x
Cuddio'r dudalen

Deall Dy Hawliau: Mynediad i Bobl Anabl

To read this article in English, click here

Mae gen ti a dy ffrind yr hawl i fwynhau’ch holl hawliau heb wahaniaethu ar unrhyw sail, gan gynnwys anabledd; i fynd i lefydd, cyfarfod a threulio amser gyda phobl; i chwarae, adloniant a chyfranogiad ym mywyd diwylliannol; os oes gen ti anabledd, cefnogaeth i gael mynediad i’r hawliau yma a chaniatáu i ti gyfrannu mewn bywyd cymunedol, gydag urddas. Mae gan blentyn anabl yr hawl i ddisgwyl i’r gyfraith a’r llywodraeth sicrhau mynediad i’w holl hawliau dynol yn gyfartal â holl blant eraill.

Erthyglau CCUHP 2, 15, 23

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Erthyglau 7, 30

Yn y DU, mae’n anghyfreithiol gwahaniaethu yn erbyn person yn y ddarpariaeth o nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau. Efallai bydd gofyn ar gyflogwyr ac eraill i wneud ‘addasiadau rhesymol’. Yn anffodus, nid yw’r gyfraith yn mynd mor bell ag i orfodi mynediad cadair olwyn ymhob adeilad. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod safonau yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer holl gyrff cyhoeddus, gyda’r bwriad o sicrhau bod pobl anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn, yn gallu mwynhau mynediad i gyfleusterau ac yn cael eu gosod ar sail gyfartal.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Amser cychwyn ymgyrch lleol?

Am wybodaeth bellach: Anabledd Cymru – Deall eich hawliau, Defnyddio eich hawliau, Byw eich hawliau!

Gyda chwestiynau? Grêt! Cysyllta ar y ffôn, neges testun neu neges wib a byddem yn hapus iawn i helpu.