x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Deall Llinellau Cyffuriau

tri person yn cerdded drwy dwnel tywyll

Mae llinellau cyffuriau (county lines) yn fath o gamfanteisio troseddol. Bydd y blog yma yn esbonio beth yw llinellau cyffuriau, y peryglon, sut mae pobl ifanc yn cael eu recriwtio, yr arwyddion i gadw llygad amdanynt, a beth fedri di wneud os wyt ti’n poeni amdanat ti neu rywun arall.

Beth yw llinellau cyffuriau?

Mae’r term llinellau cyffuriau yn cyfeirio at weithgarwch troseddol ble mae gangiau o drefi a dinasoedd mawr yn ecsbloetio plant, pobl ifanc ac oedolion bregus i symud arian, cyffuriau ac weithiau arfau i rannau arall o’r wlad, ardaloedd gwledig neu arfordirol fel arfer.

Pedwar o bobl yn sefyll o flaen drws tywyll mewn dillad tywyll

Beth yw’r peryglon?

Mae llinellau cyffuriau yn aml yn cyd-fynd gyda mathau eraill o gamdriniaeth a cham-fanteisio. Mae plant a phobl ifanc sy’n rhan o linellau cyffuriau yn fwy tebygol o gael eu cam-drin mewn ffyrdd eraill megis camdriniaeth rywiol o blant a masnachu pobl.

Sut mae pobl ifanc yn cael eu recriwtio?

Mae recriwtio aelodau newydd yn broses gudd, ond trefnus iawn. Mae’r gangiau yn targedu pobl ifanc er mwyn pellhau oddi wrth ddelio cyffuriau eu hunain, ac er mwyn osgoi cael eu dal gan yr heddlu. Mae’r broses o recriwtio i ymuno â gang yn gallu digwydd mewn amryw o ffyrdd:

  • Meithrin perthynas amhriodol drwy gyfryngau cymdeithasol: Mae platfformau ar-lein yn cael eu defnyddio i hysbysebu ‘swyddi’ sydd yn edrych yn rhai gwirioneddol. Mae nifer o aelodau yn rhannu lluniau o arian, dillad drud a cheir er mwyn apelio at bobl ifanc. Mae’r argyfwng costau byw yn gallu gwneud pobl ifanc yn fwy agored i niwed. Maent yn gallu teimlo pwysau i gefnogi eu hunain a’u teuluoedd yn ariannol.
  • Pwysau gan gyfoedion neu aelodau o’r teulu: Mae rhai pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i’r gangiau gan ffrindiau neu aelodau o’u teulu.
  • Addewidion ffug: Mae gangiau yn targedu pobl fregus sydd efallai yn teimlo’n unig neu yn anniogel yn eu cartrefi. Maent yn gaddo ‘teulu’ newydd sydd am eu hamddiffyn.

Gall pobl ifanc fod mewn mwy o berygl o gael eu targedu yn ystod gwyliau’r ysgol, yn enwedig yn ystod gwyliau hir yr haf. Gyda mwy o amser rhydd, llai o strwythur i’r diwrnod a llai o oedolion o gwmpas, mae rhai pobl ifanc yn fwy agored i niwed. Mae gangiau yn cymryd mantais o’r cyfnod yma i recriwtio aelodau newydd.

Pam ei fod yn anodd gadael?

Unwaith mae rhywun wedi cael ei recriwtio, mae’n anodd iddyn nhw adael. Mae’r gangiau yn cymryd mantais o’u teyrngarwch, a gallent ddefnyddio bygythiadau trais neu flacmel emosiynol i’w cadw yn y gang.

Efallai bydd y person yn teimlo’n ofnus am adael. Mae’r gangiau yn dweud wrth bobl bod gadael am roi eu teulu neu eu ffrindiau mewn perygl, a bydd yr heddlu yn eu hystyried nhw yn droseddwyr hefyd. Mae gangiau yn eu hynysu o gefnogaeth arall ac yn eu darbwyllo mai’r gang yw’r unig le ble maent yn perthyn.

Bachgen ifanc yn gwisgo clustffonau ac yn edrych yn drist ac o dan straen

Beth yw’r arwyddion?

Mae adnabod yr arwyddion yn gallu amddiffyn person ifanc rhag cam-fanteisio. Dyma rai o’r arwyddion mwyaf cyffredin:

  • Mynd ar goll heb eglurhad
  • Teithio i drefi neu ddinasoedd eraill yn aml
  • Newid yn eu hwyliau
  • Arian a phethau newydd, fel ffôn symudol, heb esbonio o ble maent wedi dod
  • Newid yn eu defnydd o gyffuriau ac alcohol
  • Defnyddio mwy nag un ffôn symudol, yn benodol rhai rhad, ‘burner’
  • Newid i’w grŵp o ffrindiau ac ymbellhau oddi wrth eu teulu

Mae’r newidiadau yma yn gallu bod yn anodd ei hadnabod, ac mae nifer ohonynt yn ymddygiad eithaf normal i berson yn eu harddegau. Fodd bynnag, os wyt ti’n sylwi ar batrwm, mae’n bwysig ei gymryd o ddifri.

Os wyt ti’n poeni am ffrind

Nid yw camdriniaeth a cham-fanteisio byth yn fai ar y plentyn neu’r person ifanc. Os wyt ti’n poeni am ffrind neu rywun ti’n nabod, mae ffyrdd galli di helpu:

  • Siarad gydag oedolyn ti’n ymddiried ynddyn nhw: Gallent fod yn athro, cwnselydd ysgol, gweithiwr ieuenctid neu aelod o’r teulu
  • Cysyllta gyda gwasanaethau: Os wyt ti’n meddwl bod dy ffrind mewn perygl, ffonia’r heddlu ar 999. Galli di gysylltu gyda’r rhif 101 os nad ydy o’n argyfwng hefyd.
  • Cefnogaeth: Efallai byddant yn teimlo cywilydd neu ofn. Gad iddynt wybod dy fod yno i’w cefnogi a bod help ar gael.
Person yn gafael bag cefn ac yn aros am fws neu dren

Os wyt ti mewn perygl

Mae gadael gang yn gallu bod yn anodd, ond mae gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau ar gael i’th gefnogi ac i helpu ti adael yn ddiogel.

Dwyt ti ddim ar fai a does dim rhaid i ti fynd drwy’r broses ar ben dy hun. Siarada gyda rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw, neu cysyllta gyda sefydliadau fel:

  • SafeCall: Llinell gymorth ddienw, cyfrinachol, rhad ac am ddim sy’n cefnogi pobl ifanc sydd yn cael eu heffeithio gan linellau cyffuriau. Ffonia ar 116 000 – mae’r gwasanaeth ar agor o 9yb i 11yh, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Ymddiriedolaeth St Giles: Mae ganddynt dîm yng Nghymru sy’n helpu plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o linellau cyffuriau. Mae gan nifer o’r gweithwyr achos brofiad uniongyrchol o fod mewn llinell gyffuriau eu hunain.
  • Fearless: Gwasanaeth ‘Crimestoppers’ yn arbennig ar gyfer pobl ifanc. Galli di roi gwybod am drosedd yn 100% gyfrinachol.
  • Meic: Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru. Os hoffet ti siarad am unrhyw beth yn y blog yma, galli di siarad gyda Meic. Mae’r llinell gymorth ar agor o 8yb i hanner nos bob dydd.