x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Beth yw Hawliau Pobl Anabl?

Bachgen gyda coes prosthetic yn tynnu llun gyda camera

Mae gan bawb hawliau, mae hynny’n cynnwys yr hawl i gael dy drin gyda pharch ac urddas. Mae pawb yn haeddu byw heb brofi gwahaniaethu ac i gael yr un cyfleoedd a phawb arall i gyrraedd eu potensial. Darllena’r blog i ddysgu mwy am dy hawliau fel person anabl.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai pobl anabl gael eu trin yn wahanol o ran iechyd, addysg, cyflogaeth, arian, profiadau o droseddu, tai a lles.

Beth yw hawliau pobl anabl?

Mae hawliau pobl anabl yn sicrhau bod pobl anabl yn cael eu trin yn gyfartal ac yn cael yr un cyfleoedd a phawb arall. Maent yn seilio o ddeddfau fel Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Hawliau Dynol 1979 sy’n gwarchod pobl rhag gwahaniaethu.

Darlun o ferch yn eistedd wrth fwrdd yn gwneud llun. Mai ei choesau wedi cael eu trychu

Beth mae’r hawliau hyn yn ei olygu?

  • Hygyrchedd: Ystyr hyn yw bod pethau yn cael eu dylunio a’u gwneud mewn ffordd fel bod pawb yn gallu eu defnyddio. Er enghraifft, cael ramp ar gyfer cadeiriau olwyn, gwneud gwefannau yn hawdd i bawb eu darllen, a defnyddio iaith mae pawb yn ei ddeall.
  • Cydraddoldeb: Nid yw hyn yn golygu trin pawb yr un fath, oherwydd mae gan bawb anghenion gwahanol. Mae cydraddoldeb yn sicrhau bod gan bawb yr adnoddau sydd ei angen ganddynt er mwyn cyflawni’r un peth.
  • Cynwysoldeb: Mae cynwysoldeb yn golygu gwneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cynnwys. Mae’n golygu bod pawb yn cael mynediad cyfartal at gyfleoedd. Mae’n cydnabod yr amrywiaeth mewn cymdeithas ac yn cefnogi anghenion pawb.

Dy hawliau ar waith

Gallet ti hawlio pethau fel:

  • Cefnogaeth gan wasanaethau cymdeithasol: Gall hyn gynnwys help gyda bywyd dydd i ddydd neu deithio.
  • Addasiadau i dy gartref: Fel lifft, rampiau neu offer arbennig.
  • Addasiadau yn yr ysgol neu gwaith: Fel amser ychwanegol ar gyfer arholiadau neu oriau gweithio hyblyg.
  • Cefnogaeth cyfathrebu: I helpu ti ddeall gwybodaeth a sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed.
  • Eiriolaeth: Rhywun sydd yn dy gefnogi i godi llais am dy hawliau.
Darlun o fachgen yn tynnu llun gyda camera. Mae o'n eistedd mewn cadair olwyn

Beth am wahaniaethu?

Mae trin rhywun yn annheg oherwydd eu hanabledd yn cael ei alw’n gwahaniaethu, ac mae hyn yn erbyn y gyfraith. Os wyt ti’n meddwl dy fod yn cael dy wahaniaethu, galli di:

  • Adrodd am dy bryderon: Rho wybod i rywun beth sydd wedi digwydd.
  • Gofyn am newidiadau: Beth sydd angen ei wneud i ddatrys y sefyllfa?
  • Gwneud cwyn: Galli di wneud cwyn i dy ysgol, gwaith neu’r awdurdodau perthnasol.

Eisiau dysgu mwy?

Edrycha ar y gwefannau yma am fwy o wybodaeth a chefnogaeth:

Angen siarad?

Os wyt ti eisiau siarad â rhywun am hyn neu eisiau cyngor, cefnogaeth neu arweiniad am unrhyw beth arall, cysyllta gyda Meic. Mae Meic yn llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di gysylltu â ni am ddim ar y ffon, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein, i siarad am unrhyw beth sydd ar dy feddwl.