x
Cuddio'r dudalen

Mislif a’r Glasoed

Mae cychwyn dy fislif (period) yn gallu bod yn gyfnod anodd a dryslyd. Mae newidiadau yn digwydd i dy gorff a gall hyn achosi rhywun i boeni. Ond mae Meic yma i helpu gyda gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol fydd yn help i ti i ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd.

This article is also available in English  – To read this content in English – click here

Mae’r glasoed (puberty) yn gallu cychwyn rhywbryd rhwng 8 a 13 oed, yr oedran cyfartalog i enethod ydy 11. Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn dweud i beidio poeni os nad yw’r glasoed wedi cychwyn rhwng y ddau oedran yma. Ond os yw’n cychwyn cyn 8 oed neu heb gychwyn o gwmpas 14 oed, yna byddai’n syniad cael sgwrs fach gyda’r doctor. Gall y glasoed effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Nid oes y fath beth ag normal!

Bydd dy gorff yn newid lot. Efallai byddi di’n teimlo’n od am y newidiadau yma, ond nid oes rhaid i ti boeni. Mae’n gwbl naturiol ac yn digwydd i bawb – felly paid teimlo’n unig yn hyn.

Bronnau, sbotiau a hylifau!

Datblygiad y bronnau (brestiau) ydy’r arwydd cyntaf o’r glasoed fel arfer. Bydd blew yn dechrau tyfu o dan dy gesail a’r ardal bwbig, a byddi di’n dechrau chwysu. Mae hyn i gyd yn gwbl normal yn y cyfnod yma. Ond mae’n gallu gwneud i rywun deimlo ychydig yn fudur, sydd ddim yn deimlad braf! Ceisia gymryd cawod bob dydd a chario diaroglydd (deodorant) gyda thi. Gallet ti ei ddefnyddio pan fyddi di’n teimlo’n chwyslyd.

Mae sbotiau yn ymwelydd digroeso glasoed hefyd yn anffodus. Sicrha dy fod di’n golchi dy wyneb yn dda – bydd hyn yn helpu. Efallai defnyddia golch wyneb arbennig i groen sbotlyd. Os wyt ti’n teimlo dy fod di’n dioddef o acne drwg yna siarada gyda’r doctor, efallai gallai roi golch wyneb neu feddygaeth arbennig i ti.

Os wyt ti’n sylwi ar hylif clir neu wyn yn dy ddillad isaf, sydd ddim yn arogli’n gryf neu’n annymunol, yna mae hyn yn gwbl normal hefyd. Dyma’r ffordd mae dy gorff yn amddiffyn dy fagina o haint.

dyddiad ar galendr erthygl mislif a'r glasoed

Myfyrio’r Mislif

Nid oes rhaid i ti deimlo cywilydd nac yn lletchwith yn siarad am y mislif. Mae’n gwbl naturiol ac mae’r mwyafrif o ferched wedi profi hyn. Mae cychwyn dy fislif fel arfer yn golygu bod dy gorff yn gallu creu babi.

Mae’n debygol iawn bod dy riant, gwarchodwr neu ysgol wedi siarad am y mislif a’r hyn fydd yn digwydd eisoes, ond er pa mor barod wyt ti, gallai fod yn brofiad ofnus. Bydd siarad gyda rhywun yn helpu. Mae’n debyg byddai’n haws siarad gydag aelod benywaidd o’r teulu, gan eu bod nhw wedi profi’r un newidiadau. Os oes gen ti ormod o gywilydd codi’r pwnc, yna gallet ti ysgrifennu nodyn a’i roi iddynt. Eglura dy deimladau am yr holl newidiadau.

Os wyt ti’n mynd drwy’r glasoed a dy gorff yn newid efallai byddai’n syniad da cario tywel (cadach) mislif yn dy fag. Byddi di’n barod wedyn pan fydd y mislif yn cychwyn ble bynnag wyt ti. Efallai mai tywel mislif fyddai’r peth gorau i ddefnyddio i gychwyn, ond gallet ti symud ymlaen at tampons neu gwpan mislif unwaith i ti ddod yn fwy cyfforddus. Mae’r mislif yn gallu para am 3 i 7 diwrnod ac unwaith i dy gorff ddod i batrwm byddi di’n cael mislif bob 28 i 30 diwrnod fel arfer. Mae yna gyngor gwych am y mislif, damweiniau gollwng, defnyddio tyweli, tampons neu gwpanau ayyb ar wefan y GIG.

Rwyt ti’n hollol normal

Cofia nad oes rhaid i ti deimlo cywilydd am y newidiadau sydd yn digwydd i ti. Hormonau sydd yn gyfrifol am y newidiadau yma, maent yn gwbl normal a bydd y mwyafrif o bobl wedi, neu yn, profi hyn.

Ti ddim ar ben dy hun, bydd llawer o ferched dy oed di yn teimlo’r un ffordd. Cofia bod yna wastad rywun i siarad â nhw os wyt ti angen cyngor, bod hynny gartref, yn yr ysgol, clwb ieuenctid, neu rywle arall. Gallet ti hyd yn oed codi’r ffôn, tecstio neu yrru neges ar-lein at Meic i siarad gyda chynghorydd yn ddienw.

Os oes gen ti gwestiynau am y glasoed yna efallai bydd yr atebion ar gael ar dudalen Cwestiynau ac Atebion Genethod a’r Glasoed yma ar wefan GIG

Mae gan Childline wybodaeth dda am lasoed ar eu gwefan hefyd, fel yr hyn sydd yn digwydd a beth i’w ddisgwyl yn y cyfnod yma. Mae ganddynt dudalen yn edrych ar y mislif yn benodol hefyd, gyda llawer o awgrymiadau defnyddiol.

Os wyt ti’n fachgen ac eisiau gwybod mwy am y glasoed yna edrycha ar dudalen Glasoed i Fechgyn.

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am y mislif, glasoed neu unrhyw beth sydd yn dy boeni neu ddrysu, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.