x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Pam Nad Oes Gan Rhai Pobl Ifanc Ffydd yn yr Heddlu?

Gwaith yr heddlu yw cadw pobl yn ddiogel. Eu bwriad yw atal troseddau ac ymateb i argyfyngau. Ond mae rhai pobl yn stryglo i gael ffydd yn yr heddlu. Mae’r blog yma yn edrych ar rai o’r rhesymau pam.

Beth yw ffydd?

Ffydd (neu ymddiried) yw pan fyddi di’n credu bod rhywun yn onest ac y byddant yn gwneud y peth iawn. Pan rydym yn siarad am fod â ffydd yn yr heddlu, mae’n golygu credu y byddan nhw’n trin pawb yn deg. Mae’n golygu gwybod y byddan nhw’n dy amddiffyn ac yn gwrando ar dy bryderon. Mae pawb yn haeddu teimlo fel hyn.

Profiadau drwg

Weithiau, mae gan bobl, neu eu teuluoedd, brofiadau negyddol o’r heddlu. Efallai bod profiad  â’r heddlu wedi teimlo’n annheg, neu’n teimlo fel nad oeddent wedi gwrando. Mae profiadau fel hyn yn gallu achosi pobl i beidio bod â ffydd yn yr heddlu yn y dyfodol. Os oes llawer o bobl yn yr un gymuned wedi cael profiadau negyddol tebyg , yna gall arwain at ddiffyg ffydd yn yr heddlu yn gyffredinol.

3 police officers stood together in a circle

Gweld beth sy’n digwydd i eraill

Nid dy brofiadau di yn unig sy’n gallu cael effaith ar dy safbwynt.  Efallai dy fod di’n gweld neu’n clywed am sut mae’r heddlu’n trin pobl eraill. Gall straeon newyddion, cyfryngau cymdeithasol, neu straeon gan ffrindiau hyd yn oed, ddangos pethau sy’n gwneud i ti amau’r heddlu. Er enghraifft, mae rhai pobl yn teimlo bod rhai grwpiau’n cael eu trin yn wahanol gan yr heddlu. Gelwir hyn yn rhagfarn (sy’n golygu cael teimlad neu farn gref sy’n ffafrio un peth neu berson dros un arall yn annheg). Os yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn annheg oherwydd eu cefndir, mae’n niweidio ffydd.

Poeni am gael dy gredu

I blant a phobl ifanc, rheswm mawr dros beidio ag ymddiried yn yr heddlu yw’r ofn na fyddant yn dy gymryd o ddifrif. Efallai y byddi di’n poeni na fydd yr heddlu yn dy gredu os wyt ti’n riportio rhywbeth. Gall y teimlad yma fod yn gryfach os yw’r mater yn un sensitif neu’n ymwneud ag oedolyn. Mae’n bwysig cofio bod swyddogion heddlu wedi’u hyfforddi i gymryd pob adroddiad o ddifrif. Os nad wyt ti’n teimlo fel eu bod yn gwrando arnat, yna mae ffordd i ti riportio hyn hefyd.

Phone and handcuffs on police officers hip

Mae’r heddlu’n newid

Mae’r heddlu’n gwybod bod ffydd yn bwysig, ac maen nhw’n gweithio i wneud pethau’n well. Maen nhw eisiau deall pam mae rhai pobl yn teimlo’n ansicr ac yn ceisio bod yn fwy agored a theg. Maen nhw’n gweithio ar hyfforddiant gwell i osgoi rhagfarn a sicrhau bod pawb yn cael eu trin â pharch. Mae ganddyn nhw hefyd ffyrdd o gwyno os wyt ti’n teimlo bod swyddog heddlu wedi ymddwyn yn wael. Golygai hyn bod yr heddlu’n bod yn atebol (bod yn gyfrifol am eu gweithredoedd).

Beth alla i wneud os oes angen help arnaf?

Os oes angen help arnat ti a ti’n ansicr am ffonio’r heddlu, mae gen ti opsiynau.

Mae Meic yma i wrando a helpu ti i feddwl beth i’w wneud nesaf. Gallwn ni siarad am dy bryderon a gallwn ni helpu ti i ddeall dy hawliau. Gallwn ni hyd yn oed helpu ti i ddod o hyd i wasanaethau eraill.

Gallet ti hefyd siarad ag oedolyn dibynadwy. Gallai hyn fod yn rhiant, yn athro, neu’n weithiwr ieuenctid.

Os wyt ti angen yr heddlu, cofia bod gen ti hawl i ofyn i rywun fod efo ti.  Mae deall dy hawliau hefyd yn bwysig. Mae gan yr heddlu reolau y mae’n rhaid iddyn nhw eu dilyn.

Mae’n iawn teimlo’n ansicr

Mae dy deimladau’n ddilys. Mae’n bwysig deall pam efallai nad wyt ti neu eraill â ffydd yn yr heddlu. Mae deall hyn yn helpu pawb i weithio tuag at Gymru fwy diogel a theg. Os wyt ti’n cael trafferth, mae Meic yma i ti.

Mae posib cysylltu â Meic yn ddienw, ac ni fyddwn yn barnu ti na dy sefyllfa.