x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Byddar – Gwybodaeth a Chyngor

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Byddar a dyma flog Meic i ddysgu mwy am yr wythnos, am bobl sydd yn fyddar neu sydd â nam clyw, a’r ffordd orau i siarad gyda, neu o’u blaen.

To read this article in English, click here

Mae yna 11 miliwn o bobl fyddar neu sydd â nam clyw (BNC) yn y DU. Mae 50,000 ohonynt yn blant ac yn bobl ifanc, a 575,500 ohonynt yn byw yng Nghymru. Mae sawl rheswm pam eu bod nhw’n BNC fel cael eu geni’n fyddar neu wedi colli peth o’u clyw oherwydd rhesymau iechyd.

Nid anabledd ydyw

Mae Cymdeithas y Byddar Prydeinig (BDA) yn dweud mai byddardod yw’r trydydd anabledd mwyaf cyffredin yn y byd. Nid yw llawer iawn o bobl fyddar yn ystyried eu byddardod fel anabledd neu’n broblem sydd angen ei gywiro. Mae’n rhan naturiol o brofiad diwylliannol sydd yn cael ei rannu gyda ffrindiau – byddar a gyda chlyw. Maent yn cofleidio’u byddardod ac yn falch iawn o’u hanes ac mae yna deimlad cryf o gymuned a diwylliant ymysg pobl fyddar.

Rhan allweddol o’r diwylliant yma yw’r ffordd mae pobl fyddar yn cyfathrebu o ddydd i ddydd. Yn y DU, mae’r mwyafrif o bobl BNC yn defnyddio Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL). Mae hwn yn gyfuniad o symudiadau’r dwylo, symudiadau’r wyneb ac iaith y corff. Oeddet ti’n gwybod bod amrywiadau rhanbarthol BSL yn union fel y sydd gydag iaith lafar? Mae BSL yn unigryw ac, fel gyda thafodiaith lafar, mae’n wahanol i’r iaith sydd yn cael ei siarad gan bobl BNC mewn gwledydd eraill.

Cegau yn cynrychioli darllen gwefusau ar gyfer blog wythnos ymwybyddiaeth o'r byddar

Cyngor Ymwybyddiaeth

Mae gan yr UK Councl on Deafness gyngor gwych wrth siarad gyda, neu o gwmpas, person byddar neu sydd â nam clyw:

  • Wynebu’r person wrth siarad â nhw
  • Ailadrodd os oes angen
  • Paid byth dweud “Dim ots” os nad ydynt yn deall – ceisia eto!
  • Ysgrifenna ar bapur neu wneud llun
  • Peidio siarad ar draws eich gilydd – disgwyl dy dro i siarad
  • Sicrha eu bod yn gweld dy geg drwy’r adeg
  • Gwena ac ymlacia
  • Paid â siarad yn rhy sydyn – nac yn rhy araf
Logo Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Byddar

Beth ydy Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Byddar?

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Byddar yn gyfle i ddathlu pobl BNC fel rhan o’r gymuned, a chodi ymwybyddiaeth o’r problemau a’r rhwystrau maent yn ei wynebu bob dydd. Bydd digwyddiadau yn ystod yr wythnos ac mae’n gyfle i hyrwyddo iechyd a llesiant pobl BNC. Mae’n gyfle hefyd i gyflwyno gwasanaethau neu dechnoleg newydd sydd â’r nod o greu cymdeithas fwy cynhwysol i bobl BNC.

Thema eleni ydy Dod Drwyddi â’n Gilydd. Mae yna ddigwyddiadau ledled y DU, er efallai bod pethau ychydig yn wahanol i’r arfer ele ni oherwydd Covid. Cer draw i dudalen Facebook neu Twitter yr UK Council on Deafness i weld beth sydd yn digwydd.

Angen help?

Os wyt ti angen cefnogaeth ac eisiau siarad â rhywun yn gyfrinachol mae Meic yma i ti bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Os wyt ti’n fyddar neu â nam clyw gallet ti yrru neges testun neu sgwrsio ar-lein. Rydym yma i wrando, yn gallu cynnig cyngor a help a dy roi mewn cysylltiad â gwasanaethau a sefydliadau. Gallem hefyd eirioli i ti – gallem siarad gyda gwasanaethau ar dy ran, yn defnyddio dy eiriau di, i gael yr help sydd ei angen arnat.