x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd

Rhuban melyn sef y symbol am ymwybyddiaeth atal hunanladdiad

Ar y 10fed o Fedi, mae Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, ymgyrch byd-eang i godi ymwybyddiaeth am atal hunanladdiad. Y thema eleni, wedi’i osod gan y Sefydliad Rhyngwladol i Atal Hunanladdiad, yw ‘Newid y Naratif am Hunanladdiad’

Mae newid y ffordd rydym yn siarad am hunanladdiad yn golygu edrych arno’n wahanol. Yn hytrach na distawrwydd a diffyg dealltwriaeth, rydym angen bod yn agored ac yn gefnogol. Nod yr ymgyrch eleni yw annog pobl i gael sgyrsiau gonest am hunanladdiad a meddyliau hunanleiddiol.

Pam rydym ni angen siarad am hunanladdiad?

Am amser hir, mae hunanladdiad yn bwnc mae pobl wedi’i osgoi siarad amdano. Gall deimlo’n ddychrynllyd, anghyfforddus neu hyd yn oed yn anaddas i siarad amdano. Mae myth bod siarad am hunanladdiad yn gallu annog pobl, ond y gwir ydy, gall ei atal. Siarad yn agored am hunanladdiad yw un o’r ffyrdd gorau gallwn ni gefnogi ein gilydd a chreu newid.

Dau berson yn cefnogi eu gilydd a dal dwylo

Sut ydw i’n cychwyn sgwrs?

Paid â bod ofn cychwyn sgwrs a gofyn sut mae rhywun yn teimlo. Dyma ychydig o gyngor ar sut i gychwyn sgwrs:

  • Dewis amser da a lle heb unrhyw beth i dynnu eich sylw
  • Defnyddia gwestiynau agored sydd angen mwy na ateb Ie neu Na
  • ‘Sut mae pethau? Dwi wedi sylwi dwyt ti ddim cweit yn ti dy hun’
  • Gwranda’n astud. ‘Sut mae hynny’n gwneud i ti deimlo?’
  • Osgoi rhoi dy farn am beth sy’n bod neu dweud wrthynt beth i’w wneud

Paid â rhoi fyny. Weithiau gall pobl fod ychydig yn bryderus, ond mae’n bwysig i parhau i siarad. Gyda amser, fydd yn teimlo’n fwy normal i gychwyn sgyrsiau a gofyn wrth y bobl yn dy fywyd sut maent wir yn teimlo.

Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid i ti gael yr atebion i gyd. Galli di eu hannog i siarad gyda gweithiwr proffesiynol gall gynnig help, fel eu meddyg teulu. Canolbwyntia ar y pethau galli di wneud i helpu fel cadw cwmni iddyn nhw, mynd allan am dro neu treulio amser gyda’ch gilydd yn gwneud rhywbeth maent yn ei fwynhau.

Dwy ferch yn cerdded ar hyd promenâd yn ystod y machlud

Gwasanaethau gall helpu

Mae’r holl wasanaethau isod yn rhad ac am ddim. Maent yn cynnig cyngor a chefnogaeth heb feirniadaeth i unrhyw un sy’n stryglo gyda’i iechyd meddwl neu meddyliau hunanleiddiol, neu os wyt ti’n poeni am rhywun arall:

  • Samariaid: Cefnogaeth rhad ac am ddim a chyfrinachol 24/7. Galli di ffonio ar 116 123.
  • Papyrus: I blant, pobl yn eu harddegau a phobl ifanc i fyny at 35 sy’n cael meddyliau hunanleiddiol, neu’n poeni am berson ifanc. Ffonia 0800 0984141 neu tecstio 07860 039967
  • Meic: Llinell gymorth i blant a phobl ifanc yn Nghymru sy’n cynnig cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth
  • GIG: Ffonia 999 os wyt ti neu unrhyw un arall mewn perygl o niweidio eu hunain, neu ffonia 111 a phwyso 2 i gael cefnogaeth iechyd meddwl

Siarad â Meic

Llinell gymorth ddwyieithog, cyfrinachol ac am ddim, i blant a phobl ifanc hyd at 25 yng Nghymru. Cysyllta os wyt ti’n poeni am rywbeth, gyda chwestiynau, neu angen gwybodaeth neu gyngor. Gallem dy roi ar y llwybr cywir os wyt ti’n cael trafferth gwybod pwy i gysylltu. Gallem hyd yn oed helpu ti i siarad gydag eraill os yw hyn yn anodd i ti. Ffonia’r llinell gymorth o 8yb tan hanner nos bob dydd: 080 880 23456 neu sgwrsia ar-lein.