x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Dydd Gŵyl Dewi: Dathliad o Ddiwylliant a Threftadaeth Cymru

Darlun o ddraig goch yn gwisgo het draddodiadol Gymreig ac yn dal cenin pedr

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod cenedlaethol yng Nghymru sy’n digwydd ar Fawrth y cyntaf. Mae’n ddiwrnod i goffau Dewi Sant, nawddsant Cymru, ac i ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru.

Pwy oedd Dewi Sant?

Roedd Dewi Sant yn esgob yn y 6ed ganrif ac mae pobl yn dweud ei fod yn gallu gwneud gwyrthiau. Mae’n cael ei gofio am ei fywyd syml, a’i gred ym mhwysigrwydd gwaith caled. Fe sefydlodd lond llaw o fynachlogydd, yn cynnwys yr un yn Nhŷ Ddewi, sydd yn safle pererindod bwysig i Gristnogion.

Roedd Dewi Sant yn bregethwr enwog ac roedd o’n teithio o gwmpas Cymru a de Lloegr yn pregethu, ond mae un o’r chwedlau enwocaf amdano am bregeth a roddodd yn Llanddewi Brefi. Yn ôl y chwedl roedd cynulleidfa anferth wedi dod i glywed Dewi yn siarad, ond nid oedd pawb yn gallu ei weld a’i glywed. Yna, cododd y tir ble oedd Dewi’n sefyll a chreu bryn bach, fel bod pawb yn y gynulleidfa yn gallu ei weld a’i glywed. Er mai chwedl yw’r stori yma, mae wedi dod yn rhan bwysig o hanes Dydd Gŵyl Dewi.

Darlun o genin pedr

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn digwydd ar Fawrth y cyntaf, diwrnod ei farwolaeth.

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn dathlu traddodiadau Cymreig, yr iaith Gymraeg a balchder cenedlaethol. Mae’n gyfle i gysylltu gyda threftadaeth Gymreig a gwneud cysylltiadau newydd yn lleol. Yn ôl y chwedl, cyn ei farwolaeth fe ddywedodd Dewi Sant wrth ei ddilynwyr ‘gwnewch y pethau bychain’. Mae’r neges syml yma’n bwysig i gofio hyd heddiw.

Mae nifer o ffyrdd gallwch chi ddathlu Dydd Gŵyl Dewi:

Efallai bydd eglwys lleol yn cynnal gwasanaeth arbennig i goffau bywyd a dysgeidiaeth Dewi Sant, ac mae nifer o wasanaethau dwyieithog ar gael.

Mae pobl yn gwisgo cenin pedr neu genhinen, symbolau cenedlaethol Cymru. Ar ddydd Gŵyl Dewi mae rhai pobl a phlant yn gwisgo dillad traddodiadol Cymreig hefyd.

Gallet ti baratoi prydau traddodiadol fel cawl a chacennau cri.

Mae nifer o gymunedau yn cynnal parêd gyda bandiau, baneri lliwgar a gwisgoedd traddodiadol. Mae’r parêd cenedlaethol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd bob blwyddyn.