x
Cuddio'r dudalen

Cadw’n Heini Heb Wario Ffortiwn

Mae hi’n amser yna o’r flwyddyn eto pan rwyt ti wedi bwyta llwyth o siocled a jync dros y Nadolig. Ti am fwyta ychydig yn iachach ac yn teimlo egni i gadw’n heini. Mae arian yn aml yn dynn i bobl ifanc, ond mae’n dynn ar fanc mam a dad yn fis Ionawr hefyd. Felly sut mae cadw’n iach yn rhad?

Gall mynd i’r gampfa fod yn wirion o ddrud ond mae yna lawer o ffyrdd rhad (neu am ddim) i gadw’n heini yn y Flwyddyn Newydd. Beth am roi tro ar chwaraeon newydd? Gallet ti gael ychydig o ffrindiau at ei gilydd am gic fach neu i fynd i redeg neu gerdded. Neu os nad yw ffrindiau a theulu yn teimlo cymaint o ysgogiad a thi, yna gallet ti chwilio am dîm chwaraeon lleol ac ymuno gyda phobl eraill o’r un meddylfryd. Mae yna ddigon o ddewisiadau gwahanol yn hytrach nag ymuno â champfa sydd yn debygol o gostio llawer llai.

Rhed fel y gwynt!

Mae yna fuddiannau iechyd gwych i redeg. Mae’n rhad ac am ddim, yn gallu cael ei wneud unrhyw dro ac yn ffordd grêt i ymwared ar unrhyw bwysau ychwanegol.

Mae gan y Gwasanaeth Iechyd gefnogaeth wych i redwyr. Maent yn cynnal rhaglen gelwir yn ‘Couch to 5k’. Mae hwn wedi’i ddylunio i symud unrhyw gychwynnwr o’r soffa i 5 cilomedr/3 milltir mewn 9 wythnos. Gallet ti lawr lwytho rhaglen am ddim i dy ffôn i fonitro dy gynyddiad, mae yna bodlediad ysgogol i wrando arno wrth redeg ac erthyglau am brofiadau eraill sydd wedi rhoi tro ar y sialens i’th ysbrydoli.

Rhedeg erthygl cadw'n heini

Rhedeg yn y parc

Os wyt ti wedi bod yn rhedeg yn barod, ond yn chwilio am ychydig o ysgogiad i roi hwb i ti’r mis Ionawr hwn, yna edrycha ar Parkrun. Mae’r rhain yn rhedeg wythnosol, wedi’i drefnu’n lleol, sydd yn digwydd ledled Cymru yn ogystal â rhannau eraill o’r DU. Mae’n rhad ac am ddim i ymuno. Mae’r rhedeg yn cael ei amseru ac yn digwydd bob penwythnos. Mae’n ysgogi’r rhedwyr i ymarfer drwy’r wythnos yn barod i gystadlu yn erbyn rhedwyr eraill, neu amser dy hun.

Mae’r syniad o redeg gyda phobl eraill, yn enwedig oedolion sydyn, yn gallu codi ofn ar rywun i gychwyn. Ond mae yna lawer o bobl o bob oedran, siapiau a maint yn cymryd rhan mewn Parkrun. Gellir mynd a dy gi gyda thi i rai ohonynt hefyd i roi ychydig o gefnogaeth i ti. Edrycha ar y wefan am fanylion sut i gofrestru.

Cerdded yn heini

Cerdded ydy un o’r ffyrdd hawsaf i gadw’n heini. Nid oes rhaid i ti deimlo fel dy fod yn gwneud ymdrech fawr i ymarfer y corff. Os wyt ti’n mynd i gyfarfod dy ffrindiau i dreulio amser a sgwrsio gyda nhw beth bynnag, yna beth am wneud hyn wrth gerdded? Gallet ti hyd yn oed arbed arian wrth gymryd y bws yn llai aml a cherdded yn lle hynny. Y peth grêt am gerdded ydy bod posib gwneud hyn yn unrhyw le; gellir ei wneud yn ystod yr egwyl/cinio yn yr ysgol/gwaith wrth gerdded a siarad o gwmpas yr iard/strydoedd. Cynnwys ychydig o gerdded bywiog i mewn i dy drefn ddyddiol. Mae’r lefel yma o weithgaredd yn gyson yn gallu gwella a chynnal dy ffitrwydd.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn awgrymu mai 10,000 o gamau’r dydd sydd yn ddelfrydol i gynnal iechyd a ffitrwydd. Am wybodaeth bellach ac awgrymiadau defnyddiol ar gerdded, edrycha ar yr erthygl yma ar PwyntTeulu.cymru.

