Beth i’w ddisgwyl pan ti’n dod mewn i ofal?

Os rwyt ti’n byw mewn gofal rwyt ti’n byw oddi wrth dy rieni. Mae plant a phobl ifanc yn dod mewn i ofal am wahanol resymau. Gall fod oherwydd nid yw dy deulu yn gallu edrych ar dy ôl di ar hyn o bryd neu efallai bod pethau’n anodd adref. Nid yw byth yn fai arnat ti.
Beth sy’n digwydd pan fydda i mewn gofal?
Byddi di’n cael gweithiwr cymdeithasol. Byddant yn sicrhau dy fod yn cael y gofal gorau posib a byddant yn:
- Dod o hyd i gartref i ti, rhywle sy’n addas i dy anghenion a dy sefyllfa. Gall hyn fod efo gofalwyr maeth, mewn cartref preswyl neu gydag aelodau o dy deulu
- Gwneud yn siŵr dy fod yn mynychu’r ysgol
- Gwneud yn siŵr dy fod yn cael unrhyw ofal iechyd ti angen
Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn ymweld â thi yn yr wythnos gyntaf yn dy gartref newydd, ac yna bob 6 wythnos ar ôl hynny. Os wyt ti dal mewn gofal ar ôl blwyddyn ac yn hapus yn dy gartref, efallai na fyddant angen ymweld mor aml.
Ble fydda i’n byw?
Gallet ti fyw:
- Gyda gofalwyr maeth
- Gydag aelodau eraill o dy deulu
- Mewn cartref preswyl/cartref plant
- Yn lled-annibynnol gyda chefnogaeth
Beth yw cynllun Gofal a Chefnogaeth?
Mae gan bob person ifanc mewn gofal gynllun Gofal a Chefnogaeth. Mae’r cynllun yma amdanat ti a dy anghenion.
Mae’n cynnwys trefniadau ar gyfer gweld dy deulu, ble ti’n byw, iechyd, addysg, cynlluniau i’r dyfodol, ac unrhyw beth arall sy’n bwysig i ti. Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn siarad gyda thi ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti wrth i chi lenwi’r cynllun.
Beth yw cyfarfod adolygu?
Cyfarfod pan fydd dy gynllun cefnogaeth yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd dy anghenion, ac os ddim, cytuno ar unrhyw newidiadau er dy les pennaf di. Ti’n gallu mynychu’r cyfarfod adolygu.
Beth yw eiriolwr?
Weithiau mae’n anodd i ti wybod beth i ddweud neu ofyn cwestiynau am dy ofal. Bydd eiriolwr yn dy helpu i fynegi dy deimladau a’th ddymuniadau.
Mae eiriolwyr yn annibynnol o dy weithiwr cymdeithasol a dy ofalwyr, ac mae dy berthynas gyda nhw yn gyfrinachol. Gallent:
- Fynychu cyfarfodydd gyda thi neu ar dy ran
- Sicrhau dy fod yn ymwybodol o dy hawliau
- Sicrhau fod pobl sy’n ymwneud â dy ofal yn gwrando arnat ti
- Egluro prosesau cyfreithiol
- Helpu ti i ysgrifennu llythyrau neu wneud galwadau ffôn
- Helpu ti wneud cwyn
I ddysgu mwy am wasanaethau eiriolaeth yn dy ardal, defnyddia declyn ‘Who is My Advocacy Provider’ ar wefan NYAS Cymru.
Am ba hyd fydda i mewn gofal?
Mae’n dibynnu ar dy sefyllfa. Mae rhai plant yn mynd mewn i ofal yn fabanod, eraill ychydig yn hŷn, ac mae rhai mewn gofal am gyfnod byr cyn dychwelyd at eu rhieni.
Os nad wyt ti’n dychwelyd at dy rieni, galli di fod mewn gofal nes ti’n 18 oed. Pan ti’n 18, rwyt ti’n oedolyn ac rwyt ti’n gadael gofal.
Mae cefnogaeth ar gael i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru. Byddi di’n cael cynghorydd personol i dy helpu ar dy daith i fod yn oedolyn. Gallent helpu gyda materion fel tai, addysg a chyflogaeth.
Sut gall Meic helpu
Os wyt ti angen help neu mwy o wybodaeth am unrhyw beth yn y blog yma, mae Meic yma ar dy gyfer di. Rydym yn cynnig cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth am ddim i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru. Rydym ar agor bob dydd o 8yb i hanner nos a galli di gysylltu â ni dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein.
