Creu Cynllun Diogelwch mewn 5 Cam Hawdd

Sut i adeiladu cynllun diogelwch syml pan fydd bywyd yn teimlo’n ormod.
Weithiau, mae bywyd yn gallu teimlo’n anodd. Efallai dy fod di’n teimlo’n drist iawn, dan straen, neu’n bryderus. Gall y teimladau trwm yma ei gwneud hi’n anodd meddwl yn glir, a gall wneud i rywun deimlo’n sownd.
Pan fyddi di’n teimlo’n dda, mae’n amser gwych i baratoi ar gyfer y cyfnodau anodd. Dyma’r amser i feddwl am gynllun diogelwch. Meddylia amdano fel pecyn cymorth cyntaf, ond ar gyfer teimladau. Mae’n gynllun syml rwyt ti’n creu pan tin teimlo’n iawn, fel ei fod yn barod i’w ddefnyddio pan fyddi di wir ei angen.
Beth yw cynllun diogelwch?
Mae cynllun diogelwch yn rhestr o bethau fedri di eu gwneud i deimlo’n fwy diogel ac yn fwy tawel pan fyddi di’n teimlo’n isel iawn. Mae’n helpu i gofio bod teimladau bob amser yn newid ac yn dy atgoffa bod cymorth bob amser ar gael, ti ddim ar ben dy hun.
Mae’n hawdd creu cynllun. Nid oes angen unrhyw offer arbennig; rwyt ti’n ei nodi yn nodiadau dy ffôn neu ar bapur i’w gadw yn dy fag neu waled. Y peth pwysicaf yw ei fod yn hawdd dod o hyd iddo!
Cam 1: Nodi dy arwyddion rhybudd
Sut wyt ti’n gwybod pan fyddi di’n dechrau teimlo’n ddrwg? Weithiau, gall hyn fod yn anodd ei adnabod. Ceisia feddwl am yr hyn sy’n digwydd pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Gofynna’r cwestiynau hyn i ti dy hun i ddechrau:
- Wyt ti’n stopio bwyta?
- Wyt ti’n cysgu gormod neu’n cysgu ychydig iawn?
- Wyt ti’n stopio ateb negeseuon?
- Wyt ti’n teimlo’n ddiamynedd ac yn bigog gyda ffrindiau a theulu?
- Wyt ti’n cael mwy o ysfa, neu ysfa ddifrifol, i hunan niweidio?
- Wyt ti’n teimlo’n ddideimlad ar y tu mewn?
- Wyt ti’n teimlo’n anobeithiol?
Ysgrifenna o leiaf dri pheth sydd y rhybudd ti. Pan fyddi di’n gweld y rhybuddion yma, dyma pryd dylet ti ddefnyddio dy gynllun diogelwch.
Cam 2: Rhestra’r pethau sydd yn gallu tynnu dy sylw ac unrhyw strategaethau ymdopi
Pan fyddi di’n teimlo bod pethau’n ormod, mae angen i ti stopio a chymryd seibiant. Gall pethau sy’n tynnu sylw dy helpu di i wneud hyn gan eu bod yn newid dy ffocws. Nid ydynt yn datrys y broblem, ond maen nhw’n gyfle i’r ymennydd gael saib am ychydig, fel dy fod di’n teimlo dy fod di’n gallu ymdopi’n well.
- Gwrando ar dy hoff albwm
- Mynd am dro byr yn yr awyr agored
- Gwylio fideo doniol
- Paratoi diod neu fyrbryd
- Cael bath cynnes neu gawod
- Llenwi llyfr gweithgaredd neu liwio syml
- Chwarae gêm
Dewis pethau rwyt ti’n mwynhau, ychydig bach hyd yn oed. Defnyddia’r rhestr yma i helpu ti i dynnu sylw am o leiaf 15 munud. Gall yr oedi bach yma wneud gwahaniaeth mawr weithiau gan helpu ti i ailosod.
Gallet ti hefyd ysgrifennu rhai ymarferion meddylgarwch, fel y dull 5, 4, 3, 2, 1. Enwa:
- Pum peth fedri di ei weld
- Pedwar peth fedri di ei gyffwrdd
- Tri pheth fedri di ei glywed
- Dau beth fedri di ei arogli
- Un peth fedri di ei flasu
Bydd yr ymarfer yma yn dod â thi yn ôl i’r foment bresennol. Mae’n dy atgoffa di dy fod di yma ar hyn o bryd.
Cam 3: Beth yw’r pethau sy’n rhoi gobaith i ti?
Meddylia am y pethau a’r bobl rwyt ti’n caru neu’n sy’n rhoi ystyr i dy fywyd, a’u hysgrifennu i lawr. Gallai’r rhain gynnwys perthynas gyda ffrindiau, teulu, partner, neu anifeiliaid anwes.
Hefyd, cofia gynnwys y pethau sydd gen ti i edrych ymlaen atynt, yn fuan neu ymhellach yn y dyfodol, neu unrhyw beth arall sy’n gwneud i ti deimlo’n obeithiol. Gallai’r rhain fod yn nodau rwyt ti wedi’u gosod i dy hun, profiadau neu gyfrifoldebau yr hoffet ti eu cael.
Gall y rhestr hon fod yn atgof o’r rhesymau dros fyw.
Cam 4: Pwy fedri di ymddiried ynddynt?
Gall fod yn anodd iawn siarad pan fyddi di’n cael trafferth, ond siarad yw’r peth mwyaf diogel fedri di ei wneud mewn gwirionedd. Mae llinell gymorth Meic a gwasanaethau cymorth eraill yma i helpu. Y peth pwysicaf yw peidio bod ar ben dy hun gyda’r teimladau anodd yma.
Yn dy gynllun diogelwch, rhestra enwau a rhifau ffôn pobl a gwasanaethau fedri di ymddiried ynddynt.
- Ffrind agos sy’n gwrando’n dda
- Aelod o’r teulu fedri di deimlo’n ddiogel gyda nhw
- Hoff athro, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymdeithasol, neu oedolyn dibynadwy
- Rhif llinell gymorth Meic: 080 880 23456 (ffôn a neges WhatsApp)
- Llinellau cymorth eraill fel Childline neu’r Samariaid
Cofia, nid oes rhaid i ti fod mewn argyfwng i gysylltu â Meic – fedri di gysylltu dim ond i siarad â rhywun. Fedri di sgwrsio â ni am rywbeth sydd wedi digwydd yn dy fywyd sydd wedi gwneud i ti fod eisiau gwybodaeth, cyngor neu eiriolaeth. Beth am i ti sgwrsio â ni am dy gynllun diogelwch i weld sut beth yw siarad â chynghorwr?
Cam 5: Beth sy’n dy helpu di i deimlo’n ddiogel ar hyn o bryd?
Mae’r cam yma yn ymwneud â chamau gweithredu uniongyrchol iawn i gadw dy amgylchedd yn ddiogel. Os wyt ti mewn perygl o niweidio dy hun, gall dilyn cynllun diogelwch dy atgoffa i wneud hynny mor anodd â phosibl. Ysgrifenna bethau fedri di eu gwneud i wneud dy amgylchedd yn fwy diogel. Gall hyn gynnwys:
- Gofyn i rywun fod gyda thi neu i gysylltu i weld os wyt ti’n iawn yn aml
- Storio meddyginiaethau’n ddiogel
- Symud pethau miniog
- Cyfyngu mynediad at sylweddau niweidiol
- Mynd i rywle lle mae llawer o bobl neu lle rwyt ti’n teimlo’n ddiogel
Cofia: Cadwa ef yn ddiogel a’i wirio yn aml
Mae dy gynllun diogelwch yn ddogfen fyw. Mae hynny’n golygu ei fod yn newid wrth i ti newid. Ydy dy hoff gân di wedi newid? Oes ffrind newydd rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt fwy? Wyt ti angen diweddaru dy rif ffôn? Mae gwneud diweddariadau bach yn rheolaidd yn ei gadw’n barod i’w ddefnyddio. Beth am i ti osod nodyn atgoffa ar dy ffôn i’w wirio unwaith y mis fel ei fod yn gyfredol?
Cofia gadw dy gynllun diogelwch yn ddiogel ac yn agos, byddi di angen ei ddarganfod yn sydyn ac yn syml pan fyddi di’n teimlo’n ypset.