Beth yw Eiriolaeth? Deall dy Lais a’th Hawliau

Sicrhau fod dy lais yn cael ei glywed pan fo bwysicaf trwy eiriolaeth.
Weithiau mae bywyd yn gallu taflu bob math o rwystrau tuag atat ti, ac os wyt ti’n blentyn neu’n berson ifanc sy’n ymwneud â gwasanaethau gofal cymdeithasol, gall deimlo fel bod llawer o bobl eraill yn gwneud penderfyniadau am dy fywyd di. Ond, wyddost di fod gen ti hawl i gael dy glywed? Dyma sut mae eiriolaeth yn gallu helpu.
Beth yw eiriolaeth?
Eiriolaeth yw helpu ti rannu dy feddyliau, dy deimladau a dy ddymuniadau am sefyllfa. Bydd eiriolwr yn gwrando arnat ti, helpu ti ddeall dy hawliau ac yn egluro dy opsiynau.
Weithiau, byddi di’n teimlo’n ddigon hyderus i godi llais drosot ti dy hun. Dyma beth yw hunan-eirioli. Ond mae adegau pan fydd cael rhywun arall yno i helpu yn ddefnyddiol iawn. Gallent fod yn ffrind neu’n frawd neu’n chwaer (eiriolaeth gyfoed), cymydog neu aelod o’r teulu (eiriolaeth anffurfiol), neu rywun proffesiynol fel athro neu weithiwr cefnogol (eiriolaeth ffurfiol).
Mae gwasanaethau eiriolaeth arbennig sy’n gwbl annibynnol o wasanaethau eraill. Dyma beth yw Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol (EBA) ac mae ar gael i rai pobl ifanc mewn sefyllfaoedd penodol. Gall EBA dy helpu i ddeall dy hawliau, egluro dy ddewisiadau a gwrando ar be ti eisiau dweud. Y peth gwych am EBA ydy eu bod yn annibynnol, sy’n golygu eu bod yn gweithio i ti yn unig.
Dy hawliau a dy gymhwystra
Mewn rhai sefyllfaoedd mae gan blant a phobl ifanc hawl cyfreithiol i eiriolwr proffesiynol. Mae gen ti hawl cyfreithiol i EBA os wyt ti:
- Wedi cael profiad o fod mewn gofal. Os wyt ti yng ngofal yr awdurdod lleol ar hyn o bryd neu wedi bod yn y gorffennol.
- Mewn risg o niwed: Os wyt ti’n ymwneud â gwasanaethau amddiffyn plant gyda’r gwasanaethau cymdeithasol
- Yn mynd drwy’r broses o gael asesiad gofal ac anghenion cefnogaeth
Mae cael cefnogaeth eiriolwr, yn enwedig EBA sydd gan sgiliau a gwybodaeth arbennig, fod yn ddefnyddiol iawn yn ystod newidiadau mawr yn dy fywyd. Pan mae ‘na lwyth o wybodaeth a phobl eraill yn gwneud penderfyniadau am dy fywyd, mae deall y proses a chael rhywun sy’n gwrando arnat ti yn gwneud byd o wahaniaeth.
Y “Cynnig Gweithredol”
Mae’r “cynnig gweithredol” am eiriolaeth yn rhywbeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru os ydynt wedi bod mewn gofal neu yn ymwneud â gwasanaethau amddiffyn plant. Mae’n gynnig uniongyrchol gan wasanaeth eiriolaeth, ac mae gen ti’r hawl i’w dderbyn neu beidio.
Hyd yn oed os nad wyt ti’n ei dderbyn i gychwyn, mae dal ar gael i ti yn y dyfodol! Galli di ofyn am eiriolaeth unrhyw bryd tra ti mewn gofal neu’n ymwneud â gwasanaethau amddiffyn plant.
Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn dweud wrthyt ti am y cynnig ac yn rhannu gwybodaeth am y gwasanaeth eiriolaeth. Os wyt ti’n derbyn y cynnig, bydd dy fanylion yn cael eu rhannu gyda’r gwasanaeth fel eu bod yn gallu cysylltu i drefnu cyfarfod.
Sut mae’n gweithio
Pan fydd eiriolwr yn cysylltu â gwneud y cynnig, byddant yn trefnu cyfarfod. Dyma dy gyfle i ofyn cwestiynau, deall dy opsiynau a rhannu dy deimladau. Byddant yn rhoi gwybod i ti am dy hawliau, yn cynnwys dy hawl i gael dy glywed a’th hawl i wneud cwyn. Byddant hefyd yn egluro cyfrinachedd i ti – sut y byddant yn cadw’r hyn ti’n rhannu yn breifat – ond eu cyfrifoldeb diogelu hefyd, sef eu dyletswydd i rannu pryderon am dy ddiogelwch.
Bydd cofnod o ganlyniad y cyfarfod a byddi di a dy eiriolwr yn cytuno ar y camau nesaf, yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Bydd dy eiriolwr yn rhoi gwybod i dy weithiwr cymdeithasol eich bod wedi cwrdd, ond byddant ond yn rhannau gwybodaeth ti wedi gofyn iddynt rannu, neu os oes ganddynt bryderon diogelu.
Mae’r cynnig yn parhau i fod yn weithredol ac ar gael i ti cyhyd â’th fod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth. Gallet ofyn am fwy o gefnogaeth gan eiriolwr pryd bynnag y bydd ei angen arnat, er enghraifft, mewn cyfarfodydd adolygu, os bydd dy sefyllfa’n newid, neu pan fyddi di’n paratoi i symud ymlaen o wasanaethau plant.
Gyda Phwy Alla i Siarad?
Mae sawl person y galli di siarad â nhw os ydych chi eisiau gwybod mwy am eiriolaeth:
- Eich teulu neu ofalwyr: Efallai y byddan nhw’n gallu dy helpu i gysylltu ag eiriolwr neu ddarganfod pwy i gysylltu ag ef.
- Eich gweithiwr cymdeithasol neu Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO): Os oes gennych chi un, gallent drefnu i ti gysylltu ag eiriolwr.
- Gwasanaeth EBA yn uniongyrchol: Os oes gennyt ti eu manylion cyswllt, gallet ti gysylltu â nhw dy hun i ofyn cwestiynau a gweld a allant helpu. Mae enghreifftiau o wasanaethau EBA yn cynnwys TGP Cymru a NYAS.
Galli di hefyd gysylltu â Meic ar ein llinell gymorth. Gall ein cynghorwyr hyfforddedig dy helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei angen arnat a’th gysylltu â gwasanaeth eiriolaeth broffesiynol os wyt ti’n gymwys. Gall Meic hefyd helpu trwy eiriol drosot ti mewn sefyllfaoedd lle efallai nad wyt ti’n gymwys i gael eiriolaeth broffesiynol.
