Dyfodol mwy Disglair i Iechyd Meddwl yng Nghymru: Beth Sydd Angen i ti Wybod

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu cynllun newydd ar gyfer iechyd meddwl fydd yn ein harwain am y 10 mlynedd nesaf, o 2025 i 2035.
Nod Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Llywodraeth Cymru yw sicrhau fod pobl yn cael cymorth gyda phroblemau iechyd meddwl yn gynt ac i atal problemau rhag gwaethygu. Mae’n gynllun newydd ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl yng Nghymru, ac mae’n ei wneud yn haws ac yn gyflymach i gael yr help iawn pan wyt ti ei angen.
Cefnogaeth yr un dydd
Un o’r rhannau pwysicaf o’r cynllun newydd yw’r “cefnogaeth yr un dydd”. Dychmyga deimlo’n drist neu’n poeni am rywbeth a gallu estyn allan am help a siarad gyda rhywun yr un dydd. Dyna’r nod! Bydd hyn yn golygu na fydd rhaid i ti gael dy gyfeirio gan feddyg, sydd yn gallu cymryd amser. Y nod yw darparu’r cymorth ti angen, pan ti ei angen o fwyaf, heb oedi.
Dull cam wrth gam
Mae pawb yn wahanol, ac mae’r help rydym angen yn wahanol hefyd. Mae dull cam wrth gam yn golygu bydd gwahanol lefelau o gefnogaeth ar gael. Efallai byddi di’n cychwyn gyda’r gefnogaeth leiaf dwys, fel cael sgwrs gyda rhywun er mwyn cael cyngor. Os nad ydy hynny’n ddigon, galli di symud ymlaen i gael mwy o gefnogaeth. Mae fel cael ysgol o gefnogaeth. Galli di fynd i fyny ac i lawr er mwyn cael y gefnogaeth sy’n iawn i ti.
Cefnogaeth gyda materion ehangach
Mae llawer o bethau mewn bywyd yn gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl, nid dim ond ein teimladau a’n meddyliau. Mae pethau fel lle rydym yn byw, os ydyn ni’n teimlo’n unig neu os ydyn ni’n poeni am arian, yn gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl. Mae’r cynllun eisiau datrys rhai o’r “problemau ehangach” hefyd. Felly, os wyt ti’n stryglo gyda dy iechyd meddwl oherwydd problemau tai, teimlo’n unig neu bryderon am arian, mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth i’r heriau yna hefyd. Mae’n edrych ar y darlun llawn.
Cefnogaeth Gymunedol
Weithiau, mae cael mynediad at help yn gallu bod yn anodd, yn enwedig os ydi o’n anodd ei gyrraedd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud yn haws i gael mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl drwy gynnig mwy o wasanaethau lleol. Mae cefnogaeth yn y gymuned yn golygu y byddi di’n fwy tebygol o gael help yn agosach at dy gartref, a’i wneud yn symlach i gael mynediad ato. Boed hynny drwy grwpiau lleol, canolfannau, neu lefydd yn dy gymuned.
Cydweithio
Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn llwyddo, mae rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd. Bydd Byrddau Iechyd (sy’n rheoli ysbytai a gwasanaethau iechyd), cynghorau lleol, elusennau a grwpiau eraill yn dod at ei gilydd. Mae’r ffordd yma o weithio yn golygu bydd yr holl sefydliadau yma yn cysylltu er mwyn sicrhau dy fod yn derbyn y gefnogaeth orau posib.
Eisiau siarad?
Mae’n wych dysgu mwy am y cynllun newydd, ond efallai fod gen ti fwy o gwestiynau neu ti eisiau sgwrsio gyda rhywun. Dyma ble gall Meic helpu.
Mae Meic yn llinell gymorth rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di siarad gydag un o’r cynghorwyr am unrhyw beth sydd ar dy feddwl. Boed hynny’n deall mwy am gefnogaeth iechyd meddwl, sut effaith fydd y cynllun newydd yn cael arnat ti, neu am sut ti’n teimlo.
Gallwn ni helpu ti ddeall dy opsiynau a dy roi ar ben ffordd i gael y gefnogaeth gywir. Galli di gysylltu gyda llinell gymorth Meic dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein.
