
- Os wyt ti’n prynu rhywbeth yn rheolaidd, trïa edrych allan am unrhyw newidiadau i faint y cynnyrch
Cymharu prisiau fesul uned
Ffordd arall i leihau effaith shrinkflation yw deall prisiau fesul uned. Ystyr hyn yw edrych ar faint wyt ti’n talu am swm penodol o’r cynnyrch (fesul gram neu fesul litr er enghraifft).
Mae nifer o archfarchnadoedd yn dangos y wybodaeth yma ar y labeli. Un enghraifft ydy edrych ar y pris fesul rolyn o bapur toilet. Efallai bydd paced mawr yn ddrytach, ond os yw’r pris fesul uned yn rhatach, efallai byddai’n well i ti brynu’r paced mawr.
Mae’n syniad da i ti gymharu prisiau fesul uned gwahanol frandiau hefyd, er mwyn i ti weld pa un sy’n cynnig y gwerth gorau am arian, hyd yn oed os ydy’r pris ar y label yn debyg.
Ystyried dewis gwahanol
Yn olaf, paid â bod ofn trio rhywbeth gwahanol! Os ydy dy hoff fwydydd wedi lleihau yn sylweddol, mae’n werth i ti ystyried:
- Brandiau gwahanol: Efallai bydd brand arall yn cynnig mwy o gynnyrch am bris tebyg
- Gwahanol feintiau: Weithiau mae prynu pecyn mwy, er yn ddrytach yn y lle cyntaf, yn fwy cost-effeithiol yn y tymor hir
- Gwneud o dy hun: Gyda rhai eitemau, fel byrbrydau neu nwyddau wedi’u coginio, mae coginio nhw dy hun yn gallu bod yn rhatach ac yn fwy cost-effeithiol.
Nid yw shrinkflation yn broblem anferthol, ond mae pethau bach fel hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth. Drwy fod yn ymwybodol o hyn, a defnyddio’r cyngor yma, galli di siopa’n ddoeth a sicrhau dy fod yn cael y gwerth gorau am dy arian!
Edrycha ar wefan Meic am fwy o gyngor am arian