Diogelwch yn gyntaf

Os wyt ti’n mynd i redeg neu gerdded cofia cadw dy hun yn ddiogel. Ceisia fynd yn ystod oriau dydd a dweud wrth oedolyn ble rwyt ti’n mynd a pryd rwyt ti’n meddwl dychwelyd. Cer a dy ffôn gyda thi rhag i ti fod angen galw rhywun i bigo ti fyny. Os yw’n tywyllu cyn i ti ddychwelyd gallet ti ddefnyddio’r dortsh ar y ffôn.

Cyfra dy gamau

Wyt ti wedi cael fitbit (brandiau eraill ar gael!) fel anrheg Nadolig? Neu oes rhywun yn y teulu sydd â pedomedr nad ydynt yn defnyddio gallet ti ei fenthyg? Os ddim yna gallet ti ddefnyddio dy ffôn clyfar a lawr lwytho’r rhaglen myfitnesspal am ddim a’i ddefnyddio fel pedomedr (mae posib monitro diet ar y rhaglen yma hefyd). Gosoda targed o gamau dyddiol i ti dy hun a cheisio curo hyn bob dydd.

Gallet ti gofrestru ar gyfer yr Her Pedomedr Cymru. Mae Dewch i Gerdded Cymru yn caniatáu i ti roi her i ti dy hun, dy deulu, ffrindiau neu gyd-weithwyr i weld pwy sydd yn gallu cael y nifer fwyaf o gamau. Mae posib cofrestru fel unigolyn neu fel tîm (ysgol, gwaith, teulu ayb) ac mae yna dabl cynghrair misol i ti geisio cyrraedd y brig.

Heria dy hun

Os mai ysgogiad ydy dy broblem yna beth am osod her i ti dy hun am ddyddiad yn y dyfodol a gweithio tuag ato. Gallai fod yn anodd gwybod ble i gychwyn ac yn aml dyma pam bod pobl yn defnyddio hyfforddwyr personol a gwasanaethau campfa ddrud. Ond mae yna ddewisiadau am ddim, fel realbuzz.com ble gallet ti osod heriau iechyd a ffitrwydd dy hun. Mae ganddynt restr o heriau gallet ti osod i ti dy hun, arweiniad ar y lefel o heriau i ddewis, pa mor hir bydd hyn yn ei gymryd a chynllun hyfforddi pwrpasol.

Ysgogiad Tîm

Gall hyfforddiant o fewn tîm ysgogi rhywun hefyd. Os wyt ti eisiau dod yn ffit ond ddim eisiau gwneud hynny ar ben dy hun, yna beth am feddwl ymuno a thîm neu grŵp sydd yn cadw’n heini gyda’i gilydd. Mae Meet Ups yn wefan gwych sydd yn hwyluso cyfarfodydd grŵp ledled y wlad. Mae yna gategori ar chwaraeon a ffitrwydd. Yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy rhoi dy god post a dechrau chwilio. Cofia ddilyn y cyngor diogelwch, cer a rhywun gyda thi a dweud wrth rywun ble rwyt ti’n mynd.

Nofio am ddim

Paid anghofio buddio o’r nofio am ddim sydd ar gael i rai dan 16 yng Nghymru. Mae pob awdurdod lleol yn cynnal sesiynau nofio am ddim ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau haf gall y rhain ddigwydd yn ddyddiol am hyd at 14 awr o nofio am ddim yr wythnos. Mae nofio yn ymarfer y corff cyfan gan ddefnyddio holl gyhyrau’r corff ond mewn ffordd effaith isel. Mae’n achosi’r galon i guro, yn llosgi calorïau ac yn cryfhau’r cyhyrau.

Defnyddia dy ganolfan hamdden

Cofia am dy ganolfan hamdden leol. Edrycha ar y rhestr o weithgareddau a dosbarthiadau sydd yn digwydd yno, weithiau mae ganddynt fargeinion arbennig i bobl ifanc.

Galwa Meic

Gobeithiwn fod yr awgrymiadau yn helpu ti yn dy fwriad o ddod yn iachach ac yn fwy ffit. Os wyt ti’n poeni o gwbl am dy iechyd neu ffitrwydd, yn poeni am dy edrychiad o gwbl, neu eisiau siarad mewn cyfrinachedd gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna cysyllta â’n cynghorwyr cyfeillgar ar y llinell gymorth Meic.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.