x
Cuddio'r dudalen

Glasoed

Cartŵn o ddinosor gyda stethosgop a golau ar ei ben

Y glasoed yw pan fydd dy gorff di’n dechrau newid yn araf bach i mewn i gorff oedolyn. Mae gwallt yn tyfu mewn llefydd newydd; bronnau, y pidyn a’r ceilliau yn tyfu; y mislif yn cychwyn; llais yn mynd yn ddyfnach.

Dyma’r cyfnod pan fydd dy gorff di’n aeddfedu’n rhywiol. Mewn llawer o bobl, mae hyn yn golygu bod dy gorff di’n gallu creu babi.

Fel arfer, mae hyn yn digwydd rhwng 10 ac 16 oed, ond mae pawb yn wahanol. Mae rhai yn mynd trwy’r glasoed cynt, a rhai yn hwyrach. Mae’n berffaith normal.

Os wyt ti eisiau gwybod mwy am y glasoed, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic. 

Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth:

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma rhai ohonynt sydd yn edrych ar y glasoed: