-
Sgwrsio Ar-lein
Cychwyn sgwrs byw
Budd-daliadau ydy cymorth gan y llywodraeth i helpu ti os wyt ti’n dioddef yn ariannol. Efallai dy fod di’n ddi-waith, ddim yn ennill digon o gyflog, yn anabl, yn ofalwr, ayb.
Mae budd-daliadau yn gallu helpu ti i dalu am fwyd neu filiau neu sicrhau rhywle diogel i fyw. Gall hefyd dalu cyfnod mamolaeth, gostwng treth cyngor, tâl salwch statudol, ayb.
Os wyt ti eisiau rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau a help i ddeall pa rai gallet ti ei gael, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic.
Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth: