x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Beth yw Diwali a Sut Mae Pobl yn Dathlu?

Family sitting together on the floor

Mae Diwali yn cael ei adnabod fel gŵyl y goleuadau. Mae’r ŵyl hon yn cael ei dathlu gan bobl Hindŵ, Sîc, Jain a rhai Bwdhaidd.

Beth yw Diwali?

Mae’r gair Diwali yn golygu ‘rhesi o lampau wedi’u goleuo’. Mae Diwali yn ŵyl bum niwrnod, ac mae gan bob diwrnod ei ystyr arbennig ei hun. Mae’r dyddiadau’n newid bob blwyddyn gan fod Diwali yn dilyn calendr y lleuad, ond mae bob amser yn disgyn rhwng mis Hydref a mis Tachwedd.

Mae yna sawl stori sy’n gysylltiedig â Diwali. Mae’r straeon hyn yn amrywio ar draws gwahanol grefyddau a rhanbarthau. Y prif syniad ym mhob un ohonynt yw buddugoliaeth dda dros ddrwg.

Two kids celebrating diawli and exchanging gifts

Dathlu Diwali

Ffocws Diwali i lawer o bobl yw croesawu Lakshmi, duwies cyfoeth. Mae pobl yn goleuo llawer o lampau, gelwir yn diyas, a chanhwyllau. Maent yn gadael drysau a ffenestri ar agor. Mae hyn fel bod Lakshmi yn gallu dod i mewn i’r cartref. Maent yn gobeithio y bydd hi’n dod â lwc dda a ffyniant.

Ffyrdd eraill y mae pobl yn dathlu yw:

  • Glanhau eu cartrefi cyn i’r ŵyl ddechrau. Mae hyn yn paratoi’r cartref ar gyfer blwyddyn newydd, ffres.
  • Gwisgo dillad newydd i nodi’r achlysur arbennig a chychwyn newydd.
  • Cyfnewid anrhegion gyda theulu a ffrindiau. Yn aml, losin a ffrwythau sych.
  • Paratoi gwledd a danteithion melys arbennig, gwelwir yn mithai.
  • Addurno cartrefi ac adeiladau gyda goleuadau ffansi a phatrymau lliwgar, gelwir yn rangoli.
  • Mwynhau arddangosfeydd tân gwyllt enfawr gyda’r nos. Mae’r goleuadau yma’n ychwanegu at yr awyrgylch yr ŵyl ac yn symboleiddio trechu’r tywyllwch.

Diwali Hapus

Os wyt ti’n dathlu Diwali, gobeithio y byddi di’n cael amser gwych! Os ddim, nawr rwyt ti’n gwybod ychydig mwy am yr ŵyl arbennig yma.