Annwyl Gorbryder – Darn o Farddoniaeth

Mae dydd Sadwrn, 10 Hydref 2020, yn Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, cyfle da i ofalu am dy iechyd meddwl, chwilio am help a ffyrdd i ymdopi. Roeddem yn ffodus iawn i dderbyn y darn o farddoniaeth yma gan berson ifanc ac yn teimlo bod nawr yn amser perffaith i’w rannu.
To read this article in English, click here
Cyflwynwyd y gerdd hon i Meic yn Saesneg. Mae hwn yn gyfieithiad o’r gwaith gwreiddiol.
Gorbryderus
gan Paige’Sydney
Annwyl gorbryder,
Helo eto
Yr un hen sefyllfa
Tithau’n fawr a chodi braw
A fy mrest yn teimlo ar dân
Llyncu llond ceg o aer
Yn ebychu i anadlu
Croen wedi ymestyn yn dynn ar fy nghorff
Ac ysgyfaint tri metr dan ddŵr
Annwyl gorbryder,
Paid ceisio ymgartrefu ynof i
Fel dysgl i dy ofid
Yn cipio’r awenau
A finnau’n gallu gwneud dim
Coesau’n crynu
Pengliniau’n barod i roi
Yr embaras
Teimlo cywilydd oherwydd ti
A finnau heb wneud dim o’i le
Ti’n gwneud i mi gwestiynu popeth
Annwyl gorbryder,
Dwi wedi cael digon o fyw gyda thi
O rentu fy ymennydd allan
I denant diflas sydd ddim yn cau ei geg
Mae dy rybudd i adael wedi dod
(cyfieithiad o’r Saesneg gwreiddiol)
Angen help?
Mae yna lawer o erthyglau iechyd meddwl ar Meic. Os ydy gorbryder yn dy boeni di efallai bydd yr erthyglau yma yn gynorthwyol:
- Coda’r Meic – Fy Iselder a Phryder yn Faich ar Bobl Eraill
- Iechyd Meddwl: Cadw Rheolaeth
- Awgrymiadau Am Sut i Boeni’n Ormodol
Neu, os wyt ti angen siarad â rhywun am y ffordd rwyt ti’n teimlo, yna cysyllta â ni ar linell gymorth Meic ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos pob dydd.
