x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Ymwybyddiaeth o Anabledd

Merch ifanc gyda teclyn cymorth clyw yn cael tynnu ei llun gan ffrind

Oeddet ti’n gwybod bod gan 16 miliwn o bobl ym Mhrydain, tua 1 ym mhob 4, anabledd? Mae hynny’n lot o bobl! Felly, beth mae hynny’n golygu?

Beth yw anabledd?

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio anabledd fel amhariad corfforol neu feddyliol sydd yn cael effaith negyddol ‘sylweddol’ a ‘hirdymor’ ar dy allu i wneud tasgau arferol dydd i ddydd.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio anabledd fel y ffordd mae cyflwr iechyd rhywun yn rhyngweithio gyda’r byd o’u cwmpas nhw. Gall pethau fel agweddau negyddol, llefydd sydd ddim yn hygyrch a diffyg cefnogaeth wneud bywyd yn fwy heriol i rywun sydd ag anabledd.

Grwp o bedwar o ffrindiau yn eistedd ac yn siarad, mae un ohonyn nhw mewn cadair olwyn

Gwahanol fathau o anableddau

Gall anableddau fod yn rhai corfforol (sy’n effeithio’r corff), synhwyrol (effeithio’r synhwyrau fel golwg a chlyw) neu wybyddol (effeithio’r ymennydd). Mae rhai pobl yn cael eu geni gydag anabledd. Mae eraill yn datblygu anableddau yn hwyrach oherwydd salwch, anaf neu resymau eraill. Nid yw pob anabledd yn weladwy chwaith, mae rhain yn cael eu galw’n anableddau cudd.

Mae’n bwysig cofio bod profiadau pobl o anabledd yn wahanol! Efallai bydd rhai pobl angen llawer o gefnogaeth,eraill fydd angen ychydig llai o gefnogaeth a rhai pobl sydd ddim angen dim.

Sut gall anabledd effeithio pobl?

Mae anabledd yn gallu effeithio pobl mewn sawl ffordd, o iechyd corfforol a symudedd, i iechyd meddwl, cyfathrebu a llesiant. Gall hefyd effeithio pethau fel dysgu, deall gwybodaeth, perthnasoedd a chael mynediad at wybodaeth mae nifer o bobl yn ei gymryd yn ganiataol.

Merch ifanc gyda syndrom down yn gwenu

Herio agweddau negyddol

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r heriau sydd yn gwynebu pobl anabl a herio agweddau negyddol os wyt ti’n gweld hyn. Mae gan bawb gyfrifoldeb i greu cymdeithas gynhwysol!

Mae gan bawb hawl i gael eu trin gyda pharch ac urddas. Gadewch i ni wneud Cymru yn wlad fwy cynhwysol i bawb!

Eisiau dysgu mwy?

Edrycha ar y gwefannau yma am fwy o wybodaeth a chefnogaeth:

Angen siarad?

Os wyt ti eisiau siarad â rhywun am hyn neu eisiau cyngor, cefnogaeth neu arweiniad am unrhyw beth arall, cysyllta gyda Meic. Mae Meic yn llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di gysylltu â ni am ddim ar y ffon, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein, i siarad am unrhyw beth sydd ar dy feddwl.