Ymuno â’r Fyddin: Niwrowahaniaeth a Iechyd Meddwl

Mae dewis cychwyn gyrfa yn y fyddin yn benderfyniad mawr, ac os wyt ti’n niwrowahanol neu os oes gen ti gyflwr iechyd meddwl, mae’n normal i boeni am sut y byddant yn effeithio ar dy brofiad.
Meini prawf meddygol y fyddin
Mae’r Fyddin Brydeinig yn defnyddio meini prawf meddygol ar gyfer pob recriwt newydd. Maent yn defnyddio’r maen prawf er mwyn sicrhau bod pob aelod yn iach cyn ymuno. Cyn ymrestru, mae rhaid i ti gwblhau asesiad meddygol. Mae’r asesiad yn cynnwys profion corfforol a chwestiynau am anafiadau a chyflyrau iechyd meddwl. Mae rhai cyflyrau fel asthma, epilepsi neu gyflyrau iechyd meddwl yn gallu effeithio dy gymhwystra, ond nid ydynt yn waharddiad awtomatig.
Yn ddiweddar, mae’r fyddin wedi adolygu’r meini prawf meddygol. Mae cyflyrau fel awtistiaeth a ADHD, oedd arfer bod yn rhwystr i ymgeiswyr, yn cael eu hasesu fesul achos unigol. Mae ffactorau megis natur y cyflwr, hanes triniaeth a sefydlogrwydd y cyflwr yn cael eu hystyried. Os wyt ti’n poeni am effaith dy iechyd ar dy gais, mae’n bwysig siarad yn agored gyda recriwtwyr. Byddant yn gallu helpu a rhoi mwy o wybodaeth am ba gyflyrau fydd angen asesiad pellach. Y peth pwysicaf yw bod yn onest am dy hanes meddygol. Bydd cuddio gwybodaeth yn debygol o achosi problemau yn y dyfodol.
Mae ymgeiswyr sydd â dyslecsia, dyspracsia a dyscalcwlia yn gallu ymuno â’r fyddin os ydynt yn bodloni safonau dethol, ymarfer a pherfformiad. Bydd di’n derbyn cymorth ac addasiadau, er mwyn llwyddo yn dy rôl.
Gwahanol swyddi yn y fyddin
Mae nifer o yrfaoedd gwahanol yn y fyddin. Nid oes rhaid i ti fod ar y rheng flaen i gael gyrfa lwyddiannus. Mae rhai pobl yn ymuno fel milwyr ac mae eraill yn gweithio mewn meysydd fel peirianneg, logisteg neu gerddoriaeth. Gallet ti hyfforddi fel peiriannydd, cogydd, meddyg neu chwarae ym mand y fyddin hefyd.
Mae ymuno gyda’r cadetiaid yn ffordd wych o gael profiad o fywyd milwrol a datblygu hyder a chael profiad o weithio fel tîm. Mae’r Cadetiaid yn croesawu pobl ifanc 12 i 18 oed. Maent yn cynnig profiadau fel hyfforddiant awyr agored a hyfforddiant cymorth cyntaf. Mae’n ffordd dda i ddysgu sgiliau newydd a chyfarfod pobl newydd – p’un a wyt ti’n bwriadu ymuno â’r Fyddin yn hwyrach ai peidio.
Gallet ti ymuno â’r Adfyddin hefyd, rôl rhan amser sy’n dy alluogi i hyfforddi gyda milwyr arferol a chadw dy swydd neu barhau i astudio. Mae hyn yn ffordd o gael blas o fod yn y fyddin heb ymrwymo’n llawn amser.
Dy iechyd a lles
Mae gyrfa yn y fyddin yn gallu bod yn hynod fuddion, ond gall fod yn heriol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Efallai byddi di’n gweithio oriau hir, yn perfformio tasgau heriol ac yn treulio amser oddi wrth dy deulu a ffrindiau. Mae’r gweithio o dan bwysau a dilyn cyfarwyddiadau yn gallu bod yn anodd. Gall rhai swyddi olygu dy fod yn gorfod gwynebu sefyllfaoedd emosiynol heriol.
Dyna pam bod edrych ar ôl dy iechyd corfforol a meddyliol yn bwysig. Mae’r fyddin yn cynnig cymorth, yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl a swyddogion lles, ond mae’n bwysig dy fod ti’n gwybod pryd i ofyn am help.
Ymestyn allan am gefnogaeth
Os wyt ti’n ystyried ymuno, mae rhaid i ti fod yn onest gyda dy hun am dy gryfderau a dy wendidau. Mae paratoi’n feddyliol am y broses recriwtio’r un mor bwysig a pharatoi’n gorfforol. Gallet ti siarad ag aelod neu cyn aelod o’r fyddin am gyngor. Galli di siarad â rhywun yn y ganolfan recriwtio hefyd, a byddant yn dy gynghori ac yn rhoi gwybodaeth i ti. Os wyt ti’n cael dy wrthod, paid â digalonni. Mae cefnogaeth ar gael i helpu ti ddod o hyd i’r yrfa gorau i ti.
Os hoffet ti siarad am unrhyw beth sydd ar dy feddwl, galli di siarad â Meic. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae ein llinell gymorth yn rhad ac am ddim ac ar agor o 8yb i hanner nos bob dydd. Galli di siarad â Meic dros y ffôn, ar neges Whatsapp neu neges destun, a sgwrs ar-lein.
