Beth i’w Ddisgwyl Pan ti’n Gadael Gofal

Mae paratoi i adael gofal yn gam mawr. Mae’r blog yma yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl pan ti’n gadael gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael i ti.
Mae troi’n 18 oed yn beth mawr i bawb, ond mae’n fwy arwyddocaol pan ti mewn gofal. I nifer o bobl ifanc yng Nghymru, ti’n gadael gofal yn swyddogol ac yn cychwyn dy siwrne i fyw yn annibynnol pan ti’n troi’n 18. Gall hyn wneud i ti deimlo cymysgedd o emosiynau. Efallai dy fod yn teimlo’n gyffrous am gael mwy o ryddid, ychydig am nerfus am y cam nesaf, neu ychydig yn drist am adael sefyllfa sy’n gyfarwydd i ti. Mae’r holl deimladau yma’n gwbl normal ac yn ddilys. Cofia, nid dyma yw diwedd dy stori, mae’n gychwyn ar bennod newydd cyffrous.
Wedi “profi gofal”
Os wyt ti wedi bod mewn gofal, rwyt ti wedi “profi gofal”. Mae hyn yn golygu fod yr awdurdod lleol wedi gofalu amdanat ti rhywbryd yn dy fywyd. Mae’n rhan o dy stori, ond dydi o ddim yn dy ddiffinio di. Mae’n golygu fod gen ti hawliau a chefnogaeth arbennig sy’n parhau ar ôl i ti droi’n 18, weithiau nes ti droi’n 25 oed.
Cefnogaeth ar ôl i ti droi’n 18
Efallai dy fod yn meddwl bod cefnogaeth yn stopio ar ôl i ti droi’n 18, ond dydi hyn ddim yn wir! Mae gen ti Gynghorydd Personol sydd yno i helpu ti gynllunio a pharatoi ar gyfer bywyd ar ôl gofal. Maent yn dy arwain, ac yn helpu gyda phethau fel dod o hyd i rywle i fyw a rheoli dy arian. Paid â bod ofn gofyn cwestiynau – dyna yw pwrpas eu rôl! Efallai fydd dy weithiwr cymdeithasol dal i dy gefnogi drwy’r cyfnod pontio hefyd.
Cofia, mae gen ti hawl gyfreithiol i gael cefnogaeth, felly gwna’n siŵr dy fod yn gwybod beth ti’n gallu hawlio gan dy awdurdod lleol. Mae’r hawliau yma’n cynnwys tai, addysgu a chefnogaeth gyffredinol.
Dod o hyd i dy draed
Gall meddwl am reoli popeth ar dy ben dy hun deimlo’n llethol, ond dim disgwyl i ti wybod popeth yn syth.
Mae dod o hyd i rywle i fyw yn flaenoriaeth. Fydd dy gynghorydd personol yno i dy helpu chwilio am opsiynau gwahanol, fel llety gyda chefnogaeth, tŷ gyda phobl eraill neu dy fflat dy hun. Mae sefydliadau fel Shelter Cymru yn cynnig cyngor penodol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal.
Gall cyllido, agor cyfrif banc a deall budd-daliadau fod yn gymhleth. Mae dy gynghorydd yn gallu dy helpu, ac mae sawl adnodd ar-lein a gwasanaethau lleol sy’n cynnig cyngor ariannol. Cychwynna’n fach, cadwa lygad ar dy wario, a phaid â bod ofn gofyn am help os wyt ti’n stryglo.
P’un ai wyt ti eisiau mynd i’r coleg, prifysgol, cychwyn prentisiaeth neu swydd, mae cefnogaeth ar gael. Mae bwrsariaethau a grantiau addysg arbennig ar gael i bobl ifanc sydd wedi profi gofal, a gall dy gynghorydd dy roi mewn cysylltiad gyda chyfleoedd addysg a hyfforddiant. Hyd yn oed os nad wyt ti’n barod ar hyn o bryd, mae’n dda gwybod dy opsiynau.
Edrych ar ôl dy hun
Mae’r cyfnod pontio yn gallu bod yn drwm yn emosiynol. Efallai dy fod yn teimlo’n unig, o dan straen, neu’n ansicr ar brydiau. Mae hynny’n iawn. Siarada gyda dy gynghorydd personol, ffrind neu aelod o’r teulu ti’n ymddiried ynddyn nhw. Mae ffyrdd o ymdopi gyda straen fel gwneud ymarfer corff neu dreulio amser ym myd natur yn gallu helpu. Os wyt ti’n stryglo, mae’n bwysig estyn allan am help proffesiynol.
Mae gadael gofal yn gam mawr, ond dwyt ti ddim ar ben dy hun. Mae gen ti hawliau, cefnogaeth a’r gallu i adeiladu’r bywyd rwyt ti eisiau. Cymer popeth un cam ar y tro, dathla dy lwyddiant a chofia bod gofyn am help yn arwydd o gryfder.
Os wyt ti’n teimlo’n ansicr, wedi llethu, neu eisiau siarad, mae Meic yma i ti. Galli di gysylltu gyda ni yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim dros y ffôn, neges destun, neges Whatsapp neu sgwrs ar-lein.
