x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Peryglon Gwerthu Lluniau Rhywiol Ar-lein

Brasluniau o ddyn a dynes noeth

Mae nifer o bobl ifanc yn chwilio am ffyrdd i wneud arian ar-lein, ac mae gwefannau fel OnlyFans yn ymddangos fel ffordd dda i ennill arian yn gyflym ond mae’n bwysig deall y peryglon hefyd.

RHYBUDD: Oherwydd natur y pwnc, efallai bydd y cynnwys yma yn anaddas i rai o’n darllenwyr iau.

Efallai ti’n gweld pobl ar gyfryngau cymdeithasol yn brolio am gymaint o arian maent yn wneud yn gwerthu lluniau noeth ar-lein, ac efallai ti’n meddwl trio gwneud hyn hefyd. Nid yw Meic yma i bregethu na beirniadu. Rydym yma i ddarparu gwybodaeth a chyngor fel dy fod yn gallu gwneud dewis doeth. Mae’r blog yma’n edrych ar anfanteision gwerthu lluniau rhywiol ar-lein, a’r gyfraith am hyn, fel bod gen ti’r holl wybodaeth cyn gwneud penderfyniad.

Y Gyfraith

Mae rheolau ynglŷn â be ti’n cael rhannu ar-lein.

Os wyt ti o dan 18, mae’n anghyfreithlon rhannu neu gynhyrchu lluniau neu fideos rhywiol ohonot ti neu rywun arall o dan 18. Mae hyn yn cael ei ystyried yn gamdriniaeth ac yn cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, ac mae’r gosb gyfreithlon yn llym.

Ni fydd gwefannau fel OnlyFans yn gadael i ti wneud cyfrif os wyt ti o dan 18, ac mae rhaid i ti ddangos cerdyn adnabod i brofi dy fod dros 18.

Hyd yn oed os wyt ti dros 18, mae cyfreithiau sy’n dy amddiffyn, yn cynnwys rhai ar aflonyddu, amddiffyn data, a hawlfraint. Mae’n bwysig deall y rheolau yma i amddiffyn dy hun.

Braslun o ddyn noeth ar genfdir porffor

Problemau Ariannol

Efallai na fyddi di’n ennill yr un faint o arian bob mis. Mae incwm o blatfformau ar-lein yn gallu amrywio’n ddyddiol. Mae rhaid i ti baratoi am gyfnodau tawel, a ni fydd gennyt yr un buddion o swydd arferol.

Mae ennill arian fel hyn yn cymryd llawer o waith ac amser. Efallai byddi di’n gwneud arian da un mis, a dim byd y mis wedyn.

Y gwir amdani yw nad yw’r rhan fwyaf o gyfrifon yn gwneud llawer o arian, a dim ond ychydig sy’n gwneud arian mawr, fel arfer y rhai sydd gan lawer o ddilynwyr ar sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae angen ymdrech gyson i adeiladu dy broffil, a gall algorithmau newid, a all effeithio ar bwy sy’n gweld dy gynnwys a beth rwyt ti’n ennill.

Ti fydd yn gyfrifol am ochor fusnes pethau, fel hyrwyddo dy hun a rheoli dy arian.

Dy les meddyliol

Gall rhannu cynnwys personol effeithio arnat ti’n emosiynol.

Gall fod yn anodd derbyn sylwadau cas neu gael dy wylio drwy’r amser. Mae’r we yn le cas weithiau, ac efallai byddi di’n gwynebu sylwadau negyddol, aflonyddu, neu hyd yn oed stelcian. Gall hyn gael effaith ddifrifol ar dy hunan-barch a’th iechyd meddwl

Efallai byddi di’n teimlo pwysau i greu cynnwys sy’n gwneud ti deimlo’n anghyfforddus, neu ddelio â sylw a sylwadau digroeso. Mae’n bwysig dy fod yn ystyried yr effaith ar dy les meddyliol ac emosiynol.

Efallai bydd pobl yn darganfod pethau amdanat dwyt ti ddim eisiau nhw wybod. Gall hyn arwain at ‘doxing’ (rhannu gwybodaeth amdanat yn gyhoeddus) neu bobl yn trio cysylltu â thi hyd yn oed os nad wyt ti eisiau hyn.

