x
Cuddio'r dudalen

Anableddau

Cartŵn o arth ar faglau gyda bandais ar ei glust

Gall anabledd olygu efallai bod gwneud rhai gweithgareddau dydd i ddydd ddim mor hawdd i ti.

Gall anabledd fod yn gorfforol neu’n feddyliol. Efallai byddi di’n darganfod bod rhai pethau yn anoddach i ti nag y mae i bobl eraill.

Mae rhai anableddau yn amlwg, a rhai yn rai cudd.

Efallai bod dy anabledd di yn cael effaith ar ddarnau o’r corff fel breichiau neu goesau, organau mewnol, llygaid neu glustiau, iechyd meddwl, ayb.

Nid yw’r ffaith dy fod di’n anabl yn golygu nad wyt ti’r un mor alluog neu glyfar â unrhyw berson arall. Dim ond bod angen ychydig o help ychwanegol arnat ti weithiau efallai, neu dy fod di angen defnyddio offer arbennig.

Mae pawb yn haeddu parch a charedigrwydd, pa bynnag ffordd mae dy gorff di’n gweithio.

Os wyt ti eisiau gwybod mwy am anableddau, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic. 

Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth:

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma rhai ohonynt sydd yn edrych ar anableddau: