x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Effaith Alcohol ar dy Iechyd Meddwl

Cartŵn o ferch ifanc gyda gwallt coch yn esitedd ar lawr, gyda un llaw ar ei thalcen

I nifer o oedolion ifanc a phobl yn eu harddegau, mae yfed alcohol yn ymddangos fel ffordd dda o gymdeithasu a theimlo’n fwy hyderus. Efallai dy fod yn sylwi ar yr effaith corfforol mae alcohol yn ei gael arnat ti, ond gall effeithio dy ymennydd a dy iechyd meddwl hefyd. Dyma bethau i ti ystyried:

Alcohol a dy hwyliau

Mae yfed alcohol yn gallu newid sut ti’n teimlo yn y foment. Gall wneud i ti deimlo’n hyderus, siriol ac wedi ymlacio, a gall dynnu dy sylw oddi ar feddyliau neu deimladau anodd.

Nid yw’r effaith yma’n para’n hir. Fel mae’r alcohol yn gadael dy gorff, gall wneud i ti deimlo’n waeth. Ar ben y symptomau corfforol fel cur pen, trafferth cysgu a syched, gallet ti deimlo newid yn dy hwyliau.

Mae hyn yn digwydd oherwydd bod alcohol yn iselydd (depressant). Mae’n newid y balans o niwrodrosglwyddyddion yn dy ymennydd, sef y cemegau sy’n rheoli dy deimladau, meddyliau ac ymddygiad. Ar ôl yfed, gallet ti deimlo pryder, euogrwydd a chywilydd.

Mae alcohol yn lleihau dy ataliadau (inhibitions), sy’n gallu golygu dy fod yn dweud neu wneud pethau ti’n difaru. Y diwrnod wedyn, mae hyn yn gallu gwneud i ti boeni neu gwestiynu dy hun. Mae pobl wedi bathu’r gair ‘hanxiety’ am y teimlad yma.

Cartŵn o ferch gyda gwallt coch yn eistedd gyda poteli gwydr ac yn edrych yn drist

Alcohol a chyflyrau iechyd meddwl

Os wyt ti’n stryglo gyda dy iechyd meddwl, gall alcohol wneud pethau’n anoddach. Er enghraifft, efallai bod rhai pobl sydd yn dioddef o bryder cymdeithasol yn defnyddio alcohol i deimlo’n fwy hyderus mewn digwyddiadau cymdeithasol. Ond dros amser, gall hyn olygu yfed mwy ac yfed yn amlach, sy’n cynyddu’r risg o fynd yn ddibynnol.

Mae rhai pobl yn defnyddio alcohol i ‘hunan-feddyginiaethu’ ac i ymdopi gyda theimladau anodd neu symptomau iechyd meddwl. Gall edrych fel datrysiad sydyn, ond mae yfed yn gwaethygu problemau yn y pen draw. Gall effeithio ar dy gymhelliant, hwyliau ac agwedd tuag at fywyd yn gyffredinol. Mae hyn yn gallu cael effaith ar dy berthnasoedd gydag anwyliaid ac ar dy sefyllfa ariannol.

Alcohol a dy ymennydd

Yn ystod dy arddegau mae dy ymennydd yn mynd drwy gyfnod dwys o dyfu a datblygu. Mae hyn yn parhau nes canol dy ugeiniau, sy’n golygu bod dy ymennydd yn hynod o fregus i effaith alcohol yn ystod y cyfnod yma.

Mae ymchwil yn dangos bod alcohol yn amharu ar ddatblygiad arferol yr ymennydd a gall achosi effeithiau gwybyddol (cognitive) hirdymor. Gall pobl ifanc fod yn fwy tebygol o gael gwenwyn alcohol oherwydd bod eu cyrff yn llai a bod cymhareb pen-i’r-corff yn fwy felly mae mwy o alcohol yn cyrraedd yr ymennydd i gymharu ag oedolyn. Os wyt yn cychwyn yfed yn ifanc mae hyn yn gallu cynyddu’r risg o fod yn ddibynnol ar alcohol yn hwyrach ymlaen yn dy fywyd hefyd.

Llun cartŵn o ferch yn siarad gyda meddyg. Blog alcohol a iechyd meddwl

Adnoddau defnyddiol

Dyma rai adnoddau defnyddiol i helpu ti ddeall dy berthynas gydag alcohol yn well:

  • Drinkaware Drinking Check: Asesiad ar-lein i helpu ti ddeall dy berthynas gydag alcohol. Cam cyntaf gwych er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol.
  • Meddyginiaethau ac alcohol: Os wyt ti ar feddyginiaethau, mae’n bwysig gwybod os yw alcohol am gael effaith arnynt. Siarada gyda dy feddyg teulu neu edrycha ar wefan y GIG am fwy o wybodaeth.
  • Ap MyDrinkaware: Mae’r ap yma am ddim ac mae’n dy alluogi i dracio faint ti’n yfed a chadw llygad ar unrhyw batrwm yfed. Mae’n ddefnyddiol cael cofnod gweledol a bod yn ymwybodol o unrhyw batrymau.

Cael help

Er bod yfed alcohol yn teimlo’n hwyl yn y foment, mae’n bwysig deall sut mae’n effeithio dy iechyd meddwl – yn enwedig fel person ifanc. Os wyt ti’n teimlo o dan straen, yn bryderus neu wedi dy lethu, mae ffyrdd iachach o ymdopi. Mae Meic yma i wrando, cysyllta gyda’r linell gymorth am sgwrs am unrhyw beth sy’n dy boeni.