Braslun o gorff merch ar gefndir oren

Pobl yn cymryd mantais

Efallai bydd rhai pobl yn trio dy dwyllo. Mae ‘na rai pobl ar-lein sy’n gallu trio cymryd mantais ohonot neu dy dwyllo’n ariannol.

Efallai bydd rhai pobl yn trio dy dwyllo mewn ffyrdd eraill hefyd. Efallai bydd pobl yn copïo dy luniau neu fideos a’u rhannu heb ganiatâd. Gallent ddefnyddio’r lluniau neu fideos i wneud rhai ffug, a elwir yn ‘deepfakes’. Mae hyn yn golygu y gallent roi dy wyneb ar gorff rhywun arall mewn fideo rhywiol, neu addasu dy luniau. Unwaith mae llun ar-lein, mae’n anodd iawn atal pobl rhag ei ​​newid neu ei rannu mewn ffyrdd nad wyt ti’n hapus â nhw.

Dy enw da

Efallai byddi di’n falch iawn o’r cynnwys ti’n creu, ac mae hynny’n wych. Os wyt ti’n penderfynu gwneud hyn, does dim cywilydd yn hynny. Ond meddylia am sut byddi di’n teimlo ymhen ychydig flynyddoedd.

Mae stigma am greu cynnwys rhywiol, ac mae hyn yn gallu effeithio ar sut bydd dy gymuned a dy gyflogwr yn dy weld.

Nid yw’r we byth yn anghofio. Ar ôl i ti roi rhywbeth ar-lein, rwyt ti’n creu ôl troed digidol sy’n anodd iawn cael gwared arno. Gall hyn effeithio ar dy enw da.

Mae llawer o gyflogwyr yn gwirio cyfryngau cymdeithasol cyn penodi rhywun. Gall dy ôl troed digidol gyfyngu ar dy gyfleoedd gwaith mewn rhai meysydd. Efallai bydd colegau a phrifysgolion yn edrych ar be ti’n bostio ar-lein hefyd.

Gall be ti’n bostio ar-lein effeithio ar dy berthnasoedd â theulu, ffrindiau a phartneriaid hefyd. Gall achosi embaras a gwrthdaro, a gall olygu bod rhai perthnasoedd yn chwalu’n llwyr.

Hyd yn oed os wyt ti’n penderfynu rhoi’r gorau i greu cynnwys ac yn dileu popeth ti wedi rhannu, mae’n debyg bydd y cynnwys dal i fodoli rhywle ar y we. Efallai y bydd gan bobl sgrin luniau, neu wedi rhannu copïau. Mae hyn i gyd tu allan i dy reolaeth.

Braslun o gamera ar gefndir gwyrdd

Ffyrdd eraill o ennill arian


Mae yna lawer o ffyrdd eraill i ennill arian, heb rannu lluniau, fideos neu recordiadau sain ohonot ti dy hun ar-lein.

Os wyt ti’n dda am ysgrifennu, arlunio, cerddoriaeth, celf, neu gyfryngau cymdeithasol, gallet ti gynnig y sgiliau hynny i bobl drwy weithio’n llawrydd. Hysbyseba dy hun ar dudalennau cymunedol a llunia bortffolio o’r pethau rwyt ti’n creu.

Gallet ti werthu nwyddau ar lwyfannau fel eBay, Etsy a Facebook hefyd.

Chwilia am swyddi rhan-amser neu lawn amser i ennill arian a dysgu sgiliau newydd. Nid oes rhaid iddo fod yn rhywbeth ti eisiau gwneud am byth, ond gall helpu ti ennill arian yn fwy rheolaidd.

Cael help a chymorth

Edrycha ar dudalennau Cael Help Meic ar gyfer help gyda materion ariannol, dod o hyd i swydd neu ddiogelwch ar-lein.

Darllena fwy am iechyd a lles rhywiol yn ein Hymgyrch Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau, lle rydym yn edrych ar lawer o wahanol elfennau o gadw dy hun yn rhywiol iach a diogel.

Os wyt ti’n meddwl am rannu lluniau noeth ar-lein, siaradwch â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo. Gallai hynny fod yn ffrind, aelod o’r teulu, neu rywun yn Meic.