Ble Alla i Gael Cefnogaeth y Tu Allan i Addysg?

Hyd yn oed pan nad yr ysgol yw dy system gefnogaeth arferol, cofia nid wyt ti ar ben dy hun.
Mae bod mewn addysg yn rhoi cysondeb i dy fywyd. Boed hynny’n ysgol, coleg neu brifysgol, rwyt ti’n gwybod ble ti’n mynd bob dydd, pwy ti am weld, a pwy fedri di sgwrsio gyda.
Ond beth sy’n digwydd pan mae hyn yn newid? P’un ai os yw’r gwyliau yn agosáu neu os wyt ti’n paratoi i adael addysg am byth, gall deimlo fel newid mawr. Dyma rai opsiynau o ran ble y galli di gael cymorth pan nad wyt ti mewn addysg.
Pa fath o help wyt ti angen?
Cael gwybodaeth
Efallai ti eisiau dysgu mwy am bethau i’w gwneud pan ti wedi gorffen addysg, fel gweithgareddau lleol, cyfleoedd i ddysgu pethau newydd, neu chwilio am swydd. Neu efallai bod gennyt gwestiynau am dy iechyd, lles, perthnasau neu iechyd rhywiol. Efallai dy fod yn profi newidiadau mawr yn dy fywyd. Neu efallai ti eisiau gwybod mwy am dy hawliau, arian a sut i ddod o hyd i rywle i fyw.
Cael cyngor
Wyt ti’n gwynebu sefyllfa neu benderfyniad anodd? Efallai ti’n poeni am ffrind a dwyt ti ddim yn siŵr sut i’w helpu nhw. Neu efallai dydi pethau ddim yn teimlo’n iawn. Dim ots beth yw’r sefyllfa, mae siarad gyda rhywun yn gallu dy helpu gwneud synnwyr o bethau.
Cael rhywun i eirioli drosot ti
Gall fod yn anodd siarad gyda gweithwyr proffesiynol sy’n ddiarth i ti. Efallai dy fod eisiau dweud rhywbeth, ond mae’n anodd dod o hyd i’r geiriau, neu ti’n teimlo fel bod neb yn gwrando. Mae codi llais drosot ti dy hun neu rywun arall yn gallu bod yn anodd – eiriolaeth yw’r gair am hyn. Mae cymorth ar gael os wyt ti angen. Gall pobl dy helpu i ddod o hyd i’r geiriau a’r hyder i godi llais drosot ti dy hun.
Gallet ti hefyd gael rhywun i dy gynrychioli mewn sefyllfaoedd proffesiynol. Os wyt ti angen egluro problem i rywun, ond ti’n teimlo’n bryderus – gall eiriolwr dy helpu i deimlo’n fwy hyderus a sicrhau fod dy lais yn cael ei glywed.
Ym mhle mae’r gefnogaeth yma ar gael?
Gwasanaethau lleol
Mae llefydd fel y cyngor lleol, llyfrgelloedd, clybiau ieuenctid, canolfannau cymuned neu ganolfannau hamdden yn llefydd gwych i ddysgu mwy am beth sydd yn digwydd yn dy ardal di. Byddant yn rhannu gwybodaeth am bethau fel gweithgareddau, digwyddiadau, grwpiau lleol neu hyd yn oed cyfleoedd swyddi neu hyfforddiant.
Mae gwasanaethau iechyd lleol fel dy feddygfa, fferyllfeydd neu glinigau yno i helpu gydag unrhyw bryderon iechyd a lles sydd gen ti.
Gall elusennau fod yn ffynhonnell wych i gael cefnogaeth os wyt ti angen help efo unrhyw beth penodol. Mae cysylltu gydag elusennau yn ffordd dda o ddysgu am anghenion pobl eraill a sut galli di eu cefnogi, drwy wirfoddoli neu godi arian er enghraifft.
Gwefannau
Mae gwefannau yn ddefnyddiol iawn i ddod o hyd i wybodaeth. Maent yn darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, cyfleoedd neu atebion i unrhyw gwestiynau sydd gen ti.
Mae gwefannau fel Gyrfa Cymru yn ddefnyddiol os wyt ti’n chwilio am swydd neu hyfforddiant, gwefan dy gyngor lleol i glywed am ddigwyddiadau a gwasanaethau, GIG Cymru ar gyfer unrhyw beth i’w wneud gydag iechyd, Iechyd Rhywiol Cymru os oes gen ti gwestiwn am iechyd rhywiol neu os wyt ti eisiau defnyddio’r gwasanaeth, Mind Cymru ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl, Shelter Cymru ar gyfer cefnogaeth tai a Meic am unrhyw beth.
Ffrindiau a theulu
Paid ag anghofio am y rhwydweithiau sydd o dy gwmpas yn barod. Mae sgwrsio gyda theulu a ffrindiau yn gallu rhoi cysur i ti a lleihau straen. Weithiau, mae siarad gyda rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Efallai na fydd ganddynt yr atebion i gyd, ond maent yn poeni amdanat ti a gallent roi golau newydd ar broblem a bod yno i’th gefnogi.
Llinell Gymorth
Mae cysylltu gyda llinell gymorth yn ddewis gwych os wyt ti eisiau siarad gyda rhywun.
- Mae Meic yn cynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru hyd at 25 oed gydag unrhyw broblem ble gall gwybodaeth, cyngor neu eiriolaeth helpu.
- Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol ar faterion fel cyflogaeth, budd daliadau, neu faterion cyfreithiol.
- Mae GIG 111 yno i ateb unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud ag iechyd. Mae 111 opsiwn 2 ar gyfer gwasanaeth iechyd meddwl arbennig i Gymru.
- Mae Samaritans neu Papyrus yn cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n gwynebu heriau emosiynol, problemau iechyd meddwl neu’n ystyried hunanladdiad.
Os wyt ti’n teimlo wedi gorlethu neu eisiau rhywun i wrando, mae’r gwasanaethau yma yno i ti.
Dwyt ti ddim ar ben dy hun
Hyd yn oes os nad yr ysgol yw dy system gefnogaeth arferol, cofia dwyt ti ddim ar ben dy hun. P’un ai os yw’n well gen ti sgwrsio gyda theulu, ffrindiau, oedolyn ti’n ymddiried ynddyn nhw, neu gysylltu gydag un o’r gwasanaethau uchod, mae help ar gael.
Pan ti’n penderfynu at bwy i fynd am help, meddylia beth sy’n teimlo orau i ti. Mae rhai pethau yn haws wyneb yn wyneb, tra bod pethau eraill yn haws dros y ffôn neu ar neges destun. Mae gen ti ddewis, felly dewisa beth sy’n gweithio orau i dy sefyllfa.
Paid ag anghofio galli di siarad â Meic hefyd. Rydym yma bob dydd o 8yb tan hanner nos.
