x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Wyt ti wedi sylweddoli ar fwy o faneri yn ddiweddar – beth yw ystyr rhain?

Llun o Jac yr Undeb yn chwifio ar bolyn

Os wyt ti wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar neu am dro o gwmpas dy ardal leol, efallai dy fod wedi sylweddoli ar fwy o faneri o gwmpas y lle. Ar ben ei hunain, mae baneri yn symbolau o wlad, ac maent yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Mae rhai yn eu harddangos fel symbolau o falchder, gwladgarwch neu fel addurniadau.

Beth sy’n mynd ymlaen?

Mae ymgyrch ar-lein o’r enw ‘Operation Raise the Colours’ wedi cychwyn ym mis Awst 2025. Mae’n annog pobl i arddangos Jac yr Undeb a fflagiau pedwar gwlad y Deyrnas Unedig. Mae cefnogwyr yr ymgyrch yn dweud mai nod yr ymgyrch yw annog balchder cenedlaethol a gwladgarwch. Fodd bynnag, mae rhai yn dweud mai pwrpas yr ymgyrch yw gwahanu pobl.

Beth mae’r cefnogwyr yn ddweud?

Mae cefnogwyr yn dadlau bod arddangos symbolau cenedlaethol yn ffordd gadarnhaol o fynegi balchder yn dy wlad a dy gymuned. Maent yn credu bod baneri yn symbolau o’n hanes, diwylliant a’n gwerthoedd ac y dylwn ni fod yn falch o hynny.

Mae Jac yr Undeb, baner y Deyrnas Unedig, yn cyfuno croes Lloegr, yr Alban a’r Iwerddon. Mae rhai pobl yn teimlo llai o gysylltiad gyda’r faner, ac mae gwell ganddyn nhw arddangos eu baner genedlaethol. Mewn rhai gwledydd, fel Gogledd Iwerddon, mae Jac yr Undeb yn drwm o ystyr gwleidyddol.

Beth mae’r gyfraith yn ddweud am hyn?

Mae rhoi baneri i fyny ar eiddo preifat fel dy dŷ, gardd neu fusnes yn gyfreithlon. Ond, mae rhoi baneri ar eiddo’r cyngor, fel polion lamp neu gylchfannau, heb ganiatâd, yn anghyfreithlon. Mae yna gyfyngiadau ar faint y faner ac os ydy o’n rhwystro gyrwyr neu lwybr cyhoeddus.

Mae yna gyfyngiadau ar faneri yn gyffredinol, os ydyn nhw’n arddangos neges sarhaus, er enghraifft.

Dwylo yn chwifio baneri Cymru

Pam bod pobl yn poeni?

Mae rhai yn poeni bod y cynnydd mewn baneri yn creu rhaniadau mewn cymunedau a gallent gael eu defnyddio i annog agenda gwleidyddol yn hytrach na gwladgarwch gwirioneddol.

I rai trigolion, yn enwedig rhai sydd wedi mudo i Brydain, mae cynnydd mewn baneri yn gallu teimlo’n anghynnes neu hyd yn oed yn fygythiol, yn enwedig os ydyn nhw’n gysylltiedig gyda rhethreg gwrth-mewnfudo.

Be ddylai pobl ifanc wneud?

Efallai dy fod ti wedi arfer teimlo balchder wrth weld baneri yn ystod digwyddiad chwaraeon mawr, ond nawr dwyt ti ddim yn siŵr sut i deimlo. Meddylia yn feirniadol am yr hyn y mae symbolau cenedlaethol yn ei olygu i ti a dy gymuned. Ydyn nhw’n dod â phobl ynghyd neu’n eu rhannu?

Mae’r ddadl am faneri yn adlewyrchu cwestiynau mwy am hunaniaeth, perthyn, a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Brydeinig neu’n Gymraeg yn 2025. Mae’r rhain yn sgyrsiau sy’n werth eu cael, cyn belled â’n bod ni’n eu cadw’n barchus. Gallet ti sianelu dy deimladau i weithredu’n gadarnhaol. Fel defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth ffeithiol, gwrando ar straeon go iawn gan bobl sydd wedi symud i Brydain neu gallet ti ysgrifennu at dy gynghorydd lleol neu AS.