Stelcio: Adnabod yr Arwyddion a Sut i Roi Gwybod i Rywun

Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n cael dy stelcio? Paid ag anwybyddu’r arwyddion. Dysga sut i adnabod arwyddion o stelcio a beth allet ti wneud i aros yn ddiogel.
Beth yw stelcio?
Stelcio yw pan mae rhywun yn gwneud pethau sy’n gwneud i ti deimlo’n ofnus neu’n bryderus dro ar ôl tro. Nid yw’n un peth annifyr, ond patrwm o ymddygiad sy’n parhau i ddigwydd.
Os ydyn nhw’n parhau ar ôl i ti ofyn iddyn nhw beidio, trio dy reoli neu dy wylio, yn dy ddilyn, yn gyrru negeseuon yn gyson, neu yn anfon pethau atat ti.
Os yw ymddygiad rhywun arall yn gwneud i ti deimlo’n drist neu’n ofnus drosodd a throsodd, Stelcio yw hyn, ac mae’n bwysig rhoi gwybod i rywun.
Mathau o stelcio
Mae stelcio yn gallu bod yn weithred gorfforol sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus. Gall hyn gynnwys:
- Dy ddilyn pan ti’n teithio adref neu i lefydd eraill
- Ymddangos yn y llefydd ti’n mynd, fel yr ysgol, dy waith neu lefydd cymdeithasol
- Gyrru anrhegion neu nodiadau atat ti, neu drio cysylltu â thi
Mae stelcio seibr yn digwydd ar-lein ac mae’n gallu gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus iawn hefyd. Mae’n cynnwys defnyddio technoleg i dy aflonyddu neu dy wylio, gwneud i ti deimlo fel bod rhywun yno o hyd. Mae enghreifftiau o stelcio seibr yn cynnwys:
- Gyrru llwyth o negeseuon neu adael sylwadau ar dy gyfrifon cymdeithasol
- Creu cyfrifon ffug er mwyn dy aflonyddu, neu honni mai ti sydd yno
- Tracio dy leoliad drwy apiau neu gyfryngau cymdeithasol
- Gyrru lluniau neu fideos preifat heb ganiatâd
- Defnyddio dy gyfrifon heb ganiatâd
- Defnyddio meddalwedd i gadw llygad ar be ti’n wneud ar-lein
Effaith stelcio
Mae stelcio yn gallu cael effaith sylweddol arnat ti.
Efallai dy fod yn teimlo’n ofnus ac yn bryderus drwy’r amser, a dwyt ti methu ymlacio. Gallet ti deimlo’n unig iawn, a bod neb arall yn deall. Mae’n normal i deimlo dy fod methu gwneud dim byd i stopio hyn rhag digwydd. Efallai dy fod yn teimlo dryswch ac yn meddwl pam bod hyn yn digwydd i ti, neu deimlo’n flin ac nad wyt ti’n gallu ymddiried yn neb dim mwy. Mae’n gallu teimlo bod rhywun wedi amharu ar dy ddiogelwch a dy breifatrwydd.
Mae stelcio yn gallu effeithio ar dy iechyd corfforol hefyd oherwydd yr holl straen. Gall fod yn anodd cysgu neu ganolbwyntio, a rhoi cur yn dy ben neu boen yn dy fol i ti.
Y gyfraith ar stelcio
Ym Mhrydain, mae stelcio yn erbyn y gyfraith. Mae cyfreithiau fel Deddf Amddiffyn Rhag Aflonyddu 1998 a’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015 yn dy ddiogelu.
Os wyt ti o dan 18, rwyt ti’n cael dy amddiffyn gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n dweud y dylet ti fod yn ddiogel o bob math o niwed.
Os wyt ti dros 18, galli di ddefnyddio’r gyfraith er mwyn amddiffyn dy hun. Mae’r heddlu cyn cymryd Stelcio o ddifri a gallent dy gadw’n ddiogel.
Beth ddylwn i wneud os dwi’n cael fy stelcio?
Os oes rhywun yn dy stelcio, mae’n bwysig iawn gwneud rhywbeth am hyn. Dyweda wrth rywun rwyt ti’n ymddiried ynddo, fel aelod o’r teulu, athro neu weithiwr ieuenctid. Cadwa gofnod o bob dim, gyda dyddiadau, amseroedd, ac unrhyw brawf sydd gennyt. Bydd hyn yn dy helpu i’w fonitro a chasglu tystiolaeth.
Galli di gysylltu gyda’r Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol, sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh. Ffonia 0808 802 0300 i gysylltu gyda nhw. Edrycha ar eu gwefan am oriau agor.
Gallet ti hefyd ffonio’r heddlu i roi gwybod am Stelcio a chael cymorth. Ffonia 999 mewn argyfwng neu 101 ar gyfer achosion sydd ddim yn argyfwng.
Os nad wyt ti’n siŵr at bwy i fynd am help neu os wyt ti eisiau siarad â rhywun, galli di gysylltu â Meic bob dydd o 8am tan hanner nos. Sgwrsia â ni dros y ffôn, neges WhatsApp, neges destun, neu sgwrs ar-lein. Gallwn wrando arnat heb feirniadaeth a gallwn dy gyfeirio at y gwasanaeth cymorth gorau i ti.
