x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Sut i Fod Yn Gyfaill i Rywun Sydd ag Anabledd

Darlun o bobl sydd gan anableddau amrywiol

Rydym ni i gyd eisiau byw mewn byd ble mae pawb yn cael eu parchu, eu cynnwys a’u cefnogi. I bobl anabl, mae bywyd yn gallu bod yn heriol, ond gyda’n gilydd, gallwn ni wneud newid cadarnhaol!

Beth mae’n golygu i fod yn gyfaill (ally)?

Mae bod yn gyfaill yn golygu ymddwyn mewn ffordd sy’n yn cefnogi person arall ac sy’n dangos undod â nhw. Mae’n cynnwys codi llais dros beth sy’n iawn a herio unrhyw rwystrau.

Dau fachgen ifanc yn chwarae pel fasged mewn cadeiriau olwyn

Sut galli di fod yn gyfaill i bobl anabl?

1.          Addysgu dy hun a chodi ymwybyddiaeth

Addysga dy hun am faterion sy’n ymwneud ac anabledd drwy ddarllen erthyglau, gwylio fideos a gwrando ar bodlediadau. Bydd hyn yn gwella dy ddealltwriaeth. Rhanna’r wybodaeth gyda theulu a ffrindiau. Y mwyaf o bobl sy’n gwybod, y gorau!

2.          Codi llais dros eraill a herio agweddau negyddol

Dysga am hawliau pobl anabl a gwranda ar beth sydd ganddynt i’w ddweud. Mae eu profiadau a’u barn yn bwysig. Sylwa ar unrhyw ragfarnau sydd gen ti (hyd yn oed os nad wyt ti’n sylwi!) a cheisia ddeall pethau o bersbectif rhywun arall. Heria agweddau negyddol a stereoteipiau os wyt ti’n dod ar eu traws.

3.          Dathlu amrywiaeth

Cymer rhan mewn digwyddiadau sy’n codi ymwybyddiaeth am anableddau. Dangos cefnogaeth i elusennau a sefydliadau sydd yn gweithio i wella bywydau pobl ag anableddau. Rydym i gyd yn wahanol, a dyma sy’n ein gwneud ni’n wych!

Mae Meic yn gweld gwerth amrywiaeth ac yn credu y dylai pawb gael eu trin gyda pharch ac urddas. Rydym yn credu mewn codi llais dros hawliau pawb. Rydym yn dy annog i fod yn gyfaill a helpu i greu byd mwy cynhwysol i bawb.

Dau berson yn cerdded yn y parc, mae'r ddau yn defnyddio ffyn.

Eisiau dysgu mwy?

Edrycha ar y gwefannau yma am fwy o wybodaeth a chefnogaeth:

Angen siarad?

Os wyt ti eisiau siarad â rhywun am hyn neu eisiau cyngor, cefnogaeth neu arweiniad am unrhyw beth arall, cysyllta gyda Meic. Mae Meic yn llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di gysylltu â ni am ddim ar y ffon, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein, i siarad am unrhyw beth sydd ar dy feddwl.