x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Sut i Gefnogi Ffrind Sydd Mewn Gofal

Merch yn ei harddegau yn eistedd ar soffa gyda dyn a dynes

Gall gefnogi ffrind sydd mewn gofal fod yn anodd, ond mae bod yn ffrind da yn golygu bod yno iddyn nhw, os ydyn nhw’n symud i gartref newydd, yn gwynebu heriau, neu’n paratoi am y cam nesaf.

Bod yn ffrind da

Mae bod yn ffrind da yn golygu bod yno i’ch gilydd drwy gyfnodau da a chyfnodau anodd, mae hynny’n arbennig o wir os yw dy ffrind mewn gofal. Mae pobl ifanc mewn gofal yn gwynebu sefyllfaoedd unigryw. Gallent fyw gyda theuluoedd maeth neu mewn cartrefi preswyl, a gallent symud o gwmpas hefyd.

Fel mae pawb yn tyfu fyny ac yn nesáu at fod yn oedolion, gall pethau deimlo’n wahanol iawn i rywun mewn gofal. Efallai eu bod yn meddwl am eu dyfodol, a gall hynny wneud iddynt deimlo pob math o emosiynau. Dyma rai ffyrdd i gefnogi dy ffrind a bod yn ffrind da, dim bwys ble maent ar eu siwrne gofal.

Beth mae bod “mewn gofal” yn ei olygu?

Mae bod mewn gofal yn golygu, am amryw o resymau, bod yr awdurdod lleol yn gofalu am berson ifanc. Gall hyn olygu eu bod yn byw gyda theulu maeth neu mewn cartref preswyl.

Nid yw hyn yn golygu bod dim byd yn “bod” gyda nhw, neu eu bod nhw’n wahanol i bawb arall. Maent dal yn ffrind i ti, ac mae ganddynt obeithio, breuddwydion a phryderon fel pawb arall. Efallai fod ganddynt brofiadau gwahanol, ond mae hyn yn ychwanegu at bwy ydyn nhw.

Tad maeth yn chwarae jenga gyda merch mewn gofal

Bod yno drwy newidiadau

Un o’r heriau mwyaf i bobl ifanc mewn gofal yw symud cartrefi. Gall hyn olygu symud i gartrefi maeth neu gartrefi preswyl gwahanol, neu symud i fyw’n annibynnol fel maent yn mynd yn hŷn. Gall hyn olygu bod rhaid iddynt symud ysgol a symud i ardal newydd, a gwneud ffrindiau newydd.

Os yw dy ffrind yn symud i ffwrdd, gwna ymdrech i aros mewn cysylltiad. Mae galwadau ffôn, negeseuon, neu drefnu ymweliad yn golygu’r byd. Mae symud yn brofiad anodd iawn. Gallent deimlo’n drist am adael rhywle sy’n gyfarwydd neu’n bryderus am symud i le diarth. Rho amser iddyn nhw, ond gad iddyn nhw wybod dy fod yno.

Os ydyn nhw wedi symud yn agosach atat ti, cynigia i fynd a nhw o gwmpas yr ardal, eu cyflwyno nhw i bobl newydd, neu eu helpu i ddod i nabod eu hysgol newydd.

Gwrando a gadael iddynt siarad

Efallai fod gan dy ffrind lot o bethau ar eu meddwl. Efallai eu bod yn poeni am aros mewn cysylltiad gyda’u teulu, eu haddysgu a’u hiechyd meddwl, neu am deimlo’n wahanol i’w cyfoedion.

Gwna ofod diogel. Gad iddynt wybod y gallent siarad gyda thi heb feirniadaeth. Does dim rhaid i ti gael yr holl atebion. Weithiau, gwrando a gadael iddynt siarad yw’r peth mwyaf defnyddiol gallet ti wneud.

Gallet ti ofyn cwestiynau agored hefyd. Mae cwestiynau fel “sut wyt ti’n teimlo heddiw?” neu “beth sydd ar dy feddwl di?” yn gallu cychwyn sgwrs iddynt rannu mwy. Ond cofia, mae angen parchu eu preifatrwydd. Efallai na fyddant eisiau siarad am bopeth, ac mae hynny’n iawn. Paid â’u gwthio i rannu mwy na maent yn gyfforddus efo.

Merch ifanc yn reidio beic

Cynnig cefnogaeth ymarferol (heb gymryd drosodd)

Efallai fod dy ffrind yn delio gyda llawer o bethau ymarferol – cyfarfodydd gyda gweithwyr cymdeithasol, meddwl am geisiadau coleg neu swyddi, neu ddysgu sgiliau bywyd fel coginio neu reoli arian.

Gallet ti gynnig helpu, fel adolygu gyda’ch gilydd cyn arholiad, bod yn gwmni iddynt mewn diwrnodau agored, neu gynnig helpu gyda cheisiadau swyddi. Os oes gen ti sgiliau coginio neu reoli arian da, gallet ti gynnig helpu gyda rhain hefyd.

Ond yn bwysicach na dim, cofia mai eu siwrne nhw yw hon. Dy rôl di yw eu cefnogi, nid cymryd drosodd na gwneud penderfyniadau ar eu rhan.

Bydda’n amyneddgar ac yn hyblyg

Gall bywyd mewn gofal fod yn llawn o newid ac ansefydlogrwydd. Gall gynlluniau newid yn fyr rybudd ac effeithio ar eu bywyd bob dydd. Efallai eu bod o dan straen, ychydig yn bigog neu fod eu meddwl yn rhywle arall. Bydda’n barod i newid cynlluniau – mae ychydig o amynedd yn mynd yn bell.

Y peth pwysicaf galli di wneud yw cynnig cyfeillgarwch a chysur. Atgoffa nhw, er efallai bod eu cartref yn newid, nid oes rhaid i’ch cyfeillgarwch newid. Trefna i gwrdd ag aros mewn cysylltiad. Mae gwybod bod ganddynt ffrind dibynadwy yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth iddynt gamu fewn i bennod nesaf eu bywyd.