x
Cuddio'r dudalen

Hygyrchedd

Cartŵn o arth ar faglau gyda bandais ar ei glust

Hygyrchedd ydy sicrhau bod pawb, beth bynnag eu gallu neu wahaniaethau, yn gallu defnyddio a mwynhau pethau fel adeiladau, gwefannau, neu weithgareddau, yn hawdd.

Mae rhai esiamplau yn cynnwys sicrhau bod yna rampiau i gadeiriau olwyn, arwyddion clir os fedri di ddim gweld cystal, neu isdeitlau ar fideos fel y gallet ti gael mynediad i bethau a chael dy gynnwys.

Os wyt ti eisiau gwybod mwy am hygyrchedd, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic. 

Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth:

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma rhai ohonynt sydd yn edrych ar hygyrchedd: