Cymorth Ymarferol i Bobl Ifanc ag Awtistiaeth

P’un ai os oes gennyt ddiagnosis o awtistiaeth neu beidio, dyma rai strategaethau i helpu ti reoli dy anghenion synhwyrol, cyfathrebu a phatrymau dyddiol.
Creu amserlen gadarn
Mae cadw at amserlen ddyddiol yn creu teimlad o sefydlogrwydd ac yn lleihau pryder. Trïa greu amserlen ddyddiol neu wythnosol sy’n cynnwys amser ar gyfer gwaith, ymlacio a gweithgareddau. Drwy gynllunio dy amser, ti’n teimlo mwy o reolaeth.
Mae creu amserlenni neu restrau gweledol yn helpu ti gyrraedd dy dargedau a rheoli dy amser yn effeithiol.
Torri tasgau i lawr
Mae amserlenni neu restrau gweledol yn ddefnyddiol, yn enwedig os wyt ti’n rhannu dy dasgau i lawr yn rai llai. Mae tasgau mawr yn gallu teimlo’n llethol. Trïa dorri nhw lawr yn dasgau llai. Bydd hyn yn gwneud iddynt deimlo’n haws ac yn helpu ti deimlo’n llwyddiannus. Dechrau gydag un cam bach, a gweithia dy ffordd drwy weddill y tasgau.
Mae cymorth gweledol fel cyfarwyddiadau ysgrifenedig, diagramau neu amserydd ar sgrin yn gallu bod yn ffyrdd da i brosesu gwybodaeth ac aros yn drefnus.
Rheoli dy synhwyrau
Canolbwyntia ar dy anghenion synhwyrol a dod o hyd i ffordd i greu gofod sy’n teimlo’n gyfforddus i ti. Mae newidiadau bach fel dewis defnyddiau mwy esmwyth neu osgoi arogleuon cryf yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Os wyt ti’n sensitif i rai synau, ystyria ddefnyddio glustffonau sy’n cau sŵn allan.
Os wyt ti’n sensitif i olau llachar, trïa wisgo sbectol haul neu addasu’r golau yn y stafell.
Mae teclynnau synhwyrol fel teganau ‘fidget’, blancedi trwm neu ddefnydd gweadog yn gallu helpu ti reoli dy synhwyrau a lleihau pryder. Arbrofa i weld beth sy’n gweithio orau i ti. Mae’r teclynnau yma yn helpu ti ymlacio, yn enwedig mewn sefyllfaoedd sy’n gallu creu straen a phryder i ti.
Cyfathreba dy anghenion
Paid â bod ofn cyfathrebu dy anghenion i bobl eraill. Gad iddynt wybod beth sy’n gwneud i ti deimlo’n gyfforddus a beth sy’n heriol.
Er enghraifft, gallet ti ddweud, “dwi’n gallu canolbwyntio yn well os oes llai o bethau yn tynnu fy sylw” neu “mae’n well gen i gyfarwyddiadau ysgrifenedig”.
Drwy fod yn glir am dy anghenion mae pobl eraill yn deall sut i dy gefnogi di.
Creu gofodau diogel
Mae’n bwysig sicrhau fod gen ti ofod distaw a diogel i ymlacio. Gall hyn fod yn dy ystafell wely, cornel dawel neu unrhyw le sy’n teimlo’n ddiogel a chyfforddus. Mae cael gofod neu ofodau diogel yn ddefnyddiol iawn er mwyn rheoli straen a phryder.
Bydd yn eiriolwr i ti dy hun
Rwyt ti’n gallu arfogi dy hun gyda gwybodaeth, ac mae gen ti’r hawl i ofod cefnogol a chynhwysol.
Mae’n bwysig dysgu am dy hawliau er mwyn hawlio’r addasiadau ti angen yn yr ysgol, gwaith neu unrhyw le arall. Paid â bod ofn gofyn am be ti angen i lwyddo.
Chwilia am gymunedau cefnogol
Mae cysylltu gyda phobl ifanc awtistig eraill yn gallu rhoi teimlad o berthyn i ti. Gall fforymau ar-lein, grwpiau cefnogi a sefydliadau, gwasanaethau a phrosiectau lleol fod yn adnoddau gwerthfawr. Mae rhannu dy brofiadau a dysgu gan eraill yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn a helpu ti deimlo’n rhan o gymuned.
Dysgu mwy am Awtistiaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael
Darganfod mwy am awtistiaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i ti.
Os hoffet ti fwy o wybodaeth am awtistiaeth neu os hoffet ddarganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, gallet ti siarad gydag oedolyn ti’n ymddiried ynddynt, dy feddyg teulu, neu’r Gwasanaeth Integredig Awtistiaeth leol. Mae sefydliadau fel Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth neu Niwroamrywiaeth Cymru yn gallu cynnig cefnogaeth ac adnoddau.
Os nad wyt ti’n siŵr os oes gen ti awtistiaeth neu beidio, galli di siarad gyda dy feddyg teulu. Rydym yn deall bod hyn yn gallu teimlo’n ddychrynllyd i rai pobl. Os wyt ti eisiau siarad gyda rhywun am dy opsiynau, cysyllta gyda Meic.
Mae Meic yn wasanaeth cyfrinachol a dienw ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli di gael cefnogaeth o 8yb i hanner nos bob dydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Meic yn rhywun ar dy ochor di.
