x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Diwrnod Windrush 2025

Llun o'r llong 'Empire Windrush'

Mae diwrnod Windrush yn cael ei ddathlu ar yr 22ain o Fehefin bob blwyddyn. Cafodd ei ddathlu gyntaf yn 2018 er mwyn nodi 70 mlynedd ers i genhedlaeth Windrush gyrraedd Prydain.

Mae’r diwrnod yn cydnabod Cenhedlaeth Windrush, a’u disgynyddion, am eu cyfraniadau i Brydain ar ôl y rhyfel, a byth ers hynny hefyd.

Pwy yw Cenhedlaeth Windrush?

Daw’r enw o enw’r llong ‘Empire Windrush’ oedd wedi docio yn Tilbury yn Essex yn 1948. Roedd cannoedd o bobl o’r Caribî ar y llong. Yn ôl rhestr teithwyr sydd yn cael ei gadw gan yr Archif Genedlaethol roedd 1,027 o bobl ar y llong.

Roedd y teithwyr ar yr ‘Empire Windrush’ a nifer o deithwyr eraill a ddaeth yn ddiweddarach yn cael eu hadnabod fel cenhedlaeth Windrush. Roedd nifer yn dod o Jamaica, ond daeth sawl un o ynysoedd eraill fel Trinidad, St Lucia a Barbados.

Pam y daethant i Brydain?

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd y llywodraeth angen mwy o weithwyr er mwyn ail-adeiladu’r economi. Roedd Deddf Cenedligrwydd Prydain yn rhoi’r hawl i bobl o’r trefedigaethau (roedd trefedigaethau yn llefydd oedd yn cael eu llywodraethu gan Brydain fel rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig) fyw a gweithio ym Mhrydain.

Roedd nifer o wledydd yn y Caribî yn stryglo yn economaidd. Felly, roedd y galw am weithwyr ym Mhrydain yn cynnig cyfle newydd iddynt. Talodd y teithwyr £28 (tua £1000 heddiw) i deithio i Brydain. Roedd swyddi yn cynnwys gwaith yn y diwydiannau haearn, dur, glo a bwyd. Roedd nifer yn gweithio mewn swyddi trafnidiaeth gyhoeddus a gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd hefyd.

Yn anffodus, fe wnaeth nifer o bobl o genhedlaeth Windrush wynebu hiliaeth a gwahaniaethu ym Mhrydain. Er bod y llywodraeth wedi annog pobl i ymfudo, roedd nifer yn cael eu cau allan o fywyd cymdeithasol ac economaidd Prydain.

Beth oedd sgandal Windrush?

Ym mis Ebrill 2018, daeth sgandal Windrush i’r amlwg. Er bod pobl wedi byw a gweithio ym Mhrydain ers degawdau, roedd llawer wedi cael gwybod eu bod nhw yn y wlad yn anghyfreithlon. Roedd diffyg papurau swyddogol. Felly, ni allent ddarparu tystiolaeth bod ganddyn nhw’r hawl i aros. Nid oedd rhai erioed wedi cael papurau ac roedd y Llywodraeth wedi dinistrio eu copïau eu hunain o’r papurau. Yn sydyn roedd y cyfrifoldeb ar unigolion i ‘brofi’ eu hawl i aros.

Cenhedlaeth Windrush yng Nghymru

Daeth nifer i fyw a gweithio yng Nghymru. Roedd y gwaith dur yng nghymoedd y De a’r gwaith yn y dociau ym Mae Caerdydd yn atynnu nifer o bobl a’u teuluoedd. Mae ‘Prosiect Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’ yn ymateb i alwadau gan bobl oedd eisiau sicrhau fod hanes eu cenhedlaeth yn cael ei goffau.