Deall Awtistiaeth a Chael Cefnogaeth

Mae Awtistiaeth yn fath o niwrowahaniaeth sy’n effeithio ar sut mae pobl yn profi’r byd. Darllena’r blog yma i ddysgu mwy am awtistiaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Beth yw awtistiaeth?
Mae Cymdeithasol Genedlaethol Awtistiaeth yn dweud bod o leiaf 700,000 o oedolion a phlant gydag awtistiaeth ym Mhrydain.
Maent yn diffinio awtistiaeth fel niwrowahanaieth ac anabledd gydol oes. Mae hyn yn golygu ei fod yn effeithio sut mae pobl yn profi ac yn rhyngweithio gyda’r byd.
Mae awtistiaeth yn sbectrwm, sy’n golygu ei fod yn effeithio ar bobl mewn llawer o ffyrdd gwahanol.
Beth yw Niwrowahaniaeth?
Efallai dy fod yn gyfarwydd â’r term niwrowahaniaeth neu niwroamrywiaeth. Mae hyn yn ffordd o ddweud bod ymennydd pawb ychydig yn wahanol.
Mae niwrowahaniaeth yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cyflyrau fel awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, dyspracsia a rhai cyflyrau iechyd meddwl.
Beth yw rhai nodweddion o awtistiaeth?
Mae awtistiaeth yn gallu bod yn wahanol iawn i bobl wahanol. Dyma rai enghreifftiau.
Prosesu synhwyrol – Mae rhai pobl awtistig yn sensitif iawn i synau, blasau, arogleuon ac i deimlad pethau. Mae eraill yn llai sensitif. Meddylia amdano fel y botwm sain dy deledu i dy synhwyrau. I rai pobl sydd ag awtistiaeth mae’n uchel iawn, ond i eraill nid yw mor uchel. Efallai byddant yn ymateb yn wahanol i synhwyrau mewnol hefyd, fel teimlo’n llwglyd, neu ddeall ble mae eu corff yn y gofod.
Ymddygiad a diddordebau – Mae gan rhai pobl awtistig ddiddordeb cryf iawn mewn pethau penodol. Mae rhai yn hoff o gadw at amserlen a chael cysur o wneud pethau’r un ffordd bob tro. Efallai bydd gan rai symudiadau neu ymddygiadau ailadroddus.
Cyfathrebu – Mae deall iaith corff a mynegiant gwyneb yn gallu bod yn anodd i rai pobl awtistig. Mae hyn yn gwneud sgyrsiau a sefyllfaoedd cymdeithasol yn heriol.
Sut mae awtistiaeth yn effeithio bywyd bob dydd?
Mae awtistiaeth yn effeithio pobl mewn ffyrdd gwahanol, yn enwedig eu profiad o sefyllfaoedd cymdeithasol a’u lles meddyliol.
Weithiau, mae’n anodd i bobl awtistig ddeall awgrymiadau neu ‘reolau’ cymdeithasol. Gall wneud iddynt deimlo’n ynysig ac eisiau osgoi cymdeithasu.
Mae pobl awtistig yn fwy tebygol o brofi pryder a straen. Gall hyn ddigwydd pan fydd eu synhwyrau yn cael eu gorlwytho, newidiadau i’w amserlen neu sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae rhai pobl awtistig yn ‘masgio’ sut maent yn teimlo er mwyn ffitio fewn, sy’n gallu bod yn flinedig iawn.
Mae’n bwysig cofio bod sawl un o’r heriau sy’n gwynebu pobl awtistig yn deillio o fyw mewn cymdeithas sydd heb ei gynllunio i gwrdd â’u hanghenion. Gelwir hyn yn y model cymdeithasol o anabledd. Tra bod rhai pobl ag awtistiaeth angen cefnogaeth, mae nifer yn ymdopi’n iawn ar eu pen eu hunain.
Sut mae gwneud diagnosis awtistiaeth?
Mae’n bwysig deall bod awtistiaeth yn ymddangos mewn llawer o ffyrdd gwahanol ac nid yw pawb yn derbyn diagnosis yn ystod plentyndod.
Gyda mwy o ymwybyddiaeth, mae nifer o oedolion yn adnabod nodweddion awtistiaeth ynddyn nhw eu hunain. Mae hyn yn gallu digwydd ar ôl darllen gwybodaeth am awtistiaeth ar-lein, drwy gyfryngau cymdeithasol neu drwy ddysgu am brofiadau pobl eraill ag awtistiaeth.
Mae adnabod nodweddion awtistiaeth yn gam cyntaf, mae cael diagnosis proffesiynol yn rhoi mwy o eglurdeb a chefnogaeth i ti.
Dysgu mwy am awtistiaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael
Dyma rai pethau galli di wneud i helpu ti ymdopi gyda nodweddion awtistiaeth.
Os hoffet ti fwy o wybodaeth am awtistiaeth neu os hoffet ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, gallet ti siarad gydag oedolyn ti’n ymddiried ynddynt, dy feddyg teulu, neu’r Gwasanaeth Integredig Awtistiaeth leol. Mae sefydliadau fel Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth neu Niwroamrywiaeth Cymru yn gallu cynnig cefnogaeth ac adnoddau.
Os nad wyt ti’n siŵr os oes gen ti awtistiaeth neu beidio, galli di siarad gyda dy feddyg teulu. Rydym yn deall bod hyn yn gallu teimlo’n ddychrynllyd i rai pobl. Os wyt ti eisiau siarad gyda rhywun am dy opsiynau, cysyllta gyda Meic.
Mae Meic yn wasanaeth cyfrinachol a dienw ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di gael cefnogaeth o 8yb i hanner nos bob dydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Meic yn rhywun ar dy ochor di.
