Deall ADHD a’r Cymorth sydd ar Gael

Mae ADHD yn ffordd fer i ddweud Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd,. Mae’n gyflwr niwroddatblygiadol sy’n effeithio ar bobl o bob oed ar draws y byd. Dysga fwy am yr anhwylder a’r cymorth sydd ar gael yma.
Beth yw ADHD?
Mae gan ADHD ddau brif symptom – diffyg sylw a gorfywiogrwydd a bod yn fyrbwyll.
Symptomau diffyg sylw:
- anodd canolbwyntio
- anghofio pethau
- dechrau tasgau newydd yn gyson heb eu gorffen
- yn ddiofal
Symptomau gorfywiogrwydd a bod yn fyrbwyll:
- aflonyddwch a symud yn gyson
- ymddwyn yn fyrbwyll
- torri ar draws eraill
- cymryd risgiau
- dweud y peth anghywir ar yr amser anghywir
- newidiadau mewn hwyliau
- straen
Diagnosis
Nid oes prawf meddygol ar gyfer ADHD – mae diagnosis yn seiliedig ar symptomau gweladwy. Fel arfer mae ADHD yn cael ei ddiagnosio yn ystod plentyndod, gyda rhieni neu athrawon yn aml yn sylwi ar y symptomau. Ond mae yna lawer o blant a phobl ifanc sydd ddim yn cael diagnosis, gyda llawer ohonynt yn sylweddoli bod ganddynt ADHD yn eu harddegau neu fel oedolion.
Mae llawer o bobl yn rhannu eu profiadau o ADHD ar gyfryngau cymdeithasol. Gall arwain at eraill yn adnabod y symptomau yn eu hunain a gall hyn arwain at geisio cael diagnosis.
Triniaeth
Nid yw ADHD yn diflannu ar ôl cyfnod, ond mae sawl triniaeth ar gael i reoli’r effaith ar dy fywyd. Mae’r rhain yn cynnwys meddyginiaeth a therapïau siarad.
Mae meddyginiaeth yn gallu helpu ti i ganolbwyntio, lleihau pa mor fyrbwyll wyt ti, a gwneud i ti deimlo’n dawelach. Ond, yn ddibynnol ar yr unigolyn, mae’n gallu cael sgîl-effeithiau felly mae’n bwysig i ti ofyn i’r meddyg amdanynt a’u monitro’n ofalus.
Mae rhai pobl yn mynd heb ddiagnosis – weithiau am ran o’u bywyd neu efallai am byth. Golygai hyn dim mynediad at driniaeth. Ond, efallai dy fod di’n cael trafferth gyda symptomau ADHD ac yn chwilio am bethau a all helpu.
Os nad wyt ti’n cael triniaeth ar gyfer ADHD, beth am:
- dweud wrth dy gyflogwyr neu athrawon am dy symptomau a gofyn am gymorth
- gwirio dy waith ddwywaith i osgoi camgymeriadau
- creu arferion a gosod nodiadau atgoffa i helpu cadw ti ar y trywydd iawn
- rhannu tasgau yn ddarnau llai fel nad yw’n teimlo’n ormod
- cymryd seibiannau rheolaidd i gadw ffocws
Siarad â Meic
Os nad wyt ti’n siŵr os oes gen ti ADHD neu ddim, gallet ti geisio siarad â’r meddyg. Ond rydym yn deall y gall hyn fod yn anodd neu’n codi ofn ar rai pobl. Os wyt ti eisiau siarad â rhywun i helpu ti i ddeall dy opsiynau, cysyllta â Meic.
Mae Meic yn wasanaeth cyfrinachol a dienw i blant a phobl ifanc Cymru. Mae cymorth ar gael o 8yb tan hanner nos bob dydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di. Ffonia 080 880 23456 neu sgwrsia ar-lein ar www.meic.cymru.
