x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Gwahanol Fathau o Ofal

Bybl gyda llun o dŷ gyda chalon tu mewn

Weithiau, am wahanol resymau, nid yw plant a phobl ifanc yn gallu byw gyda’i rhieni genedigol. Pan fydd hyn yn digwydd, mae gwahanol fathau o drefniadau gofal sy’n cefnogi dy hawliau a’th les, boed hynny gyda dy deulu, gofalwyr maeth, neu fyw’n annibynnol. Mae’r blog yma’n esbonio’r mathau mwyaf cyffredin o ofal a beth maen nhw’n golygu i ti.

Gofal maeth

Mae gofal maeth yn golygu byw gyda theulu maeth sy’n edrych ar dy ôl di. Byddi di’n byw gyda gofalwyr maeth sydd wedi derbyn hyfforddiant ar gefnogi plant a phobl ifanc drwy adegau anodd. Gall hyn fod yn drefniant tymor byr, neu hir dymor yn dibynnu yn dy sefyllfa.

Mae sawl math gwahanol o ofal maeth:

  • Gofal maeth tymor byr: Gofal dros-dro, mae’n cael ei ddefnyddio pan, er enghraifft, mae trefniadau’n cael eu gwneud gyda dy deulu genedigol.
  • Gofal maeth hir dymor: Os nad wyt ti’n gallu dychwelyd adref, mae’r teulu maeth yn dy gefnogi am gyfnod hirach.
  • Gofal maeth brys: Os wyt ti angen rhywle i aros yn fyr rybudd.
  • Gofal maeth seibiant: Rhoi seibiant byr i ti neu dy ofalwyr, am ychydig ddyddiau neu wythnosau, neu drefniant arbennig fel pob penwythnos.
  • Lleoliadau rhiant a phlentyn: Ar gyfer pobl ifanc sy’n rhieni, rwyt ti a dy blentyn yn byw gyda gofalwr maeth sy’n dy gefnogi.
Calon gyda dau oedolyn a person ifanc tu fewn iddo

Gofal perthnasau

Mae gofal perthnasau yn golygu fod rhywun ti’n ‘nabod ac yn ymddiried ynddynt, fel nain a thaid, anti ac yncl, brawd neu chwaer hŷn, neu ffrindiau i’r teulu yn gallu edrych ar dy ôl di.

  • Gofal anffurfiol gan berthnasau: Cael ei drefnu o fewn y teulu, nid yw’r awdurdod lleol yn rhan o’r trefniadau bob amser.
  • Gofal ffurfiol gan berthnasau: Mae aelod o’r teulu neu ffrind yn dod yn ofalwr maeth swyddogol drwy’r awdurdod lleol. Maent yn cael cefnogaeth i ofalu amdanat ti.

Mae byw gyda rhywun sy’n gyfarwydd i ti yn gallu bod yn gysur mawr i ti, yn enwedig os wyt ti’n profi newidiadau mawr yn dy fywyd.

Gofal preswyl

Mae rhai pobl ifanc yn byw mewn gofal preswyl, sydd weithiau’n cael eu galw’n gartrefi plant. Mae’n dŷ sy’n gartref i grŵp bach o bobl ifanc sy’n cael eu cefnogi gan dîm o staff. Byddi di’n cael dy ystafell dy hun ac yn rhannu’r gegin a’r ystafell fyw gyda phreswylwyr eraill.

Gall gofal preswyl fod yn opsiwn os nad oedd gofal maeth wedi gweithio i ti, neu os wyt ti angen cefnogaeth fwy arbenigol. Mae staff yno i helpu gyda bob math o bethau fel gwaith ysgol a sgiliau bywyd.

Byddi di dal yn cael dy gynnwys mewn penderfyniadau am dy fywyd a’th ddyfodol pan ti’n byw mewn cartref plant, ac mae gen ti hawliau fel ym mhob trefniant gofal arall.

Mabwysiadu

Mae mabwysiadu yn golygu bod rhywun yn cymryd gofal cyfreithiol o blentyn. Mae’n ymrwymiad am oes drwy orchymyn mabwysiadu, sy’n cael ei roi gan lys ac mae’n barhaol.

Mae’n gam mawr, ac mae angen meddwl yn ofalus am y peth, a chynnwys dy lais di yn y penderfyniad. Ar ôl cael dy fabwysiadu, nid yw’r awdurdod lleol yn gyfrifol amdanat ti bellach, ond mae cefnogaeth ar gael os wyt ti angen.

Rhwydwaith o bobl gyda person ifanc yn y canol

Gwarcheidwaeth arbennig

Mae gwarcheidwaeth arbennig yn drefniant cyfreithiol sy’n rhoi cyfrifoldeb rhiant i rywun arall, perthynas fel arfer, tan ti’n troi’n 18. Mae rhywle yn y canol rhwng maethu a mabwysiadu.

Rwyt ti’n aros mewn cysylltiad gyda dy deulu genedigol, ond dy warchodwr sy’n gwneud y penderfyniadau am dy ofal. Gallent roi sefydlogrwydd i ti heb orfod torri cysylltiad yn llwyr gyda dy deulu genedigol.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cynnwys er mwyn sicrhau mai dyma’r dewis cywir i ti, ac mae cefnogaeth ar gael i ti a dy warchodwr.

Llun o oriadau tŷ

Llety gyda chefnogaeth a byw yn lled-annibynnol

Os wyt ti’n 16 neu’n hŷn, efallai dy fod yn paratoi i fyw yn annibynnol. Mae llety gyda chefnogaeth yn drefniant ble ti’n byw gyda rhywun arall ond rwyt ti’n cael mwy o ryddid i gymharu â byw gyda gofalwyr maeth. Byddi di’n dal yn cael cefnogaeth gyda phethau fel coginio, cyllidebu, a dysgu i fyw yn annibynnol.

Mae byw yn lled-annibynnol yn debyg ond byddi di’n byw mewn fflat neu dŷ, gyda chefnogaeth achlysurol gan weithiwr allweddol. Mae’r trefniant yma yn helpu ti adeiladu hyder cyn byw yn gwbl annibynnol.

“Pan fydda i’n barod”

Yng Nghymru, mae ‘na gynllun o’r enw “Pan fydda i’n barod”. Mae’n dy alluogi i fyw gyda gofalwyr maeth ar ôl i ti droi’n 18. Galli di fyw gyda nhw hyd at 21 oed, neu 25 os wyt ti mewn addysg llawn amser.

Nod y trefniant yma yw gwneud y daith tuag at fod yn oedolyn yn llai o straen ac yn fwy cefnogol.

Angen cefnogaeth?

Beth bynnag yw dy sefyllfa, mae gen ti hawliau, ac rwyt ti’n haeddu teimlo’n ddiogel, ac wedi dy barchu a’th gefnogi. Os wyt ti’n teimlo’n ansicr, wedi drysu neu eisiau siarad, mae Meic yma i helpu. Rydym ar agor bob dydd o 8yb tan hanner nos.