Sut i Gysylltu â AS i Ddeud Wrthynt am Fater Sy’n Bwysig i Ti

Mae cymryd rhan yn y ffordd mae Cymru a’r DU yn cael ei redeg yn bwysig. Mae cynrychiolwyr etholedig angen gwybod beth yw barn y bobl.
Mae dy Aelod Seneddol neu Aelod o’r Senedd (ASau) lleol yn gweithio i ti. Gellir cysylltu â nhw ynglŷn â phroblemau lleol, materion mwy yng Nghymru a’r DU, neu’r byd.
Gyda phwy fedri di gysylltu?
Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig (DU). Oherwydd hyn, mae gennym ddwy lefel o lywodraeth sy’n gosod rheolau i ni. Gelwir hyn yn datganoli.
Mae dy Aelod o’r Senedd yn gweithio yn y Senedd yng Nghaerdydd. Maent yn delio â materion datganoledig, sef pan fydd y Senedd yn creu deddfau ar gyfer Cymru yn unig. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau rwyt ti’n defnyddio bob dydd. Pethau fel iechyd (fel y GIG yng Nghymru) ac addysg (fel dy ysgol neu goleg). Materion datganoledig eraill yw’r amgylchedd a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae dy Aelod Seneddol yn gweithio yn Senedd y DU yn San Steffan, Llundain. Maen nhw’n delio â materion a gedwir yn ôl. Dyma bethau sy’n effeithio ar y DU cyfan. Mae hyn yn cynnwys pethau mawr fel y Lluoedd Arfog a Mewnfudo. Mae hefyd yn cynnwys Budd-daliadau a Phensiynau (fel Credyd Cynhwysol). Os yw dy fater yn ymwneud â phroblem fyd-eang, fel newid hinsawdd, dy Aelod Seneddol yw’r person gorau i gysylltu ag ef yn aml.
Os nad wyt ti’n siŵr pa berson i gysylltu ag ef, paid poeni. Dewis un. Gallant roi gwybod i ti pwy yw’r person cywir i siarad ag ef. Mae posib darganfod dy aelod lleol di wrth chwilio ar-lein gan ddefnyddio dy god post.

Cychwyn gyda’r pethau pwysicaf
Dylai dy lythyr neu e-bost fod yn glir ac yn gwrtais. Y nod yw gwneud pwynt cryf yn gyflym.
Yn gyntaf, rho dy gyfeiriad llawn. Mae ASau yn gweithio i’r bobl sy’n byw yn eu hardal leol yn unig. Mae angen iddyn nhw sicrhau dy fod di’n etholwr (person maen nhw’n ei gynrychioli). Heb gyfeiriad post, efallai na fyddan nhw’n ateb.
Defnyddia gyfarchiad syml, cwrtais. Cychwyn gydag “Annwyl [enw’r AS]”. Ar gyfer e-bost, defnyddia linell bwnc byr, clir. Er enghraifft: “Pryder am ddiogelwch parc sglefrio lleol” neu “Cyllid ar gyfer prentisiaethau ieuenctid.”

Eglura’r broblem yn glir
Cer yn syth at y pwynt yn y paragraff cyntaf. Beth yw’r mater rwyt ti’n cysylltu amdano?
Defnyddia iaith syml, uniongyrchol ac osgoi geiriau hir neu gymhleth. Efallai y byddi di’n cael dy demtio i ddefnyddio AI fel ChatGPT i helpu i wneud dy bwynt yn well, ond gall or-gymhlethu’r hyn rwyt ti’n ceisio’i ddweud. Os wyt ti’n ei ddefnyddio, sicrha dy fod di’n ei wirio fel ei fod yn gywir, yn syml ac yn glir. Er enghraifft, yn lle ysgrifennu am “ddiffyg systemig mewn darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus,” dyweda “Mae’r bws 8 y bore bob amser yn hwyr” neu “nid oes unrhyw lonydd beicio diogel yn fy nhref”.
Eglura’r effaith mae’n ei gael arnat ti. Pam mae’r mater yma’n bwysig i ti, dy ffrindiau, neu dy deulu? Os wyt ti’n teimlo’n gyfforddus, ceisia ei wneud mor bersonol a fedri di. Mae rhannu dy brofiad yn eu helpu i ddeall yr effaith bywyd go iawn. Er enghraifft, dyweda wrthyn nhw: “Am fod y bws yn hwyr, dwi’n colli cychwyn fy nosbarth coleg bob dydd.” Mae hyn yn dangos ei fod yn broblem ddifrifol sy’n cael effaith ar dy fywyd.

Beth ddylen nhw ei wneud?
Dyma’r rhan bwysicaf o’r neges. Mae angen i ti ddweud wrthyn nhw pa gamau rwyt ti eisiau iddyn nhw eu cymryd. Paid â chwyno am y broblem yn unig, gofynna am ateb neu gamau gweithredu! Efallai gofyn iddyn nhw wneud pethau fel:
- Gofyn cwestiwn – Gallant ofyn i Weinidog yn Llywodraeth Cymru neu’r DU am y mater.
- Siarad – Siarad am dy fater yn Senedd Cymru neu Senedd y DU.
- Cwrdd â thi – Gofynna am apwyntiad. Maen nhw’n cynnal sesiynau ‘syrjeri’ i gyfarfod â phobl leol.
Gwna gais syml. Er enghraifft: “Ysgrifennwch at y Gweinidog Trafnidiaeth a gofynnwch iddyn nhw drwsio amserlen y bws.” neu “Hoffwn eich cyfarfod yn eich syrjeri nesaf i drafod hyn.”

Gorffen yn gwrtais
Gorffenna’r llythyr neu e-bost gan gloi yn gwrtais. Dweud dy fod yn edrych ymlaen at glywed pa gamau y byddant yn eu cymryd. Defnyddia “Yn gywir” cyn teipio dy enw.
Cofia bod ASau yn brysur iawn. Gall gymryd ychydig wythnosau iddyn nhw ateb. Os na fyddi di’n clywed yn ôl ar ôl ychydig wythnosau, mae’n iawn anfon e-bost dilynol ysgafn. Bydda’n amyneddgar, ond bydda’n ddyfalbarhaus. Mae ysgrifennu at dy gynrychiolydd yn ffordd bwerus o wneud gwahaniaeth yn dy ardal.
Cofia dy hawliau!
Cofia fod gen ti hawl i gysylltu â’th gynrychiolwyr etholedig. Mae’r hawl hon yn rhan sylfaenol o’n democratiaeth, sy’n golygu bod ganddyn nhw ddyletswydd i wrando ar eu hetholwyr.
I unrhyw un o dan 18 oed, cefnogir yr hawl hon gan Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae Erthygl 12 yn dweud bod gan blant yr hawl i fynegi eu barn yn rhydd ym mhob mater sy’n effeithio arnynt, ac i gael eu barn wedi’i chymryd o ddifrif.
Os wyt ti dros 18 oed, mae dy hawl i siarad â phobl sy’n dy gynrychioli yn rhan sylfaenol o ddemocratiaeth y DU. Nid wyt ti’n gofyn am ffafr – rwyt ti’n hawlio dy hawl i gael dweud dy ddweud.
Os wyt ti eisiau siarad mwy am hyn neu unrhyw fater arall, cofia y gallet ti gysylltu â Meic bob amser. Rydym yma i helpu gyda gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim.