x
Cuddio'r dudalen

Cyffuriau

Cartŵn o ddinosor gyda stethosgop a golau ar ei ben

Mae cyffur yn rhywbeth rwyt ti’n rhoi yn dy gorff sydd yn newid y ffordd rwyt ti’n meddwl, teimlo, ac ymddwyn.

Mae rhai cyffuriau yn cael eu rhoi i bobl ar bresgripsiwn gan ddoctor pan fyddant yn teimlo’n sâl. Mae yna gyffuriau cyfreithiol sydd yn cael eu defnyddio o ddydd i ddydd hefyd, fel coffi, tybaco ac alcohol.

Ond pan fydd y mwyafrif o bobl yn siarad am gyffuriau, y rhai anghyfreithlon neu anniogel sydd yn cael eu trafod fel arfer, fel canabis, ecstasi neu heroin. Mae cymryd cyffuriau yn gallu bod yn niweidiol i dy iechyd, ac mae cario cyffuriau yn gallu bod yn anghyfreithlon. Mae cyffuriau yn gallu bod yn gaethiwus, ac rwyt ti’n gallu dod yn ddibynnol arnynt.

Os wyt ti’n poeni am gyffuriau, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic. 

Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth:

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma rhai ohonynt sydd yn edrych ar gyffuriau: