Diwrnod Iechyd Rhywiol y Byd 2025

Mae Diwrnod Iechyd Rhywiol y Byd yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar y pedwerydd o Fedi er mwyn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd iechyd rhywiol, hawliau, cyfiawnder a phleser i bawb. Y thema eleni yw Cyfiawnder Rhywiol: Beth Allwn Ni Wneud?
Dathlwyd y Diwrnod Iechyd Rhywiol y Byd cyntaf yn 2010 er mwyn dod a phobl a sefydliadau ar draws y byd at ei gilydd i hyrwyddo iechyd a lles rhywiol. Eleni, mae Diwrnod Iechyd Rhywiol y Byd yn canolbwyntio ar bedwar pwnc o fewn y thema cyfiawnder rhywiol.
Hawliau rhywiol
Y brif neges yw bod hawliau rhywiol yn hanfodol i bawb fwynhau iechyd, hawliau a phleser rhywiol yn rhydd o wahaniaethau, ofn, cywilydd a stigma.
Beth allwn ni wneud?
- Lleihau’r stigma am bynciau iechyd rhywiol mewn sgyrsiau a bywyd bob dydd
- Eirioli am gyfreithiau a pholisïau sy’n herio gwahaniaethu
Hawliau rhywiol ac atgynhyrchiol
Y brif neges yw bod cyfiawnder rhywiol yn golygu amddiffyn hawl pawb i wneud penderfyniadau am eu cyrff a’u hiechyd atgynhyrchiol dim bwys pwy ydyn nhw na lle maent yn byw
Beth allwn ni wneud?
- Defnyddio dy lais mewn gwleidyddiaeth drwy gysylltu â phobl sy’n dy gynrychioli, ymuno ag ymgyrchoedd neu lobio am newid
- Codi llais pan mae hawliau atgynhyrchiol o dan fygythiad, yn dy gymuned neu ar draws y byd
- Cefnogi sefydliadau a darparwyr gofal iechyd sy’n sicrhau mynediad diogel a chyfreithlon i erthyliad a dulliau atal genhedlu
Pobl ifanc LHDTC+
Y brif neges yw bod cyfiawnder rhywiol yn golygu parchu ac amddiffyn hawliau a hunaniaethau pobl LHDTC+, yn enwedig pobl ifanc traws, anneuaidd, hoyw a lesbiaid.
Beth allwn ni wneud?
- Codi llais yn erbyn homoffobia, trawsffobia a phob math o wahaniaethau
- Dathlu hunaniaethau LHDTC+
- Creu gofodau diogel a chadarnhaol
- Gwrando ar bobl ifanc LHDTC+ a chanoli eu lleisiau
Mynediad i wybodaeth
Y brif neges yw bod cyfiawnder rhywiol yn golygu bod gan bawb fynediad i wybodaeth gywir sy’n seiliedig ar dystiolaeth am rywioldeb ac iechyd
Beth allwn wneud?
- Rhannu adnoddau dibynadwy
- Annog sgyrsiau agored a pharchus ar draws cenedlaethau
- Dechrau sgyrsiau onest adref, yn y dosbarth ac ar-lein Siarad gyda Meic
Siarad â Meic
Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.
