Pam Bod Cynrychiolaeth yn y Cyfryngau yn Bwysig?

Wyt ti erioed wedi gwylio rhywbeth ac yna teimlo fod y person ar y sgrin yn dy ddeall di? Efallai bod o’n gymeriad sy’n edrych fel ti, sydd wedi rhannu’r un profiad neu’n deall rhan o dy fywyd di. Dyna bŵer cynrychiolaeth yn y cyfryngau.
Cael dy weld a dy ddeall
Mae gweld pobl sy’n debyg i ni ar y teledu, mewn ffilmiau neu ar gyfryngau cymdeithasol yn beth pwerus iawn. Ti’n teimlo fel bod dy deimladau yn ddilys, ac nad wyt ti ar ben dy hun, a bod yna rhywun sydd yn deall dy fyd di.
Mae’n gallu torri stereoteipiau drwy ddangos pa mor wahanol a diddorol yw gwahanol bobl.
Mae’n bosib i ti gael dy gynrychioli yn y cyfryngau pan ti’n gweld pobl mewn sefyllfaoedd tebyg i dy un di. Gall hyn fod yn:
- Dynameg teulu: Teuluoedd sy’n debyg i dy deulu di, boed hynny’n deulu un rhiant neu deulu aml-genhedlaeth, neu rywbeth yn y canol.
- Diwylliant: Dy draddodiadau, dathliadau a gwerthoedd yn cael eu portreadu’n deg.
- Ethnigrwydd: Pobl o’r un cefndir ethnig a ti mewn amryw o rannau a straeon
- Crefydd: Dy ffydd a’th arferion yn cael ei gynrychioli gyda chywirdeb a dealltwriaeth
- Rhywioldeb: Pobl o’r un cyfeiriadedd rhywiol a ti yn byw bywydau llawn a hapus
- Hunaniaeth rhyw: Pobl sy’n ddynion, merched, y ddau, dim un, neu rhywle ar y sbectrwm rhywedd.
- Anabledd: Pobl anabl yn cael eu cynrychioli mewn ffordd sy’n adlewyrchu amrywiaeth eu profiadau a’u galluoedd
Mae cael dy gynrychioli yn y cyfryngau yn gallu creu ymdeimlad cryf o berthyn. Mae’n atgyfnerthu’r syniad bod dy brofiadau a dy hunaniaeth yn bwysig.
Credu yn dy hun
Meddylia am chwarae gêm ble mae cymeriad o gefndir tebyg i ti yn cyflawni rhywbeth gwych. Pan ti’n gweld pobl fel ti yn llwyddo ac yn goresgyn heriau, mae’n gallu rhoi hwb i dy hunangred. Mae’n dangos bod unrhyw beth yn bosib ac yn dy annog a’th ysbrydoli i ddilyn dy freuddwydion, hyd yn oed os bydd heriau.
Felly, nid yw cynrychiolaeth yn y cyfryngau yn rhywbeth neis i’w gael – mae’n hynod o bwysig. Mae’n dangos bod pobl yn dy weld, yn helpu i gysylltu gydag eraill a chredu yn dy botensial. Pan mae straeon pawb yn cael eu hadrodd, mae’n gwneud y byd yn well lle i bawb.
Tu hwnt i be ti’n gwylio neu’n darllen
Mae cynrychiolaeth yn mynd tu hwnt i be ti’n weld ar y sgrin neu ddarllen mewn llyfr. Mae’n fwy na’r cymeriadau ti’n eu gweld ac mae’n cynnwys y bobl sy’n creu’r straeon yma hefyd. Mae cael amrywiaeth o ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, darlunwyr, actorion, cerddorion ac aelodau o’r criw yn golygu bod straeon yn cael eu hadrodd yn deg ac o wahanol safbwyntiau.
Os ydy rhywbeth ti’n darllen yn y cyfryngau yn gwneud i ti boeni neu deimlo’n drist neu’n ddryslyd, cofia bod cefnogaeth ar gael. Galli di siarad gyda rhywun yn llinell gymorth Meic. Rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth yn ddienw ac yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di gysylltu gyda ni ar y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein.
